Cartref digidol diwylliant Cymru.

Manon Dafydd – Artist Preswyl 2025

Mae Manon Dafydd yn artist a dylunydd graffeg o’r Felinheli. Ar ôl cwblhau cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai yn 2012, aeth hi ymlaen i raddio gyda BA mewn Dylunio Graffeg o Central Saint Martins, Llundain yn 2015. Ers dychwelyd adref, mae Manon wedi bod yn datblygu ei chrefft tra’n mwynhau gwahanol brofiadau o weithio gyda phlant, pobl ifanc, oedolion a’r henoed mewn ystyr gelfyddydol. Mae hi’n un o ddwy o olygyddion ac yn ddylunydd i’r llyfryn-gylchgrawn Codi Pais, sy’n dathlu creadigrwydd a lleisiau merched yng Nghymru. Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan fyd natur, ei theulu, ei hardal leol a’r teimlad o Gymreictod.

Preswyliad Cerflunio Ymatebol i’r Safle – 13–20 Medi 2025

Yn Enlli bu Manon Dafydd yn archwilio ac yn ceisio deall y cysylltiad dwfn rhwng pobl a’u cynefin, a’r modd y gall teimlad o golled, boed yn bersonol neu oherwydd newid hinsawdd neu newid cymdeithasol, effeithio ar unigolion, cymunedau ac ar yr iaith Gymraeg. Yn ystod ei chyfnod yn yr ynys bu’n astudio’r blodau a’r creaduriaid, gan edrych yn ôl drwy ffotograffau ac ymchwilio i’r berthynas rhwng cof a hunaniaeth. Cyfuno’r elfennau hyn wnaeth hi gyda thestun, gan greu gwaith yn y stiwdio ac ar draeth yr ynys lle mae’r llanw’n cludo’r geiriau ymaith.

@mansiporffor 

www,manondafydd.com  

RHANNWCH