Cartref digidol diwylliant Cymru.

Catrin Menai – Artist Preswyl 2025

Artist yw Catrin Menai sy’n byw rhwng Bethesda a Glasgow. Mae ei gwaith yn edrych at botensial gwrthrychau bob-dydd, ystumiau a llefydd i gyfathrebu naratif. Gan ddefnyddio ffilm, sgwennu a chanfod, ac wedi’i gwreiddio mewn cyfarfyddiadau damweiniol cyn gymaint ag astudiaeth fanwl, mae’n archwilio strategaethau o feddwl gyda’n byd, ac o ystyried gofal a chariad fel gofod materol i greu gwybodaeth. Mae ei gwaith wedi ei arddangos yn ddiweddar yn Mostyn a Thŷ Turner, ac fe gwblhaodd MFA yn y Glasgow School of Art yn 2021.

Preswyliad Ymchwil a Datblygu efo Catrin Menai 12–19 Gorffennaf 2025

Man cychwyn ymchwil Catrin ac Esyllt oedd map o enwau caeau Ynys Enlli. Daeth y map yn ganllaw iddynt er mwyn archwilio ffiniau ieithyddol, tiriogaethol a dehongliadol – drwy gyfrwng ymchwil ar y tir a sgyrsiau casglebol. Buon nhw’n darllen y caeau drwy gerdded, synhwyro a sgwrsio, gan gaflgamu rhwng ffyrdd o wybod a gaiff eu cadw ar wahân yn aml iawn… dealltwriaeth barddonol a gwyddonol, personol ac ecolegol, llafar ac ysgrifenedig. ”Caeau’r Dychymyg” – gweithdy dwy awr yn cyfuno taith gerdded â myfyrdod ar iaith a thirwedd yr ynys. Chwe chyfranogwr.

c_menai 

www.catrinmenai.co.uk  

ArtesMundi  

 

 

 

RHANNWCH