Cartref digidol diwylliant Cymru.

Jordan Nicole – Digital Company

Ar gyfer y preswyliad hwn, dw i’n ehangu ar fy ymarferiad mapio ac yn adeiladu amgylchedd pwrpasol sy’n seiliedig ar y we ac sy’n gweithio fel gwaith celf, map, ac archif ar yr un pryd. Bydd ʎuɐdɯoɔ lɐʇıɓıp yn ofod digidol archwiliadol/arbrofol, map byw sy’n gwahodd ymwelwyr i symud drwy ei haenau ac arbrofi yn uniongyrchol ansefydlogrwydd hunaniaeth ddigidol. Byddaf yn adeiladu amgylchedd ble bydd gronynnau o atgofion, hunaniaeth, a diwylliant rhyngrwyd yn agor fel profiadau rhyngweithiol, cartograffeg.

Mae fy ymarferiad yn archwilio’r rhyngrwyd fel tirwedd ac atgof. Gofod afreolaidd ansefydlog ble mae hunaniaeth yn cael ei ffurfio, perfformio ac ailffurfio yn barhaus. Mae gen i ddiddordeb yn sut mae’r hunain ar-lein yn esblygu gydag amser, yn gadael olion digidol o brofiadau ac amherffeithrwydd sy’n ffurfio archifau tameidiog ar y cyd o bwy roedden ni ar un adeg ac i bwy ydyn ni’n dyfod. Mae’r olion gwasgaredig hyn yn ymwrthod trefn, ond eto’n adlewyrchu ansefydlogrwydd bywyd digidol ei hun.

Gweithio drwy fapio fel dull a throsiad, dw i’n defnyddio prosesau digidol i amlinellu cysylltiadau rhwng atgof personol a phrofiad cyfunol. Mae mapio yn dod yn ffordd i lywio tiroedd ansefydlog tra hefyd ail-ddychmygu sut mae archifau, rhyngwynebau, ac estheteg yn gallu cael eu sylweddoli/darllen fel tirweddau sy’n esblygu.

Gweld tudalen breswylfa

jordannicole.design

RHANNWCH