Rufus Mufasa – “Doedd y Gymraeg ddim yn cael ei dysgu. Roedd hi’n cael ei chofio.”

Myfyrdodau ar Ddiwrnod Teuluoedd Cymraeg yng Ngharchar Caerdydd Rydyn ni i gyd yn gwybod bod carchar yng Nghaerdydd. Rydyn ni’n mynd heibio. Rydyn ni’n ei weld o ffenestri trenau. Mae’n rhan o dirwedd y ddinas. Ond ydyn ni wir yn sylwi ei fod yno? Dechreuodd fy niwrnod yng Ngharchar Caerdydd fel cymaint o foreau eraill. […]
ARDDANGOSFA BYW MEWN HEDDWCH

Rhwng ddiwedd mis Mehefin a chanol mis Gorffennaf, cynhaliom arddangosfa BYW MEWN HEDDWCH yng Nghapel Ebeneser, Dolgellau. Roedd yn naturiol i ni fynd i Ddolgellau gan fod y capel rownd y gornel i gartref Mary Ellis, un o’r bedair aeth draw i America gyda Deiseb Heddwch Menywod Cymru. Diolch i’r holl wirfoddolwyr wnaeth wneud hyn […]
Prosiect Llais y Lle – Cymraeg trwy gelfyddyd yn Tanio, Cwm Garw
Mwy o wybodaeth a lluniau am y prosiect
Kamalagita Hughes

Mae Kamalagita Hughes yn storiwr o Gymraeg y mae ei gwaith yn symud rhwng perfformiad, cymuned, a lle. Fel perfformiwr cyson, mae hi wedi bod yn storiwr cymunedol ar gyfer Beyond the Border a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi teithio â’i sioe ei hun, Carrying Clecs. Mae ei stori-adrodd yn aml yn tyfu’n uniongyrchol o’r gymuned […]
Parti Ha’ Esgyn a dathliad y Betgwn
Gwehyddu a Gwnio Heddwch

Mae’r cywaith hwn bellach yn jigso 1 metr sgwar o waith brodwaith anhygoel!
Cymru Fel Cenedl Heddwch

Dros y gwanwyn, daethom at ein gilydd i drafod Llinellau Amser Ein Byd Anheddychlon a chael y cyfle geisio prosesu’r cysyniad o ryfel a heddwch trwy edrych ar enghreifftiau ar draws y byd neu nodi llinell amser anhyeddychlon o fewn ein bywyd ni. Aethom ati i greu llyfrynnau bach o’r broses. I ddiweddu’r sesiynau Llinell […]
Booker T Photography

Mae Booker Skelding yn artist ffotograffig o Gymru sy’n archwilio hygyrchedd, cyffyrddiad, a photensial amlsynhwyraidd delweddau drwy ei gwaith. Wedi’i lleoli yng Nghaerffili ac yn gweithio’n ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae’n creu gweithiau ffotograffig cynhwysol sydd wedi’u cynllunio i gael eu profi nid yn unig drwy’r golwg, ond hefyd drwy gyffwrdd, gwead ac […]
Artist y Mis: Bridie Doyle-Roberts

Artist y Mis yw Bridie Doyle-Roberts, artist amlddisgyblaethol sy’n byw ym Mhontypridd. Mae ei gwaith yn cynnwys creu gofodau synhwyraidd trochol. Ar ôl hyfforddi mewn Dawns sefydlodd Citrus Arts, elusen syrcas, dawns a chelfyddydau awyr agored lle bu’n Gyd-gyfarwyddwr Artistig am y 15 mlynedd diwethaf. Yn y rôl hon creodd gynyrchiadau theatr gwyliau, safle-benodol a […]
Diwrnod Parêd Yr Arglwydd Rhys
Canu gyda Clara, Gwil a’r Betgwnistas!
Celeste Burr-Herrera – paper-work, wasp-work, care-work

