Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cerddi Heddwch | Peace Poems

Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, mae PEN Cymru a’r Academi Heddwch wedi dod at ei gilydd i rannu cerddi sy’n ein cynorthwyo i ystyried ‘heddwch’. Drwy leisiau 12 bardd o Gymru, cawn gip ar wahanol agweddau ar heddwch a chawn gyfle i feddwl am ran Cymru yn y gwaith o hyrwyddo heddwch yn y byd. Gyda diolch i bawb a ymatebodd i’r alwad am gerddi drwy PEN Cymru.

FIDEO: Digwyddiad Diwrnod Rhynwgladol Mamiaith 2021

Darlleniadau gan feirdd a thrafodaeth yn archwilio’r syniad o ‘famiaith’ ac ‘iaith frodorol’ yng nghwmni Menna Elfyn, Ifor ap Glyn, Sian Northey, Grug Muse, Ned Thomas ac Elin Haf Gruffydd Jones.

Pennod 1: Pam dan ni’n sgwennu

Colli’r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros.

Pedwar awdur sy’n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.

Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

GOLWG: Cyf. 33 | Rh.26 | 3/11/21

Dyma glawr Golwg wthnos yma, a’r blurb – @huwstephens yn edrych ar hanes celf y Cymry yn #Golwg yr wythnos hon. Hefyd… 🔹 Plaid Cymru yn “ddi-glem” ar faterion amgylcheddol 🔹 @S4C yn ymddiheuro am broblemau sain Cân i Gymru 🔹 Colli capeli Cymru – “trosedd treftadaeth” 💻 golwg.360.cymru/cylchgrawn

#DewisHero: Rob Phillips

Ar gyfer #DiwrnodRhyngwladolyMerched mae rhai o’n staff wedi dethol menyw sydd wedi gwneud argraff arnyn nhw am eu bod nhw wedi #DewisHerio. Dyma Rob Phillips o’r Archif Wleidyddol Gymreig yn egluro pam fod Ann Clwyd yn un i’w hedmygu am iddi herio’r drefn.

#IWD2021

#DewisHero: Iola Baines

Roedd Red Flannel Films yn gwmni ffilm benywaidd wnaeth #DewisHerio. Yma, mae Iola Baines o’r Archif Sgrin a Sain yn esbonio sut y bu iddynt arloesi drwy gynnig dulliau gweithio newydd a chynhwysol a rhoi sylw i fywyd menwyod yn eu ffilm ‘Mam’

#IWD2021

#DewisHerio: Morfudd Bevan

The artist Seren Morgan Jones’ striking portraits depict Welsh women in a mixture of a contemporary and classical style. Our Curator of Art, Morfudd Bevan explains why she has selected her as a woman who #ChoosesToChallenge

#IWD2021

8 Llyfr ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod | 8 Books for International Women’s Day

Gall Merched Wneud Popeth! addasiad / translated by Mari George.  Gall merched Wneud Popeth! Gallan nhw ein rhyfeddu ni. Gallan nhw ein synnu ni. Gall merched wneud unrhyw beth yn y byd. Ac os wyt ti’n ferch, pam na wnei di roi cynnig arni!   ++++  There are all kinds of girls, and they are a source of wonder and surprise. Girls can do anything, and if you are a girl, have a go on all kinds of activities! A Welsh adaptation of Girls Can Do Anything! by Mari George.    […]

‘Na Nel! Un Tro…’ hefo Meleri Wyn James

Dyma’r awdures Meleri Wyn James a’i nith Martha yn darllen un o benodau ‘Na, Nel! Un Tro…’ llyfr a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr yn 2018. ‘Na, Nel! Un Tro…’ oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gynnwys yn yr ymgyrch sy’n cael ei gynnal yn flynyddol ar ddydd Iau cyntaf mis Mawrth.

Y Pump llyfr wnaeth greu Taliesin Macleavy

Dyma’r awdur Alun Davies (Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial) yn rhannu ac yn argymell 5 o’r llyfrau wnaeth ei helpu i greu ei brif gymeriad, y ditectif Taliesin Macleavy.

