Y Diweddaraf o Fyd AM! // The Latest News from AM!
The Space- Rhaglen Fentora Digidol Rydym yn gweithio gyda The Space a Chyngor Celfyddydau Cymru ar raglen fentora digidol i helpu artistiaid a sefydliadau celfyddydol a chreadigol i ddatblygu sgiliau digidol, yn cynnwys creu cynnych digidol, cyhoeddi a datblygu chynulleidfa. Bydd y rhaglen yn dechrau gyda sesiwn flasu ar Ebrill 13fed, a fydd yn cael […]
Plethu | Weave: Matrics Cerddorol.
gan / by Elan Elidyr + Ed Holden.
Mae “Matrics Cerddorol” yn archwilio’r cytgord rhwng technoleg a’n byd naturiol trwy sain a symudiad. Yn aml gall technoleg bob dydd orlethu ein hamgylcheddau organig sydd yn ei dro yn cymylu’r llinell gytgord. Mae ‘Matrics Cerddorol’ yn archwilio ‘Matrics’ y berthynas hon.
The Clockwork Crow

Antur aeafol gyda Volcano. Addasiad o nofel gan Catherine Fisher.
Un dydd ar y tro – Gwerslyfr | Workbook
Ymerferiadau llesiant meddyliol dyddiol i blant ysgol gynradd, gyda Leisa Mererid.
Cewch gopi o werslyfr un dydd ar y tro YMA.
‘Rhwng Dau Olau’ – Ifor ap Glyn

19:00 | 31.03.21
Ifor ap Glyn yn cyflwyno a darllen cerddi o’i gyfrol newydd Rhwng dau Olau (yn y siopau fis Mawrth)
ar gael ar alw ar AM
2. Dosbarth Meistr | Masterclass – Elinor Bennett

Master Class with Artistic Director, Elinor Bennett
31 Mawrth 12:00 – 13:30
Gallwch brynu tocyn i wylio y sesiwn YMA.
Pris: £5
AMSER STORI
Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll
gan Carys Glyn (awdur) a Ruth Jên (darlunydd)
Cystadleuaeth Ysgrif O’r Pedwar Gwynt

Gwobr ariannol, a chyfle i gyhoeddi gydag O’r Pedwar Gwynt
Y Casglwr

Cylchgrawn Cymdeithas Bob Owen yw’r Casglwr. Mae’n ymwneud â chasglu pob math o bethau’n gysylltiedig â’r bywyd Cymraeg a Chymreig, yn enwedig llenyddiaeth a deunydd diwylliannol. Mae’n adnabyddus am ei hysbysebion llyfrau ail law. Fe’i cyhoeddir deirgwaith y flwyddyn, trwy’r post i aelodau, sy’n talu £10 eleni, gyda’r tâl aelodaeth yn codi i £18 yn […]
the welsh agenda

Dros gyfnod o ugain mlynedd mae The Welsh Agenda wedi cael ei ystyried fel y cylchgrawn diwylliannol a gwleidyddol pwysicaf. Caiff ei gynhyrchu gan yr Institute of Welsh Affairs (IWA) a’i ryddhau ddwywaith bob blwyddyn. Fe’i hystyrir yn gartref ar gyfer newyddiaduraeth araf o safon sy’n edrych ar wleidyddiaeth, cymdeithas, economeg, diwylliant a chwaraeon y […]
Yr aflwydd: stori o Tsieina

gan Qing Niao
Llun: Leon Liu / Unsplash
Fukushima (Mawrth 2016)

Am groesi llinell yr hanner cant, fy ngwobr gysur ar wyliau yn Fiena – catalog arddangosfa Fukushima. Ond nid delweddau’r apocalyps: anadliadau’r wlad, ei rhythmau beunyddiol, goddefol dros ddegawd a ddaliwyd ar lens ffotograffydd bum mlynedd ynghynt a chyn lansio’r enw diarffordd yn frand rhyngwladol. Y capsiynau mor elfennol â phenillion haicw – ‘Enfys ym […]
Mike Parker’s Season Salon 2: Spring Equinox/Alban Eilir

YN FYW: 19:30 | 20.03.21
Ar gyfer yr ail yn y gyfres ‘Season Salon’, mae’r awdur a darlledwr Mike Parker yn dathlu Alban Eilir, y seibiant byrhoedlog hwnnw yn ystod blwyddyn sydd yn prysur gyflymu, yr eiliad byr hwnnw pan mae’r dydd a’r nos yn aros yn eu hunfan yn hafal. Bydd Mike yn cael ei ymuno gan Nial Griffiths, yr awdur profiadol, i ddathlu Dan y Wenallt, ysgrif fwyaf bywiog y gwanwyn, a bydd cyfle ecsgliwsif i glywed Niall yn darllen ei waith newydd, wedi ei osod ar yr un dydd o wanwyn; Alban Eilir. Bydd yr artist Fern Smith yn ein harwain ar ddawns yn y wawr ar ben Cader Idris i gyfeiliant Patti Smith, ac wedi ei ysbrydoli gan adran o ‘On the Red Hill’ llyfr Mike, byddwn yn archwilio ochrau tywyll a thrafferthus y gwanwyn.
Young Playwrights 2020 / Dramodwyr Ifanc 2020

