‘Most of the labour in the world is done by women: that is a fact’.
– Adrienne Rich, Motherhood as Experience and Institution (1976)
‘If we adventure more than one day / Who will do the loving while we’re away?’
– Gillian Clarke, ‘Letter from a far country’
Yn ystod y misoedd diwethaf, roedd gen i lawer o amser … Na, dydy hynny ddim yn wir. Doedd yna ddim digon o amser, a bod yn onest. Ond, yn ystod y misoedd hyn, doedd yna ddim gwaith i mi ei wneud, heblaw am edrych ar ôl fy merch. Felly roedd yna amser … Na. Dim amser segur pur i wneud beth bynnag roeddwn yn ei ddymuno. Amser rhyfedd, newydd, anfoddhaol ydoedd. Amser wedi’i atal. Cyfnod heb ddigon o gyfle i ysgrifennu, gweithio, darllen. Ond roedd yna lawer o amser i bryderu hefyd, i feddwl yn obsesiynol, a’r un pethau yn mynd drwy fy mhen dro ar ôl tro, yn y nos, yn y prynhawniau hir, anodd. Roeddwn yn ymwybodol o’m sefyllfa mewn ffyrdd newydd na fyddwn wedi sylwi arnynt pe bai bywyd wedi parhau yn ôl ei arfer. Felly, dyma ysgrif am y cyfnod clo a mamolaeth, y cyfnod clo a’n synnwyr amser. Mae yna rywbeth cyfarwydd am y cyfnod clo, y gorchymyn llym: Aros Gartref. Cyfarwydd, rwy’n meddwl, i fenywod. Tybed ai profiad ‘benywaidd’, yn y bôn, yw’r cyfnod clo? Cyfnod a nodweddir gan ddygnwch, gan ofal. Cyfnod aros. Mae menywod, yn enwedig, yn gwybod sut i aros. Fel yr ysgrifenna Gillian Clarke yn y gerdd ‘Letter from a far country’: ‘The minstrel boy to the war has gone. / But the girl stays. To mind things. / She must keep. And wait. And pass time.’
Darllen yr erthygl yn llawn, yn rhad ac am ddim, ar wefan O’r Pedwar Gwynt .