Ymunwch â Seren Stacey a Siencyn y pathew ar gyfer digwyddiad Amser Stori cyntaf Theatr Byd Bach. Y stori dan sylw yw ‘Criw’r Coed a Gwenyn Coll’. Mae’r stori hyfryd hon yn sôn am rai o’r anifeiliaid o’r Mabinogi (tylluan, carw, mwyalchen, eryr ac eog) yng nghyd-destun Cymru heddiw. Maen nhw ar ymgyrch i oresgyn yr heriau niferus y maen nhw’n eu wynebu yn yr amgylchedd cyfnewidiol heddiw ac maen nhw’n dechrau trwy helpu gwenyn bach.
Mae Carys Glyn yn athrawes ac awdur sy’n byw yn y Fenni. Hwn yw ei llyfr cyntaf ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi hi, i Ruth ac i wasg y Lolfa am eu mewnbwn a’u cydweithrediad.
Seren Stacey … Adroddwr stori
Heledd Gwynn … Llais Siencyn
Sam Vicary … Pyped Siencyn
Ann Shrosbree … Cyfarwyddwr
Yn addas ar gyfer plant ifanc. Digwyddiad Cymraeg yw hwn. 15 munud.
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.