Cyhoeddwyr annibynol y cylchgrawn pêl-droed yng Nghymru, ers 1992. Cyhoeddiadau dim elw, wedi’u hysgrifennu gan ac i rheiny sy’n caru’r gêm. Ein gobaith yw hyrwyddo, dathlu a chofnodi straeon unigryw am bêl-droed yng Nghymru, straeon o’r gorffennol a’r presennol, gyda phwyslais ar ddathlu statws Cymru fel cenedl annibynol ym myd pêl-droed Mae ein cyhoeddiad craidd Welsh Football yn ymddangos wyth gwaith y flwyddyn. Mae’r mwyafrif o rifynnau’n cynnwys cymysgedd o newyddion ac ystadegau cyfredol o bêl-droed domestig a rhyngwladol, erthyglau nodwedd ac erthyglau hanes. Mae’r sylw yn ymestyn i bob lefel o bêl-droed i oedolion yng Nghymru, o lefel elitaidd i lawr gwlad. Bob tymor, mae un rhifyn yn ganllaw blynyddol i bêl-droed yng Nghymru, a chyhoeddir adolygiad tymor llawn bob mis Mehefin.
Cynhyrchir cyhoeddiadau achlysurol eraill, o dan y teitl WF XTRA, naill ai i ganolbwyntio ar thema benodol neu i gynnwys ‘darlleniadau hirach’ ac erthyglau eraill nad ydynt yn gweddu orau i fformat cylchgrawn cyfnodol rheolaidd.

