Cartref digidol diwylliant Cymru.

Yr aflwydd: stori o Tsieina

Llenyddiaeth

gan Qing Niao


Llun: Leon Liu / Unsplash

Yn gwely am wyth. Ac eto does awydd cysgu ar neb. Yn y gwyll mae golau glas y ffonau bach fel caets amdanom; dyma lle mae pawb, ers dyddiau, wedi cau eu hunain. Mae Tursun yn diffodd ei ffôn ac yn gweld delweddau rif y gwlith yn pasio trwy ei ben, ei lygaid ynghau: Ganol nos a hithau’n aeafol, dau ddyn yn aros amdano ar gornel stryd. Cyn gynted ag y daw yn nes, maent yn ei rwystro rhag mynd yn ei flaen. ‘Dilyn ni,’ medd un yn ddifrifol, gan afael yn ei fraich chwith. ‘Be sy? Be … ‘ ‘Bydd ddistaw,’ meddai’r llall wrth afael yn ei fraich dde, y ddau fel dwy dafell brechdan yn gwasgu amdano.

Ym mhen draw’r lôn gefn, gwelodd Tursun ei gartref a’r drws ffrynt ar gau yn diflannu dipyn wrth dipyn o’i ôl. Gwna un o’r llanciau iddo blygu pen. Cadw’n dawel wna Tursun. Roedd wedi cael achlust o hyn gan ddynion y pentre, a oedd wedi cael eu tywys a’u rhoi i mewn, ganol nos. Ond pam y fo? ‘Pam fi? meddyliai, pam heddiw ond ddim yfory neu ddoe?’ 

Darllenwch y stori yn llawn, am ddim, ar wefan O’r Pedwar Gwynt.

RHANNWCH