Nos Lun, 28 Chwefror am 7:00yh, bydd Clwb Darllen Cenedlaethol yn cyfarfod i drafod Cyffesion Saesnes yng Nghymru gan Sarah Reynolds. Bydd cyfle i holi’r awdur fel rhan o’r sesiwn hon.
Nos Fercher, 2 Mawrth, dan arweiniad Jo Knell o siop Cant a Mil, Caerdydd, cynhelir ffair lyfrau dros Zoom i rieni sy’n chwilio am gyngor am lyfrau addas i brynu a darllen i blant.
I gefnogi’r ŵyl, rydym wedi paratoi dau gatalog newydd sbon:
-
Llyfrau Amdani
- Beth ga i ddarllen nesaf? Detholiad o nofelau wedi eu dewis gan ddysgwyr i ddysgwyr hyderus.
Porwch nhw isod.
Ar gael o’ch siop lyfrau leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA.