Cartref digidol diwylliant Cymru.

10 Stori o Hanes Cymru Y Dylai Pawb eu Gwybod | 10 Stories from Welsh History That Everyone Should Know

Llenyddiaeth

10 Stori o Hanes Cymru Y Dylai Pawb eu Gwybod gan Ifan Morgan Jones, darluniau gan Telor Gwyn

10 Stori o Hanes Cymru Y Dylai Pawb eu Gwybod gan Ifan Morgan Jones, darluniau gan Telor Gwyn
Mae 10 Stori o Hanes Cymru y Dylai Pawb eu Gwybod yn nodi’r digwyddiadau mwyaf dramatig yn ystod y mil o flynyddoedd diwethaf yn hanes Cymru mewn ffordd liwgar ac apelgar a fydd yn apelio at bobl ifanc o bob oed.
Wedi’i ysgrifennu gan Ifan Morgan Jones, awdur a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, a’i ddarlunio gan Telor Gwyn, mae’n wledd i’r ymennydd, y galon a’r llygaid sy’n llawn mapiau, darluniau a phytiau bach difyr.
Mae’r llyfr yn edrych yn benodol ar straeon Gwenllian Ferch Gruffudd, Owain Glyndŵr, Barti Ddu, Dic Penderyn a Chwyldro Merthyr, y gwyddonydd a’r amgylcheddwr Alfred Russel Wallace, Streic Fawr Penrhyn, Terfysgoedd Hil Caerdydd, ymgyrch iaith Gymraeg Eileen Beasley, Aberfan a dyfodiad Datganoli.
Ar gael yn fuan o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH