Artist y Mis yw Bridie Doyle-Roberts, artist amlddisgyblaethol sy’n byw ym Mhontypridd. Mae ei gwaith yn cynnwys creu gofodau synhwyraidd trochol.
Ar ôl hyfforddi mewn Dawns sefydlodd Citrus Arts, elusen syrcas, dawns a chelfyddydau awyr agored lle bu’n Gyd-gyfarwyddwr Artistig am y 15 mlynedd diwethaf. Yn y rôl hon creodd gynyrchiadau theatr gwyliau, safle-benodol a theithiol a datblygodd brosiectau addysg a cymunedol. Roedd y rhain yn cynnwys gwaith gyda Green Man, London Youth Circus, Big Splash, Walk The Plank, Theatr Genedlaethol Cymru, Ballet Cymru, Arts Active, Earthfall, Y Coleg Cymraeg, NoFitState Circus a Phrifysgol Bath Spa.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn diagnosis o gyflwr genetig prin sy’n effeithio ar ei golwg, mae hi’n creu gweithiau celf gosod synhwyraidd efo dodrefn, celfyddydau gweledol, sain a barddoniaeth ddwyieithog. Mae gan Bridie ddiddordeb mewn archwilio’r cysylltiadau dynol â gwrthrychau bob dydd a’r hyn y mae’r eitemau hyn yn ei ddweud am hunaniaeth, gwerthoedd a diwylliant. Mae’r gwaith yn gwahodd pobl i eistedd a phrofi mewn ffordd synhwyraidd, gan helpu i wneud y gwaith yn hygyrch i bobl rhannol ddall, fel hi ei hun.
Mae Bridie yn Asiant dros Newid ar brosiect Craidd sydd wedi’i leoli yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i effeithio ar newid yn y sector theatr i ddod yn fwy cymhwysol a hygyrch i bobl anabl, Byddar a niwroamrywiol. Mae Bridie hefyd yn aelod o’r Consortiwm Cymraeg efo Cyngor Celfyddyddau Cymru.
Sbectrwm o’r Golwg
Os na fyddwn i wedi dweud wrthych chi, sut fyddech chi’n gwybod pa mor bell i mewn i’r twnnel rydw i wedi mynd….
Ar ôl darganfod bod ganddi gyflwr dirywiol ar ei llygaid, mae Bridie Doyle-Roberts yn camu i fyd ansicr lle mae dallineb yn dynesu.
Crëwyd Sbectrwm o’r Golwg gyda hygyrchedd creadigol yn ganolog iddo, sy’n golygu bod atebion creadigol wedi cael eu hymwreiddio yn y gwaith celf neu ar gael ar y wefan fel bod y cynnwys yn hygyrch i gynulleidfaoedd â nam ar eu golwg, Byddar, trwm eu clyw a niwrowahanol. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys sain sy’n rhan ohonynt, elfennau â sain-ddisgrifio, Braille, elfennau cyffyrddadwy, geiriau ysgrifenedig, fideo a fersiynau gyda dehongliad BSL o’r seinweddau. Bydd amseroedd penodol pan fydd tywysydd sy’n gweld neu gyfieithydd BSL ar gael i gyfathrebu â’r cynulleidfaoedd.
Dywedodd Bridie Doyle-Roberts, “Mae colli fy ngolwg wedi bod yn broses o alar a cholled, derbyn, darganfod ac argyfwng hunaniaeth. Mae fy ngwaith yn ystyried sut y mae person â nam difrifol ar ei olwg yn rhyngweithio â’r byd, faint yr ydym yn dibynnu ar ein gallu i gyffwrdd, synau, golau a chyferbyniad ac a ydym yn gwybod beth sydd tu hwnt i flaenau ein bysedd neu a yw pethau yr hyn y maent yn ymddangos neu beidio. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn teimlo ymdeimlad gwerthfawrogol o ran sut brofiad yw hyn i bobl fel fi a deall bod golwg yn sbectrwm ac nad yw’n rhywbeth sydd naill ai ymlaen neu wedi diffodd.”
Bydd seinweddau triphlyg yn cyd-fynd â’r gweithiau celf (ar setiau pen disgo tawel); barddoniaeth ar lafar gan Bridie yn Gymraeg a Saesneg, seinwedd elfennol glaw yn tasgu oddi ar wrthrychau a seinwedd ddramatig trenau yn cyrraedd twneli gyda soddgrwth ac effeithiau sain anesmwyth wedi eu creu gan y Cyfansoddwr Simon McCorry.
Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Mwy o wybodaeth ar gwefan Bridie: https://www.bridiedoyle.co.uk
Adborth cynulleidfa:
“Profiad anhygoel a bwerus oedd symud o gwmpas yr arddangosfa. Roedd y barddoniaeth a’r geiriau wedi helpu fi deall a teimlo empathy tuag at ei sefyllfa o golli golwg. Byddwn yn argymell pawb i ddod i ymweld a’r gwaith”
“Roedd cymaint o bethau annisgwyl a oedd yn gwneud i fi deimlo’n ansicr, yn ddihyder ac yn anghyfforddus, bron â cherdded mewn i bobl yn y twnel. Profiad i wneud i fi feddwl am y brofiad pobol namgolwg.”
Media:
Ffilm ddogfen fer Sbectrwm o’r Golwg – Gan Hugh Griffiths. Mae’r fideo ar gael gyda chapsiynau yn Saesneg a Chymraeg.
Taflen Iaith Arwyddion Prydain – Gan Emily Rose (am berfformiadau Llantarnam Grange):
Taflen Sain – Saesneg (am berfformiadau Llantarnam Grange)
Gwrandewch ar glipiau o’r Soundscapes yma:
Rhestr o artistiaid/cydweithwyr a rolau:
Artist Arweiniol – Bridie Doyle-Roberts
Cyfansoddwr – Simon McCorry
Barddoniaeth – Bridie Doyle-Roberts
Dylunydd Goleuo – Garrin Clark
Celf fideo – Hugh Griffiths
Artist Cynorthwyydd – Rebecca Rowlands
Artist Cynorthwyydd Hyfforddi – Jodie Yates
Mentor – Rachel Gadsden
Hygyrch BSL creadigol – Emily Rose
Disgrifiad sain – Billie Ingram-Sofokleus