Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhamant, colled a chariad

Ysgrif Goffa  Ym marwolaeth Tony Jones daeth pennod arwyddocaol yn hanes canu poblogaidd Cymraeg i ben. Yma cawn wybod sut y cyfareddwyd un o’n sgriptwyr mwyaf profiadol gan ddawn trin geiriau Tony a’i allu digymar i greu cân.      Yn ogystal â theledu, roedd gennym ni record player Dansette yn y parlwr ym Mryngwran, Môn, ar ddiwedd y 1960au. Roedd hi’n edrych yn hen ffasiwn adeg […]

Ailwylltio trwy gytgord

Barn ar Faterion y Mis  Bu’n gyfnod hir o ddisgwyl cyn i’r cyhoeddiad cyntaf ddod ddechrau mis Chwefror ein bod ni, yr elusen amgylcheddol Tir Natur, wedi prynu dros fil o erwau o dir yng Nghwm Doethïe yn yr Elenydd yng Ngheredigion i’w ailwylltio. Wrth i’r cyhoeddiad ddod, roeddem ar bigau’r drain yn gobeithio – yn gweddïo – […]

Manon Dafydd – Artist Preswyl 2025

Mae Manon Dafydd yn artist a dylunydd graffeg o’r Felinheli. Ar ôl cwblhau cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai yn 2012, aeth hi ymlaen i raddio gyda BA mewn Dylunio Graffeg o Central Saint Martins, Llundain yn 2015. Ers dychwelyd adref, mae Manon wedi bod yn datblygu ei chrefft tra’n mwynhau gwahanol brofiadau o weithio […]

Jeanette Gray – Artist Preswyl 2025

Mae Jeanette Gray, sy’n wreiddiol o’r Alban ac yn byw bellach yng Nghanolbarth Cymru, yn wehyddwr ac artist sy’n arbenigo mewn defnyddio deunyddiau planhigion gwyllt a gasglwyd yn lleol. Dechreuodd wehyddu yn 2012 ar ôl mynychu ei chwrs basgedwaith cyntaf – “caru ar yr olwg gyntaf”! Yn 2017 cwblhaodd hyfforddiant proffesiynol dwy flynedd mewn basgedwaith […]

Alison Neighbour – Artist Preswyl 2025

Mae Alison yn artist aml-ddisgyblaethol ac enillydd gwobrau sy’n gweithio ar draws perfformiad, gosodiadau ac ymgysylltiad cymdeithasol. Mae ei gwaith yn ceisio ail-gysylltu pobl â’r byd naturiol drwy greu eiliadau defodol, teithiau trochi a gosodiadau rhyngweithiol. Mae’n ail-lunio gofodau ar gyfer perfformiad ac ymgysylltiad cymdeithasol gyda ffocws ar gynaladwyedd. Mae’r berthynas gorfforol a synhwyraidd rhwng […]

Richard Harris – Artist Preswyl 2025

Mae Richard Harris (1954, Dyfnaint) wedi bod yn creu cerfluniau amgylcheddol ers 1976. Wrth astudio yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerloyw, dewisodd weithio yn yr awyr agored, gan adeiladu strwythurau o gerrig a choed a gafwyd yn lleol. Ar ôl ei astudiaethau, treuliodd flwyddyn mewn stiwdio ar Dartmoor, gan ddyfnhau ei gysylltiad â natur. Daeth […]

Rebecca Thomas a David Callander – Artist Preswyl 2025

Rebecca Thomas Mae Rebecca Thomas yn ysgolhaig ac awdur creadigol sy’n arbenigo ar hanes, diwylliant, a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol. Ei phrif faes ymchwil yw’r broses o greu hunaniaethau Cymreig mewn testunau canoloesol, ac mae ei llyfr History and Identity in Early Medieval Wales (Boydell & Brewer, 2022) yn archwilio sut y defnyddiwyd enwau, tiriogaeth, […]

Marged Tudur ac Aled Rhys Jones – Artist Preswyl 2025

Marged Tudur Mae Marged Tudur yn fardd, yn awdur ac yn olygydd o Forfa Nefyn; mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol, a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Roedd hi’n un o olygyddion […]