Y Wawr – Diwrnod y Llyfr

Dewch i ddathlu #DiwrnodyLlyfr gyda Cylchgrawn y Wawr.  Cymerwch olwg ar bodlediadau o erthyglau o rifyn diweddaraf Y Wawr!

Menter Newydd Cylchgrawn CARA

Mae gan gylchgrawn Cara fenter newydd eleni, sef Clwb Llyfrau Cara. Rydyn ni fel golygyddion wrth ein boddau’n darllen, ac mae llyfr (neu ddau, neu dri) ar y gweill gyda ni o hyd. Gyda chymaint o lyfrau gwych yn cael eu cyhoeddi, yn Gymraeg a Saesneg, beth am eu trafod nhw gyda’n gilydd? Mae’n siŵr […]

Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi – Llio Elain Maddocks

Mae’n fraint mawr gan griw Cyhoeddiadau’r Stamp gyflwyno Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi, y pamffled cyntaf o gerddi gan Llio Elain Maddocks (@llioelain ar instagram). Dyma gyfrol o ugain o insta-gerddi sydd, os nad ydych chi wedi llwyddo i ddyfalu hynny o’r teitl, yn ymateb i lot o stwff stiwpid ma hogia ‘di ddeud wrth yr awdur dros y blynyddoedd.

Dyluniwyd y clawr gan Erin Thomas, artist o Flaenau Ffestiniog, sydd hefyd wrthi’n creu darluniau o i gyd-fynd â cherddi Llio o fewn y pamffled. Gellir dod o hyd i’w gwaith ar instagram o dan @eerinart.

Byddwn yn rhyddhau mwy o fanylion dros y mis nesaf, ond am y tro, ac i godi eich gobeithion, dyma adolygiad o waith Llio gan un o hoelion wyth diwylliant Cymreig:

‘Erchyll.’ – Dei Tomos

Gallwch bellach ragarchebu’r casgliad o wefan Cyhoeddiadau’r Stamp: ystamp.cymru/cyhoeddiadau

Iaith y brifddinas – Adolygu ‘The Welsh Language in Cardiff’

Un o ragdybiaethau ein cenedl yw bod yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd yn ffrwyth mewnfudiad Cymry Cymraeg o orllewin, canolbarth a gogledd Cymru – yn chwilio am swyddi ac, yn eu tro, yn datblygu dosbarth canol, proffesiynol cryf yn y brifddinas tua’r 1960au. Tra bo Owen John Thomas yn cydnabod y symudiad hwn, ei brif […]

Tair cerdd: Gwrando – Morwen Brosschot

Morwen Brosschot yn cyflwyno tair cerdd o’i phamffled diweddar o gerddi ar y cyd a’r artist Kim Atkinson, Gwrando.

Mae Gwrando yn gasgliad o gerddi dwfn, astud a diamser mewn llais sy’n treiddio trwy ddwndwr y byd cyflym a materol i gyhoeddi’n dawel: ‘dyma fi’. Dyma farddoniaeth sy’n arsylwi’n graff ar fyd natur a threigl tymhorau, ac yn dangos inni werth arafu a gwrando.

Prynwch ‘Gwrando’ yma!

Mari Elen yn holi yr Awdur Megan Hunter

19:30 | 04.03.21

I ddathlu #DiwrnodYLlyfr a #GwylDewiBangor2021 bydd Megan Hunter yn sgwrsio a thrafod ei nofel ysgytwol ‘Tu ôl i’r awyr’ hefo Mari Elen.


Mae ‘Tu ôl i’r awyr’ wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y flwyddyn 2021, Llenyddiaeth Cymru.

Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg

Lansio gŵyl ddarllen newydd ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

Yn sgil llwyddiant ‘Amdani’, y gyfres o lyfrau i ddysgwyr Cymraeg, bydd Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg yn cael ei chynnal rhwng 4 Mawrth (Diwrnod y Llyfr) ac 11 Mawrth 2021.

Nod yr ŵyl rithiol, sy’n cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yw annog dysgwyr i ddefnyddio a mwynhau eu Cymraeg trwy ddarllen ystod o ddeunyddiau, boed yn llyfrau, cylchgronau neu wefannau.