Yn haf 2020, cynhaliodd Theatr Iolo gystadleuaeth i blant a phobl ifanc rhwng 7 ac 16 oed ysgrifennu drama ddeng munud wreiddiol. Lansiwyd y gystadleuaeth ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn dysgu gartref oherwydd COVID-19 ac yn darparu gweithgaredd creadigol i blant a phobl ifanc tra bod theatrau […]
Cristion

Cylchgrawn deufisol cyd-enwadol yn edrych ar y byd trwy lygaid y ffydd Gristnogol ac yn tystiolaethu i’r ffydd honno yn y Gymru Gymraeg gyfoes £1.50 y rhifyn yn y siopau Tanysgrifiadau: Personol – £15 y flwyddyn trwy’r post, Dwbl – £21 (am 2 gopi trwy’r post) Am fwy o opsiynau tanysgrifio cysylltwch â: Swyddog Tanysgrifiadau, […]
Cofio John Jenkins: gwrol ryfelwr Gareth Miles

Oherwydd nad efelychodd Gwynfor Evans yn Nhryweryn wrthdystiad Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine ym Mhenyberth yn 1936, Pleidiwr llugoer fûm i gydol y 1960au. Ond ryw noswaith ym mis Medi 1967 ildiais i berswâd cyfaill a daerai fod ‘cangen Wrecsam wedi newid… Mae gynnon ni ysgrifennydd newydd effeithiol iawn. Di-Gymraeg, ond rhaid i […]
Y Cymro

Unig Bapur Newydd Annibynnol Cymru. Mae hanes hir i bapur newydd Y Cymro, a bu’n cael ei gyhoeddi ar sawl ffurf. Mae mwy o wybodaeth yma. Cyfryngau Cymru Cyf sy’n cyhoeddi’r Cymro ers Mawrth 2018. Mae’r Cymro ar gael i’w brynu mewn siopau ar draws Cymru. Neu i danysgrifio i dderbyn Y Cymro drwy’r post […]
GWOBRAU TIR NA N-OG AWARDS 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gyhoeddi teitlau’r naw llyfr sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021 sy’n anrhydeddu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Gwobrau New Welsh Writing Awards 2021

Mae Gwobrau New Welsh Writing Awards 2021: Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig yn chwilio am geisiadau rhwng 5,000 a 30,000 gair, gan ysgrifennwyr o Brydain neu Iwerddon (neu rhai o lefydd eraill sydd wedi cael eu haddysg yng Nghymru dros gyfnod o 6 mis). Beirniad y Gwobrau yw golygydd New […]
Plethu / Weave: Mae’r Dŵr yn Dal Lle/Resurrect Dormant DNA – Rufus Mufasa & Camille Giraudeau
Dysgwch fwy am y brosiect!
Welsh Football

Cyhoeddwyr annibynol y cylchgrawn pêl-droed yng Nghymru, ers 1992. Cyhoeddiadau dim elw, wedi’u hysgrifennu gan ac i rheiny sy’n caru’r gêm. Ein gobaith yw hyrwyddo, dathlu a chofnodi straeon unigryw am bêl-droed yng Nghymru, straeon o’r gorffennol a’r presennol, gyda phwyslais ar ddathlu statws Cymru fel cenedl annibynol ym myd pêl-droed Mae ein cyhoeddiad craidd […]
Seren Cardiff Poetry Festival

Cafodd Seren Cardiff Poetry Festival ( Seren Cornerstone gynt) ei sefydlu yn Chwefror 2018, mewn partneriaeth rhwng y cyhoeddwyr llyfrau annibynnol –Seren, a Cornerstone Caerdydd. Pob blwyddyn, mae’r ŵyl yn darparu rhaglen eclectig o ddigwyddiadau gyda pherfformwyr o hyd a lled Cymru, y D.U. a thu hwnt; gan gynnwys barddoniaeth, ffilm, celf, a cherddoriaeth gan leisiau cyfarwydd […]
Cerddi Heddwch | Peace Poems

Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, mae PEN Cymru a’r Academi Heddwch wedi dod at ei gilydd i rannu cerddi sy’n ein cynorthwyo i ystyried ‘heddwch’. Drwy leisiau 12 bardd o Gymru, cawn gip ar wahanol agweddau ar heddwch a chawn gyfle i feddwl am ran Cymru yn y gwaith o hyrwyddo heddwch yn y byd. Gyda diolch i bawb a ymatebodd i’r alwad am gerddi drwy PEN Cymru.
FIDEO: Digwyddiad Diwrnod Rhynwgladol Mamiaith 2021

