Mae Huw Jones yn byw yn Rhoscolyn yn Ynys Môn, ac mae ei waith wedi’i wreiddio yng nghyffro tirluniau Ynys Môn ac Eryri. Mae ei broses greadigol yn dechrau yn yr awyr agored, gan ddal newidiadau byrhoedlog mewn golau, tywydd a thymhorau drwy frasluniau a pheintiadau mewn gouache, acrylic a chyfryngau cymysg. Yn y stiwdio, mae’n datblygu’r rhain yn weithiau gorffenedig, gan gadw bywiogrwydd a mynegiant y marciau gwreiddiol. Mae ei waith yn archwilio rhyngweithio lliw, gwead a chyfansoddiad, gan amlygu rhinweddau haniaethol a gofod negyddol. Nod Huw yw mynegi ymdeimlad dwfn o le a chysylltiad, gan greu gwaith celf sy’n gwahodd y gwyliwr i ymgysylltu â’u tirlun.
Preswyliad Celfyddydau Gweledol 26 Gorffennaf – 2 Awst 2025
Yn ystod ei breswyliad yn Ynys Enlli datblygodd Huw Jones ei arddull drwy weithio mewn ffordd fwy rhydd ac arbrofol, gan gymysgu cyfryngau ac ymchwilio i’r arfordir a’r môr fel pynciau newydd. Roedd y preswyliad yn gyfle i ganolbwyntio ar fanylion a chyfleu teimlad a drama’r dirwedd, gan gryfhau ei hyder a’i agwedd greadigol.
Cyflwynodd Huw weithdy paentio du-a-gwyn ar hyd yr arfordir gyferbyn â thraeth Solfach gyda thua 12 o gyfranogwyr, ac yna gweithdy lliw aml-gyfrwng gan ddefnyddio dyfrlliw, siarcol, acrylig a phastel.