DWY – Artist Preswyl 2025

Enlli a Lleucu yw Dwy – deuawd ffliwt deinamig o Gaerdydd. Maent yn gerddorion sy’n cyfuno eu diddordebau mewn alawon gwerin, dawns traddodiadol, cerddoriaeth glasurol a diwylliant Cymreig i gynhyrchu gwaith sy’n ymgorffori effeithiau electroneg a thechnegau estynedig mewn cyflwyniadau sy’n creu sain unigryw, egnïol a chofiadwy. Yn 2023 enillodd Dwy gomisiwn gan yr Eisteddfod […]

Huw Jones – Artist Preswyl 2025

Mae Huw Jones yn byw yn Rhoscolyn yn Ynys Môn, ac mae ei waith wedi’i wreiddio yng nghyffro tirluniau Ynys Môn ac Eryri. Mae ei broses greadigol yn dechrau yn yr awyr agored, gan ddal newidiadau byrhoedlog mewn golau, tywydd a thymhorau drwy frasluniau a pheintiadau mewn gouache, acrylic a chyfryngau cymysg. Yn y stiwdio, […]

Rhian Haf – Artist Preswyl 2025

Mae Rhian Haf yn creu gosodiadau a cherfluniau gan ddefnyddio rhinweddau cyferbyniol gwydr fel ffocws i’w gwaith. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang yn y DU a thramor. Preswyliad Crefft 2–16 Awst 2025 Treuliodd Rhian bythefnos ar yr ynys yn edrych ar gysgodion, golau, gorwelion, planhigion ac ati. Crëodd gerflun ymatebol i’r safle: […]

Catrin Menai – Artist Preswyl 2025

Artist yw Catrin Menai sy’n byw rhwng Bethesda a Glasgow. Mae ei gwaith yn edrych at botensial gwrthrychau bob-dydd, ystumiau a llefydd i gyfathrebu naratif. Gan ddefnyddio ffilm, sgwennu a chanfod, ac wedi’i gwreiddio mewn cyfarfyddiadau damweiniol cyn gymaint ag astudiaeth fanwl, mae’n archwilio strategaethau o feddwl gyda’n byd, ac o ystyried gofal a chariad […]

Esyllt Angharad Lewis – Artist Preswyl 2025

Artist o Graig-Cefn-Parc yw Esyllt Angharad Lewis. Mae ei gwaith celf yn chwarae gyda chyfieithu fel cyfrwng esthetaidd. Bydd ei haddasiad o nofel Anthony Shapland ‘Lan Stâr’ (A Room Above a Shop) mas yn y gwanwyn. Mae’n gyd-olygydd ar Gyhoeddiadau’r Stamp, ac enillodd Wobr Ifor Davies yn Eisteddfod Pontypridd 2024 am ei pherfformiad, Blobus a […]

Sara Evelyn – Artist Preswyl 2025

Mae Sara Evelyn yn artist sain rhyngddisgyblaethol sydd ag ymarfer sy’n ymestyn ledledscenograffeg, cyfansoddi, electronau DIY, adeiladu offerynnau a printio. Mae ei gwaith yn ystyried gofod, materoliaeth, a safle ac yn aml caiff ei greu fel ymateb i elfennau acwstig neu faterol lle neu amgylchedd penodol. Preswyliad Awyr Dywyll gyda William Wyndham 24–31 Mai 2025 […]

William Wyndham – Artist Preswyl 2025

Mae William Wyndham yn arlunydd ac artist rhyngddisgyblaethol. Yn ogystal â’i gefndir mewn paentio traddodiadol, mae’n creu cerfluniau, perfformiadau, sain a fideo. Drwy’r cyfryngau hyn, mae’n gweithio gyda setiau bychan, technoleg sgrin werdd, electronau DIY, props, gwisgoedd a gwneud mygydau. Mae’n archwilio’n barhaus i ffyrdd newydd o ddod â’r sgiliau hyn ynghyd. Mae’r cyfuniad hwn […]

Joeseph Conran – Artist Preswyl 2025

Preswyliad Celfyddydau Gweledol  10/05/25–24/05/25  Mae Joseph Conran yn artist ac yn strategaethydd ym maes yr amgylchedd. Mae ei ymarfer yn byw yn y gofod rhwng pobl a byd natur, gan gyfeirio’n aml at brosesau naturiol fel ffordd o archwilio dynoliaeth. Yn ei waith artistig a strategol, mae Joseph yn creu gofodau lle gall creadigrwydd ysbrydoli pobl i […]