Darlleniadau gan feirdd a thrafodaeth yn archwilio’r syniad o ‘famiaith’ ac ‘iaith frodorol’ yng nghwmni Menna Elfyn, Ifor ap Glyn, Sian Northey, Grug Muse, Ned Thomas ac Elin Haf Gruffydd Jones.
Pennod 1: Pam dan ni’n sgwennu

Colli’r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros.
Pedwar awdur sy’n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.
Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Penwythnos o gylchgronau Cymru
#DewisHero: Rob Phillips
Ar gyfer #DiwrnodRhyngwladolyMerched mae rhai o’n staff wedi dethol menyw sydd wedi gwneud argraff arnyn nhw am eu bod nhw wedi #DewisHerio. Dyma Rob Phillips o’r Archif Wleidyddol Gymreig yn egluro pam fod Ann Clwyd yn un i’w hedmygu am iddi herio’r drefn.
#IWD2021
#DewisHero: Iola Baines
Roedd Red Flannel Films yn gwmni ffilm benywaidd wnaeth #DewisHerio. Yma, mae Iola Baines o’r Archif Sgrin a Sain yn esbonio sut y bu iddynt arloesi drwy gynnig dulliau gweithio newydd a chynhwysol a rhoi sylw i fywyd menwyod yn eu ffilm ‘Mam’
#IWD2021
#DewisHerio: Morfudd Bevan

The artist Seren Morgan Jones’ striking portraits depict Welsh women in a mixture of a contemporary and classical style. Our Curator of Art, Morfudd Bevan explains why she has selected her as a woman who #ChoosesToChallenge
#IWD2021
Beth yw ‘normal’? Portread o ferched mewn nofelau Cymraeg cyfoes

19:00 | 08.03.21
8 Llyfr ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod | 8 Books for International Women’s Day

Gall Merched Wneud Popeth! addasiad / translated by Mari George. Gall merched Wneud Popeth! Gallan nhw ein rhyfeddu ni. Gallan nhw ein synnu ni. Gall merched wneud unrhyw beth yn y byd. Ac os wyt ti’n ferch, pam na wnei di roi cynnig arni! ++++ There are all kinds of girls, and they are a source of wonder and surprise. Girls can do anything, and if you are a girl, have a go on all kinds of activities! A Welsh adaptation of Girls Can Do Anything! by Mari George. […]
Slwtsh gwraig tŷ: pam rydyn ni’n aros?

– Eluned Gramich
Llun: Mer Maid / Hav Frue, 1990 gan yr artist o Ddenmarc, Kirsten Justesen
Pennod 5 – Llŷr Gwyn Lewis ac Eirian James

Yr awdur a’r bardd Llŷr Gwyn Lewis a pherchennog siop lyfrau’r Palas Print Eirian James sy’n ymuno â Mari Siôn i drafod llyfrau.
10 Stori o Hanes Cymru Y Dylai Pawb eu Gwybod | 10 Stories from Welsh History That Everyone Should Know

10 Stori o Hanes Cymru Y Dylai Pawb eu Gwybod gan Ifan Morgan Jones, darluniau gan Telor Gwyn
Rhwng dau olau – Ifor ap Glyn

Dewch i ddathlu #DiwrnodYLlyfr gyda detholiad o ddarlleniadau gan Ifor ap Glyn o’i gyfrol Rhwng dau olau.
Ar gael yn eich siop lyfrau leol, neu o gwales.com
‘Na Nel! Un Tro…’ hefo Meleri Wyn James

Dyma’r awdures Meleri Wyn James a’i nith Martha yn darllen un o benodau ‘Na, Nel! Un Tro…’ llyfr a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr yn 2018. ‘Na, Nel! Un Tro…’ oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gynnwys yn yr ymgyrch sy’n cael ei gynnal yn flynyddol ar ddydd Iau cyntaf mis Mawrth.
Y Pump llyfr wnaeth greu Taliesin Macleavy

Dyma’r awdur Alun Davies (Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial) yn rhannu ac yn argymell 5 o’r llyfrau wnaeth ei helpu i greu ei brif gymeriad, y ditectif Taliesin Macleavy.
Y Wawr – Diwrnod y Llyfr

Dewch i ddathlu #DiwrnodyLlyfr gyda Cylchgrawn y Wawr. Cymerwch olwg ar bodlediadau o erthyglau o rifyn diweddaraf Y Wawr!
Menter Newydd Cylchgrawn CARA

