Dyma’r awdures Meleri Wyn James a’i nith Martha yn darllen un o benodau ‘Na, Nel! Un Tro…’ llyfr a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr yn 2018. ‘Na, Nel! Un Tro…’ oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gynnwys yn yr ymgyrch sy’n cael ei gynnal yn flynyddol ar ddydd Iau cyntaf mis Mawrth.