Mwy o fanylion yma

Lucy Gannon reads an extract from ‘The Amazingly Astonishing Story’

To celebrate World Book Day we’re sharing a new video of award-winning screenwriter Lucy Gannon reading from her childhood memoir.

By turns laugh out loud funny and deeply sad, The Amazingly Astonishing Story is a frank and surprising look into a child’s tumultuous mind. Dubbed a “fantastic book” by Dawn French, it is a classic story of a working-class girl growing up in the fifties and sixties, where dreams and reality seem irreconcilable. Her Catholic upbringing, a father torn between daughter and new wife, her irreverent imagination and determination to enjoy life, mean Lucy’s story really is amazing (including meeting the Beatles). Available in bookshops and online at Serenbooks.com.

Adolygiad o Ha Ha Cnec! Jôcs Twp a Lluniau Twpach gan Huw Aaron

Wel, os ’da chi ’di bod yn teimlo braidd yn fflat ar ôl y flwyddyn ddwytha o lockdowns, dwi’n meddwl mai hwn fydd jest y peth i chi! Ma’ nhw’n dweud mai ‘chwerthin yw’r moddion gora’ dydyn, a fedra i ddim cytuno mwy! Mae Ha Ha Cnec yn drysorfa o jôcs fydd yn codi calon […]

Adnoddau #CaruDarllen Awduron o Gymru: Huw Aaron

Mae Cyngor Llyfrau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi creu cyfres o gydag awduron plant o bob cwr o Gymru i ysbrydoli a chefnogi darllen er pleser gartref neu yn yr ystafell ddosbarth.

Huw Aaron sy’n trafod beth mae darllen yn ei olygu iddo fe, a’r stori y tu ôl i’r stori. Mae hefyd yn darllen darn o’i lyfr Y Ddinas Uchel ac yn rhannu her greadigol.

Adolygiad o’r Archif (1986): Cyfrinach Betsan Morgan gan Gwenno Hywyn

Wrthi’n sortio’r silff lyfra Cymraeg yn y dosbarth oeddwn i, pan ddes i ar draws un o glasuron Cyfres Corryn doeddwn i heb weld ers pan o’n i yn yr ysgol fy hun – Cyfrinach Betsan Morgan gan Gwenno Hywyn. Mae’n gywilydd gen i ddeud fy mod i wedi cysidro ei daflu am amrantiad, ond […]

Adolygiad: Y Pwll

There was some good news this month, as the Welsh Government and the Books Council of Wales announced a new scheme to support the health and wellbeing of children. A pack of 41 books, selected by experts, has been funded which helps teachers to better discuss health and wellbeing issues. The books will be available […]

Cwmwl Dros y Cwm gan Gareth F Williams (Gwasg Carreg Gwalch: 2013)

Like many of us, I knew that South Wales has a very close connection with the coal industry, and not only has it played an important role in our history as a nation, but it has shaped many of the communities we know today. Even though the once-vast industry has virtually disappeared, it has certainly […]

Trailer Colli’r Plot

Colli’r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy’n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn amal yn ei cholli hi. Dan ni’n mynd i fwydro am sgwennu a llyfrau a bob dim dan haul a dan ni’n mynd i drio cael testun i bob podlediad, ond nabod […]

GOLWG: Cyf. 33 | Rh.25 | 3/1/21

Cai Thomas, sy’n canu ar ddrama fawr The Pembrokeshire Murders, sydd ar glawr #Golwg yr wythnos hon. Hefyd… 🔹 Troi tai gwyliau yn ased Cymreig 🔹 “Croeso aruthrol” i’r Cymro Cymraeg sy’n Brif Gopyn yn Lloegr 🔹 Uwchgynghrair Cymru yn ôl! 💻 golwg.360.cymru/cylchgrawn 

Llechi – Manon Steffan Ros

I chi sy’n gyfarwydd â chyfresi fel The Bridge a The Killing, anghofiwch am Scandi noir achos mae Bethesda noir wedi cyrraedd a dw i isio mwy! Dw i wastad wedi bod yn hoff o ddarllen ond mi oedd ffeindio llyfr oedd wir yn dal fy sylw ac yn tanio’r diddordeb yna mewn darllen yn […]

Symudiadau clocsio gydag Osian

Symudiadau Clocsio gydag Osian

A wnaethoch chi fwynhau fideo Osian ddoe? Ydych chi am roi cynnig ar glocsio? Os felly gwyliwch y fideo hwn.