Mae gan gylchgrawn Cara fenter newydd eleni, sef Clwb Llyfrau Cara. Rydyn ni fel golygyddion wrth ein boddau’n darllen, ac mae llyfr (neu ddau, neu dri) ar y gweill gyda ni o hyd. Gyda chymaint o lyfrau gwych yn cael eu cyhoeddi, yn Gymraeg a Saesneg, beth am eu trafod nhw gyda’n gilydd? Mae’n siŵr […]
Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi – Llio Elain Maddocks

Mae’n fraint mawr gan griw Cyhoeddiadau’r Stamp gyflwyno Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi, y pamffled cyntaf o gerddi gan Llio Elain Maddocks (@llioelain ar instagram). Dyma gyfrol o ugain o insta-gerddi sydd, os nad ydych chi wedi llwyddo i ddyfalu hynny o’r teitl, yn ymateb i lot o stwff stiwpid ma hogia ‘di ddeud wrth yr awdur dros y blynyddoedd.
Dyluniwyd y clawr gan Erin Thomas, artist o Flaenau Ffestiniog, sydd hefyd wrthi’n creu darluniau o i gyd-fynd â cherddi Llio o fewn y pamffled. Gellir dod o hyd i’w gwaith ar instagram o dan @eerinart.
Byddwn yn rhyddhau mwy o fanylion dros y mis nesaf, ond am y tro, ac i godi eich gobeithion, dyma adolygiad o waith Llio gan un o hoelion wyth diwylliant Cymreig:
‘Erchyll.’ – Dei Tomos
Gallwch bellach ragarchebu’r casgliad o wefan Cyhoeddiadau’r Stamp: ystamp.cymru/cyhoeddiadau
Iaith y brifddinas – Adolygu ‘The Welsh Language in Cardiff’

Un o ragdybiaethau ein cenedl yw bod yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd yn ffrwyth mewnfudiad Cymry Cymraeg o orllewin, canolbarth a gogledd Cymru – yn chwilio am swyddi ac, yn eu tro, yn datblygu dosbarth canol, proffesiynol cryf yn y brifddinas tua’r 1960au. Tra bo Owen John Thomas yn cydnabod y symudiad hwn, ei brif […]
Storiel

Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Tair cerdd: Gwrando – Morwen Brosschot
Morwen Brosschot yn cyflwyno tair cerdd o’i phamffled diweddar o gerddi ar y cyd a’r artist Kim Atkinson, Gwrando.
Mae Gwrando yn gasgliad o gerddi dwfn, astud a diamser mewn llais sy’n treiddio trwy ddwndwr y byd cyflym a materol i gyhoeddi’n dawel: ‘dyma fi’. Dyma farddoniaeth sy’n arsylwi’n graff ar fyd natur a threigl tymhorau, ac yn dangos inni werth arafu a gwrando.
Prynwch ‘Gwrando’ yma!
Mari Elen yn holi yr Awdur Megan Hunter

19:30 | 04.03.21
I ddathlu #DiwrnodYLlyfr a #GwylDewiBangor2021 bydd Megan Hunter yn sgwrsio a thrafod ei nofel ysgytwol ‘Tu ôl i’r awyr’ hefo Mari Elen.
Mae ‘Tu ôl i’r awyr’ wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y flwyddyn 2021, Llenyddiaeth Cymru.
The Parthian Podcasts : A Carnival of Voices

Announcing: The Parthian Podcast
Coming 01.04.21
Chwilair ‘Ffwlbart Ffred’ Wordsearch

📚 Dathlwch ‘Diwrnod y Llyfr’ gydag Atebol! 📚
👀 Ydych chi wedi darllen ein llyfr newydd Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart gan Sioned Wyn Roberts a Bethan Mai!?
🔍 Dyma chwilair AM DDIM sy’n cynnwys geiriau sy’n odli o’r llyfr! ✏️
🧒 Perffaith ar gyfer plant iau!
📗 Am fwy o wybodaeth am y llyfr: atebol-siop.com/ffwlbart-ffred-drewi-fel-ffwlbart
Diwrnod y Llyfr | World Book Day , 2021

Sgyrsiau, darlleniadau, adolygiadau, argymhellion darllen a mwy.
Dewch i ddathlu #DiwrnodYLlyfr!
Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg

Lansio gŵyl ddarllen newydd ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Yn sgil llwyddiant ‘Amdani’, y gyfres o lyfrau i ddysgwyr Cymraeg, bydd Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg yn cael ei chynnal rhwng 4 Mawrth (Diwrnod y Llyfr) ac 11 Mawrth 2021.
Nod yr ŵyl rithiol, sy’n cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yw annog dysgwyr i ddefnyddio a mwynhau eu Cymraeg trwy ddarllen ystod o ddeunyddiau, boed yn llyfrau, cylchgronau neu wefannau.
Mwy o fanylion yma.