Cartref digidol diwylliant Cymru.

Jeanette Gray – Artist Preswyl 2025

Mae Jeanette Gray, sy’n wreiddiol o’r Alban ac yn byw bellach yng Nghanolbarth Cymru, yn wehyddwr ac artist sy’n arbenigo mewn defnyddio deunyddiau planhigion gwyllt a gasglwyd yn lleol. Dechreuodd wehyddu yn 2012 ar ôl mynychu ei chwrs basgedwaith cyntaf – “caru ar yr olwg gyntaf”! Yn 2017 cwblhaodd hyfforddiant proffesiynol dwy flynedd mewn basgedwaith yng Ngholeg City Lit yn Llundain ac ers hynny mae wedi datblygu ymarfer sensitif sy’n cyfuno medrau traddodiadol â chydnabyddiaeth gref o’r amgylchedd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar gysylltu pobl â’r tirweddau o’u cwmpas, gan ddefnyddio gwehyddu fel ffordd o archwilio perthynas rhwng byd natur, cymuned ac etifeddiaeth ddiwylliannol. Mae’n credu fod y weithred o wehyddu’n cynnig dull diriaethol a myfyriol o ddeall gwerth ein byd naturiol, gan greu cysylltiadau dwfn rhwng ecoleg, diwylliant ac unigolion.

Preswyliad Cerflunio Ymatebol i’r Safle – 13–20 Medi 2025

Roedd cyfnod Jeanette yn Ynys Enlli wedi’i dorri’n fyr, ac felly ni allodd wireddu ei holl brosiectau ar yr ynys. Fodd bynnag, parhaodd i ddatblygu’r gwaith ar y tir mawr, gan ymateb i’r profiadau a’r deunyddiau a gasglwyd ar Enlli. Ei bwriad yw dychwelyd yn y dyfodol i gwblhau’r prosiectau a ddechreuodd yno, gan barhau i archwilio’r berthynas rhwng golau, deunydd a thirwedd mewn ymateb i amgylchedd unigryw’r ynys.

@Weaving_wild  
www.weavingwild.co.uk  

RHANNWCH