Llên Natur – Bwletin 158 (Mawrth 2021)

Dyma bigion o gynnwys Bwletin Llên Natur mis Mawrth (rhifyn 158). Gobeithio y cewch chi fwynhad:

  • Mwy am wneud rhaffau (Gwilym Morris Jones)

  • Tyllu am ddefaid yn heth mawr 1963

  • Ffwng, cen a mwsogl yn y gaeaf (albwm)

  • Goleuni’r Gogledd trwy’r oesoedd

  • Diod mwcog (neu egroes) i fabis

  • Cofio’r botanegydd o’r Bermo, Peter Benoit

  • Adar yr Afonnydd a’r Llynnoedd (Poster ‘Llygaid Bach’ arall gan Gareth Pritchard)

a llawer mwy YMA!

⬇️ English > Brezhoneg > Deutch > Francais ⬇️

Introduction to Arts & Culture in Wales 2021

Fideo a grëwyd ar gyfer cyhoeddi Cymru fel prif bartner Showcase Scotland 2022.

Gyda diolch i’r holl gyfraniadau a cherddoriaeth, i Kizzy Crawford ac i Steve Bliss, OBR Studios.

Stanza – The Nemesis Machine at Diffusion 2019

Mae The Nemesis Machine yn ddarn mawr o waith sy’n cynrychioli cymhlethdodau’r ddinas amser real fel system sy’n newid a symud yn barhaol. Mae’n darlunio bywyd yn y metropolis ar sail data amser real sy’n cael ei ddarlledu o rwydwaith o synwyryddion, gan olygu bod y ddinas replica, o ddarnau electronig, yn adlewyrchu, mewn amser real, yr hyn sy’n digwydd y tu allan. Mae’r Nemesis Machine yn edrych yn debyg i Big Brother drwy lens Rhyngrwyd y Pethau. Mae’n rhoi golwg o’r awyr i’r ymwelwyr o ddinas seibernetig, clwstwr wedi’i animeiddio o ran ei olwg a’i sain o nendyrau a adeiladwyd o silicon a byrddau cylched.

Mae camerâu bychain yn tynnu lluniau o ymwelwyr y ddinas fel eu bod yn dod yn rhan o’r gwaith celf. Mae’r gwaith yma’n mynd y tu hwnt i ryngweithio syml gydag un defnyddiwr, drwy fonitro a bwrw golwg ar ymddygiad, gweithgareddau a gwybodaeth newidiol yn y byd o’n cwmpas gan ddefnyddio dyfeisiau wedi’u rhwydweithio a gwybodaeth wedi’i throsglwyddo’n electronig ar draws y rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys arsylwi o bell drwy synwyryddion wedi’u creu’n bwrpasol, cyfrifiaduron a chamerâu wedi’u rhwydweithio. Mae’r gwaith celf yn diwygio’r wybodaeth a’r data yma gan greu’r hyn y mae’r artist yn ei alw’n ‘realitioedd paralel’.

Trwy’r Nemesis Machine, mae Stanza yn creu gofod cymdeithasol newydd sy’n bodoli rhwng y rhwydweithiau ar-lein annibynnol lle bydd dinasyddion y dyfodol yn cael eu cyfuno mewn amser real i greu dinasyddion data wedi’u cysylltu â’i gilydd. Daw’r tirlun yn rhywbeth y gellir ei wylio. Mae’r gwaith yma’n gofyn pwy sy’n berchen ar y data ac yn rhagweld y bydd ffiniau rhithwir yn creu systemau newydd o reolaeth.

Ffilmiwyd a golygwyd gan Philip Jenkins