Drwy’r cyfnod preswyl hwn, byddaf yn datblygu corff o waith: paper-work, wasp-work, care-work – cyfres o fideos fel darnau digidol wedi’u cydosod ochr yn ochr â pherfformiad digidol byw. Gan ddeillio o archwiliadau o sut gellir metaboleiddio dogfennaeth sefydliadol trwy’r corff, metaffor, deunyddiau a ddarganfuwyd ac yna eu hailsgriptio’n ddigidol, byddaf yn llunio gwrth-archif wedi’i […]
Mary Ocana – Bosque De Mil Mariposas

Caf fy ysbrydoli’n fawr gan fy nhreftadaeth Mecsicanaidd-Americanaidd. Fel dylunydd 3D ac artist, dwi’n canolbwyntio ar themâu fel hunaniaeth Latiné, atgofion plentyndod, a llên gwerin Mecsicanaidd. Dwi’n archwilio’r ffyrdd y gall cof ddod yn archif ddigidol trwy ailgysyniad. A sut gall atgofion ddod yn fyw yn ein cartrefi a’n hadeiladau trwy wrthrychau a dylunio gofodol. […]
Creu’r Betgwn

Mae prosiect adfywio’r Betgwn Cymraeg wedi dechrau! Ar ôl blynyddoedd o addasu patrymau, toiles a modelau, mae Carys Hedd wedi creu patrwm gyda Catherine Davies i ddod â’r prosiect hwn i’r gymuned. Rydym yn gyffrous i rannu’r cydweithrediad gwnïo hwn gyda’r gymuned, gan flaenoriaethu’r iaith a chreadigrwydd Cymraeg. Mae pob Betgwn yn adlewyrchu’r unigolyn a’u […]
Artist y Mis: Carla Hixon

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau. Artist y Mis am Mai yw Carla Hixon! Ar hyn o bryd mae gwaith celf Carla Hixon yn cael ei arddangos yn Oswestry Community Action (Y Qube gynt). Mae’r sioe, o’r enw One Gallery 4 Artists, yn rhedeg […]
Cymraeg trwy gelfyddyd yn Tanio, Cwm Garw – prosiect Llais y Lle project
Artist y Mis – Paul Eastwood

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau. Artist y Mis am Ebrill yw Paul Eastwood! Darllenwch y nodwedd isod: Rydw i’n artist gweledol sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam, Cymru. ‘Dad-darlleniadau‘ (2026), fy arddangosfa newydd sydd ymlaen ar hyn o bryd yn Oriel Mostyn, […]
Y Leinin
Mae’n foment hyfryd pan gewch chi roi cynnig ar drio’ch dilledyn. Dim ond leinin y Betgwn yw hwn, onid yw’n wych pa mor unigryw ydyn nhw i gyd?
Betgwn Ellie

Dewisodd Ellie wlân Cashmere du ar y tu allan a brethyn siec a sidan oren ar y tu fewn – cyfuniad hyfryd!
Creu Betgwn yn Y Stiwdio, Hermon

Dymar sesiwn gyntaf yn Y Stiwdio hyfryd lan yn Hermon. Mae pawb wrthi yn dewis eu defnydd ac yn dorri darnau cyntaf o’r patrwm.
Creu’r Betgwn 2

Gwnaeth Karen ei Betgwn o flanced wlân. Rydym yn annog cynaliadwyedd drwy ailgylchu. Rydym am ddod â’r diwydiant gwlân Cymru yn ôl yn fyw…mae cymaint yn cael ei wastraffu ar hyn o bryd.
Yr Hen Lyfrgell Wrecsam

Ailagorwyd yr Hen Lyfrgell yn Wrecsam yn swyddogol ym mis Tachwedd 2025 fel canolfan greadigol amlbwrpas, gyda disgwyl i fusnesau diwydiannau creadigol lenwi’r rhan fwyaf o’r lle rhentadwy yng ngwanwyn 2026. Rydym yn dechrau cyfnod newydd cyffrous i’r Hen Lyfrgell, gyda busnesau newydd yn dod i mewn i ddefnyddio’r gofod sy’n cynnwys caffi ac ystafelloedd […]
Pwythwyr Botaneg – Lily Tiger T Wells
Mae’r film fer hon yn seiliedig ar ‘Stitching Botanicals’, grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi’u lleoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Sir Gaerfyrddin. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 80 o wirfoddolwyr wedi creu pum casgliad arbennig o frodwaith trawiadol ac atgofus. Mae’r rhain yn cynnwys blodau sir Cymru, planhigion prin Gymru, planhigion meddyginiaethol, planhigion […]
Artist y Mis: Durre Shahwar

