Er na chefais gyfle hyd yma i gyfarfod â Daryl Leeworthy, awdur y gyfrol hon, rwyf wedi dod i’w nabod yn lled dda yn rhithfyd Twitter. Dywedodd wrthyf bod A Little Gay History of Wales yn ‘very “me”, as it were’. Ni allwn fod wedi cyfleu hynny’n well. Yn gyson â’i hawdur, mae’r gyfrol hon yn addysgu, yn ysbrydoli ac yn pryfocio. Mae’r drafodaeth yn sobor o ddeallus, yn fentrus, yr ymchwil yn fanwl, ac mae’r awdur yn amlwg yn falch o fynd yn groes i’r graen.
Mae astudiaethau queer yn faes ymchwil sydd ar gynnydd, er bod astudiaeth feirniadol o’r profiad Cymreig wedi bod ar ei hôl hi, am lawer rheswm. Archwilir nifer o’r rhesymau hyn gan Leeworthy. Mae rhagymadrodd hir yr awdur yn gosod ei stondin yn glir: dyma fydd ‘the active recovery of the margins and the marginalised’. Wrth hynny golyga nid yn unig y rhai a yrrwyd i’r ymylon o achos eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth rywiol, ond o achos eu dosbarth cymdeithasol, eu statws a’u modd ariannol hefyd. Mae llawer yn gyffredin rhwng y ffactorau hyn, dadleua Leeworthy.
Dyma ei haeriad mawr, ac eir ar ôl goblygiadau hynny mewn ffyrdd y bu hir ddisgwyl amdanynt. Mae’r ychydig hanes queer Cymreig a fu gennym hyd yma wedi canolbwyntio’n anorfod ar y lleisiau cryfaf: yr ariannog a’r tirfeddianwyr, y mewnfudwr â thafod arian, yr alltud artistig wedi ei biclo mewn hiraeth. Diolch i durio gofalus Leeworthy mewn archifau a thestunau cynradd, a’i dalent fel pioden yn gweld a dal gafael ar y tlysau ac yn eu gweu ynghyd, mae’r persbectif a gawn yn y gyfrol hon yn un dyfnach, llawnach. Mae’r cyfan wedi ei hidlo’n fedrus: o fân hysbysebion Edwardaidd i lyfrau log llinellau cymorth ffôn y 1980au, o gofrestrau llongau i gofnodion cyfarfodydd myfyrwyr ac undebau llafur; cofnodion heddlu, papurau lleol, Hansard, dadleuon cynghorau a thaflenni etholiadol; dyddiaduron, llythyrau a chyfweliadau. Mae’r cipolwg a gawn yn denu ac yn herio ar yr un pryd. Cymerwch, er enghraifft, y darn hwn o bapur ceidwadol y South Wales Weekly Post, a lwyddodd, wrth ddisgrifio erchyllterau fin nos Abertawe, i asio hiliaeth, homoffobia a digon o anlladrwydd i foddhau awch:
“Last night the writer … saw … two men (foreigners) in dungarees committing an offence against elementary decency in an archway where there happened to be just sufficient lamplight to enable passers-by to see what they were up to.”