Mae Theatr Byd Bychan yn creu perfformiadau theatr unigryw a hyblyg gyda pypedau, sydd yn ystyried yr effaith ar yr amgylchedd bob amser. Ry’n ni’n ymddangos mewn sioeau stryd, canolfannau a gwyliau ac yn creu sioeau rhyfeddol ar gyfer lleoliadau penodol sy’n difyrru ac yn ennyn sylw cynulleidfaoedd yn Gymraeg a Saesneg. Mae Theatr Byd Bychan, ein canolfan, yn gartref i’n prosiectau, rhaglen o ddigwyddiadau a’n hysgol syrcas awyrol, Syrcas Byd Bychan. Mae ein gofod theatr hardd, bron di-garbon yn amgylchedd gweithio prysur ac yn dyst i’n gwerthoedd. Mae’n adlewyrchiad o’n hymroddiad i’r celfyddydau a chymunedau yng nghefn gwlad Cymru.