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau. Ein Hartist y Mis yw Durre Shahwar, awdur, golygydd ac artist arobryn y mae ei gwaith yn archwilio hunaniaeth, ffurf naratif a gwleidyddiaeth cynrychiolaeth. Yn ddiweddar, cafodd Durre ei harddangosfa unigol gyntaf, ‘Un o’r Rhai Da‘, at Ffotogallery! […]
Manon Dafydd – Artist Preswyl 2025

Mae Manon Dafydd yn artist a dylunydd graffeg o’r Felinheli. Ar ôl cwblhau cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai yn 2012, aeth hi ymlaen i raddio gyda BA mewn Dylunio Graffeg o Central Saint Martins, Llundain yn 2015. Ers dychwelyd adref, mae Manon wedi bod yn datblygu ei chrefft tra’n mwynhau gwahanol brofiadau o weithio […]
Jeanette Gray – Artist Preswyl 2025

Mae Jeanette Gray, sy’n wreiddiol o’r Alban ac yn byw bellach yng Nghanolbarth Cymru, yn wehyddwr ac artist sy’n arbenigo mewn defnyddio deunyddiau planhigion gwyllt a gasglwyd yn lleol. Dechreuodd wehyddu yn 2012 ar ôl mynychu ei chwrs basgedwaith cyntaf – “caru ar yr olwg gyntaf”! Yn 2017 cwblhaodd hyfforddiant proffesiynol dwy flynedd mewn basgedwaith […]
Alison Neighbour – Artist Preswyl 2025

Mae Alison yn artist aml-ddisgyblaethol ac enillydd gwobrau sy’n gweithio ar draws perfformiad, gosodiadau ac ymgysylltiad cymdeithasol. Mae ei gwaith yn ceisio ail-gysylltu pobl â’r byd naturiol drwy greu eiliadau defodol, teithiau trochi a gosodiadau rhyngweithiol. Mae’n ail-lunio gofodau ar gyfer perfformiad ac ymgysylltiad cymdeithasol gyda ffocws ar gynaladwyedd. Mae’r berthynas gorfforol a synhwyraidd rhwng […]
Richard Harris – Artist Preswyl 2025

Mae Richard Harris (1954, Dyfnaint) wedi bod yn creu cerfluniau amgylcheddol ers 1976. Wrth astudio yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerloyw, dewisodd weithio yn yr awyr agored, gan adeiladu strwythurau o gerrig a choed a gafwyd yn lleol. Ar ôl ei astudiaethau, treuliodd flwyddyn mewn stiwdio ar Dartmoor, gan ddyfnhau ei gysylltiad â natur. Daeth […]
Huw Jones – Artist Preswyl 2025

Mae Huw Jones yn byw yn Rhoscolyn yn Ynys Môn, ac mae ei waith wedi’i wreiddio yng nghyffro tirluniau Ynys Môn ac Eryri. Mae ei broses greadigol yn dechrau yn yr awyr agored, gan ddal newidiadau byrhoedlog mewn golau, tywydd a thymhorau drwy frasluniau a pheintiadau mewn gouache, acrylic a chyfryngau cymysg. Yn y stiwdio, […]
Rhian Haf – Artist Preswyl 2025

Mae Rhian Haf yn creu gosodiadau a cherfluniau gan ddefnyddio rhinweddau cyferbyniol gwydr fel ffocws i’w gwaith. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang yn y DU a thramor. Preswyliad Crefft 2–16 Awst 2025 Treuliodd Rhian bythefnos ar yr ynys yn edrych ar gysgodion, golau, gorwelion, planhigion ac ati. Crëodd gerflun ymatebol i’r safle: […]
Catrin Menai – Artist Preswyl 2025

