Un o ragdybiaethau ein cenedl yw bod yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd yn ffrwyth mewnfudiad Cymry Cymraeg o orllewin, canolbarth a gogledd Cymru – yn chwilio am swyddi ac, yn eu tro, yn datblygu dosbarth canol, proffesiynol cryf yn y brifddinas tua’r 1960au. Tra bo Owen John Thomas yn cydnabod y symudiad hwn, ei brif ddadl yn y gyfrol hon yw y bu’r Gymraeg yn llewyrchu ac yn wir, yn iaith a oruchafodd yng Nghaerdydd am ganrifoedd. Dyma felly chwalu’r chwedl. O greadigaeth castell Tomen a Beili’r Normaniaid (1093-1107) tan effeithiau’r Chwyldro Diwydiannol yng nghanol y 19g, yn ôl yr awdur roedd y Gymraeg yn ffynnu yng Nghaerdydd. Cefnogir ei ddadl gan ddefnydd effeithlon o ffynonellau, megis cofnodion llysoedd, dyddiaduron a dogfennau cyfreithiol amrywiol gan brofi pa mor llewyrchus oedd yr iaith yn y dref a’r plwyfi cyfagos. Chwalir sawl rhagdybiaeth gan y llyfr – nid tref uniaith Saesneg mohoni; a’r dosbarth gweithiol yn hytrach na’r dosbarth canol a lynodd fwyaf at y Gymraeg a’i thraddodiadau diwylliannol.
Er gwaethaf twf syfrdanol Anghydffurfiaeth a chapeli’r enwadau amrywiol, pan oedd yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd yn dioddef o ganlyniad i effeithiau’r Chwyldro Diwydiannol – gan gynnwys mewnfudo sylweddol a thyfiant enfawr yn y dref – trodd pob capel, namyn un, i gynnal ysgolion Sul trwy gyfrwng y Saesneg. Pennod dristaf y llyfr yw’r un am ddirywiad y Gymraeg rhwng 1860 a 1910. Ac er y gellir gosod bai ar ddwylo Llywodraeth San Steffan, Brad y Llyfrau Gleision 1847 a mewnfudiad miloedd o Saeson, Gwyddelod a gweithwyr rhyngwladol, cyfeiria’r awdur hefyd at fethiant y Cymry eu hunain i drosglwyddo’r iaith i’w plant. Neges gyfoes ac anghyfforddus i rai.