Artist yw Catrin Menai sy’n byw rhwng Bethesda a Glasgow. Mae ei gwaith yn edrych at botensial gwrthrychau bob-dydd, ystumiau a llefydd i gyfathrebu naratif. Gan ddefnyddio ffilm, sgwennu a chanfod, ac wedi’i gwreiddio mewn cyfarfyddiadau damweiniol cyn gymaint ag astudiaeth fanwl, mae’n archwilio strategaethau o feddwl gyda’n byd, ac o ystyried gofal a chariad […]
Esyllt Angharad Lewis – Artist Preswyl 2025

Artist o Graig-Cefn-Parc yw Esyllt Angharad Lewis. Mae ei gwaith celf yn chwarae gyda chyfieithu fel cyfrwng esthetaidd. Bydd ei haddasiad o nofel Anthony Shapland ‘Lan Stâr’ (A Room Above a Shop) mas yn y gwanwyn. Mae’n gyd-olygydd ar Gyhoeddiadau’r Stamp, ac enillodd Wobr Ifor Davies yn Eisteddfod Pontypridd 2024 am ei pherfformiad, Blobus a […]
Sara Evelyn – Artist Preswyl 2025

Mae Sara Evelyn yn artist sain rhyngddisgyblaethol sydd ag ymarfer sy’n ymestyn ledledscenograffeg, cyfansoddi, electronau DIY, adeiladu offerynnau a printio. Mae ei gwaith yn ystyried gofod, materoliaeth, a safle ac yn aml caiff ei greu fel ymateb i elfennau acwstig neu faterol lle neu amgylchedd penodol. Preswyliad Awyr Dywyll gyda William Wyndham 24–31 Mai 2025 […]
William Wyndham – Artist Preswyl 2025

Mae William Wyndham yn arlunydd ac artist rhyngddisgyblaethol. Yn ogystal â’i gefndir mewn paentio traddodiadol, mae’n creu cerfluniau, perfformiadau, sain a fideo. Drwy’r cyfryngau hyn, mae’n gweithio gyda setiau bychan, technoleg sgrin werdd, electronau DIY, props, gwisgoedd a gwneud mygydau. Mae’n archwilio’n barhaus i ffyrdd newydd o ddod â’r sgiliau hyn ynghyd. Mae’r cyfuniad hwn […]
Joseph Conran – Artist Preswyl 2025

Preswyliad Celfyddydau Gweledol 10/05/25–24/05/25 Mae Joseph Conran yn artist ac yn strategaethydd ym maes yr amgylchedd. Mae ei ymarfer yn byw yn y gofod rhwng pobl a byd natur, gan gyfeirio’n aml at brosesau naturiol fel ffordd o archwilio dynoliaeth. Yn ei waith artistig a strategol, mae Joseph yn creu gofodau lle gall creadigrwydd ysbrydoli pobl i […]
Cynhyrchiadau UCAN

Mae Cynhyrchiadau UCAN yn elusen perfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n ddall neu sydd ȃ nam golwg, a’u ffrindiau. Rydym yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein rheolaidd i’n haelodau gael cyfle i fod yn greadigol, cael hwyl a gwneud ffrindiau.
Jordan Nicole – Digital Company

Ar gyfer y preswyliad hwn, dw i’n ehangu ar fy ymarferiad mapio ac yn adeiladu amgylchedd pwrpasol sy’n seiliedig ar y we ac sy’n gweithio fel gwaith celf, map, ac archif ar yr un pryd. Bydd ʎuɐdɯoɔ lɐʇıɓıp yn ofod digidol archwiliadol/arbrofol, map byw sy’n gwahodd ymwelwyr i symud drwy ei haenau ac arbrofi yn […]
Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref
Gwasanaeth celfyddyd a iechyd i bobl hŷn ar draws Sir Gaerfyrddin. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ein partneriaid yn Cysylltu Sir Gaerfyrddin ac yn eu paru gyda hwylusydd proffesiynol PSU ac artist. Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, prosiect Cysylltu Sir Gaerfyrddin ac wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. https://peoplespeakup.co.uk/creative-home-delivery-service
Kamalagita Hughes – Bridgend
Oedd y prosiect yn treialu gweithdai adrodd straeon rhwng cenedlaethau gan annog dwyieithrwydd a mwynhad o’r Gymraeg gydag amrywiaeth o grwpiau. Yn defnyddio perfformiadau adrodd stori, gweithdai creadigol a thechnegau trawsiaith i feithrin hyder mewn cyfranogwyr o gwmpas defnyddio a mwynhau’r Gymraeg sydd ganddynt eisoes a datblygu geirfa newydd, gyda ffocws penodol ar rieni, dysgwyr […]
Rhaglen People Speak Up – Effaith

Yn ystod Hydref 2023 – Mawrth 2024, derbyniodd PSU grant Creu CCC i ddatblygu’r rhaglen Lles Creadigol yn People Speak Up, canolfan celfyddyd, iechyd a lles Llanelli – amser a gofod i’r gymuned gysylltu’n greadigol a dod o hyd i’w llais trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, celfyddydau digidol, celfyddydau gweledol, gwirfoddoli a sgyrsiau […]
P’nawn Arty – Llanelli | Caerfyrddin

16+ People Speak Up, Llanelli – Pob dydd Mawrth 1pm-3pm Canolfan Byw’n Dda Sir Gaerfyrddin – Pob Dydd Gwener, 1.pm-2.30pm Mae Pnawn Arty yn grŵp celf am ddim i unrhyw un o gwbl. Does dim angen profiad celf blaenorol – bydd ein hwyluso creadigol yn eich tywys trwy ba dasgau bynnag sy’n digwydd yn y […]
Artist y Mis: Booker T Photography

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau. Ein Hartist y Mis yw Booker T Photography! ✨ Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau argraffu celf 3D? Cefais fy ysbrydoli i ddechrau argraffu gwaith celf 3D oherwydd roeddwn i eisiau gwneud ffotograffau a chelf weledol yn hygyrch […]
Aur Bleddyn & Darya Williams – Sain Cofio

Mae’r cynnwys yma yn uniaeth Saesneg.
Carys Hedd – Sir Benfro

Esgyn – prosiect a fydd yn pwytho’n cymuned Codi Canu â gwaith tecstilio creadigol ynghyd yng Ngogledd Sir Benfro. Gwnawn hyn drwy ail greu’r Betgwn, rhan o’r wisg draddodiadol Gymreig i’w gwisgo mewn perfformiadau fel Y Fari Lwyd. Byddwn hefyd yn ymgynghori gyda’r cymunedau beth yn hoffent eu creu allan o ddefnyddiau wedi’u hail gylchu […]
Prosiect Esgyn, Llais y Lle

Mae Esgyn yn brosiect gymunedol sy’n cyfuno gwnïo a chanu Cymraeg i gryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ac arfer dyddiol o’r iaith. Dan arweiniad Carys-Hedd, mae’n gwahodd cyfranogwyr ledled Aberteifi a gogledd Sir Benfro i ail-greu’r Betgwn traddodiadol gyda’i gilydd—pob un yn ei steil ei hun—mewn gweithdai dan arweiniad gan ddefnyddio deunyddiau lleol ac â phwysigrwydd personol. […]
Esgyn

Mae Esgyn yn brosiect gymunedol sy’n cyfuno gwnïo a chanu Cymraeg i gryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ac arfer dyddiol o’r iaith. Dan arweiniad Carys-Hedd, mae’n gwahodd cyfranogwyr ledled Aberteifi a gogledd Sir Benfro i ail-greu’r Betgwn traddodiadol gyda’i gilydd—pob un yn ei steil ei hun—mewn gweithdai dan arweiniad gan ddefnyddio deunyddiau lleol ac â phwysigrwydd personol. […]
Esyllt Angharad Lewis & Carlota Sousa Nóbrega – The Process

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Pam Common Art Collective

Rydym yn sefydliad dan reolaeth artistiaid sy’n gweithio at lefel llawr gwlad i gefnogi ecosystem o weithgaredd celfyddydol hygyrch yn Nwyrain Caerdydd. Rydym yn gweithio gyda ffurfiau darlledu, print, tyfu, coginio, a bwyta gydag artistiaid a chymunedau.