Cymru fel Cenedl Heddwch

Mae Byw Mewn Heddwch (Llais y Lle, Cyngor Celfyddydau Cymru) wedi dod i ffrwyth trwy bartneriaeth yr Academi Heddwch a grŵp Heddwch Nain/Mam-gu. Mae’n gyfle i ferched Meirionnydd a phobl ifanc GISDA archwilio beth ydi heddwch i ni yng Nghymru heddiw o fewn ein cymunedau a thu hwnt. Roedd y gyntaf o’n sesiynau ‘Meirionnydd Heddychlon?’ […]

Cyflwyno SOSEJ

Mae SOSEJ yn brosiect newydd i bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru trwy grant Llais y Lle. Dyma flog gan Nico Dafydd, artist cymunedol ar y prosiect, yn esbonio’r syniad tu ôl i’r cynllun “Dwi wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am bwysigrwydd cerddoriaeth; i wrando arno, i’w chwarae, i’w gyfansoddi, a’i fwynhau gyda ffrindiau. I […]

Gwehyddu a Gwnïo Heddwch

Ar draws y byd, mae merched yn creu eu heddwch mewnol trwy wnïo a gwehyddu ond hefyd yn defnyddio hynny mewn modd chwyldroadol i fynegi eu hunain. Dydan ni ddim yn wahanol yn hynny o beth.   Gan ddefnddio cnu o’i fferm yn Llanfrothen, daeth Olwen Ford atom i wehyddu ac i ni gael sgyrsiau am beth ydi ystyr heddwch i ni heddiw o ran heddwch mewnol, addysg, bwyd, bywyd merched. Cafwyd sgyrsiau hynod o ddifyr a chreodd bawb fat o wlân i fynd adref.   Mae cangen arbennig o Byw Mewn Heddwch hefyd yn weithredol yn ardal Y Bala dan arweiniad Margiad Jones a Gudrun Jones sy’n creu Ffenest Heddwch trwy wnïo a brodwaith. Gofynnwyd i bawb yn ein sesiynau ‘Taset ti’n edrych trwy ffenest heddwch, be’ faset ti’n ei weld?’ Mae Margiad a Gudrun yn dod â’r syniadau hyn ynghyd â bydd criw o ferched sy’n mynychu grwpiau gwnio yn ymgymryd a’r gwaith o wnïo’r ffenest fetr sgwar.   

Geiriau’n gweiddi Heddwch

Mewn sesiynau hamddenol yn Y Pengwern, Llan Ffestiniog dros yr Hydref a’r Gaeaf, bu sawl un yn ymateb i syniadau gwahanol am heddwch efo’r awdur Sian Northey. Yn un o’r gweithdai, cafodd mynychwyr y cyfle i ymateb i waith celf Paul Peter Piech gan fod Sian, Llinos a Seran o brosiect Byw Mewn Heddwch wedi cael y cyfle unigryw i guradu ei arddangosfa yn Storiel, Bangor. Mae ei waith yn bendant yn gweiddi heddwch.  Mae’r holl weithdai yn gyfle i fwrw bol ac i daflu syniadau ar lafar neu ar bapur a doedd ein sesiynau Gweledigaethau a Ryseitiau Heddwch ddim gwahanol wrth i ni fynd ati i feddwl am y bobl sydd ddim yn rhydd yn ein cymdeithas ac ar draws y byd ac i feddwl beth ydi’n gweledigaethau ni am heddwch a beth ydi’r cynhwysion angenrheidiol.   I ddechrau’r flwyddyn newydd, daeth criw ohonom at ein gilydd i greu baneri heddwch o ddyfyniadau enwog yn ogystal â myfyrdodau ein hunain. Cynhaliwyd sesiwn gan Sian Northey a’r saer maen Gabriel Hummerstone yn defnyddio cerrig fel sbardun i feddwl am heddwch cyn i ni cyd-benderfynu ar air i’w gerfio mewn llechen. Mae’r diwydiant llechi wedi bod yn drawsnewidiol i gymunedau ym Meirionnydd ond mai gwaith dynion fu’r cerfio erioed. Roedd yn rymusgar iawn i ni fynd ati i naddu bob llythyren gyda’r daith araf i heddwch yn ein meddyliau.   

Llyfr Lloffion Byw Mewn Heddwch

Ar ddechrau’r prosiect dosbarthwyd llyfrau lloffion i bawb oedd yn mynychu’r sesiynau – er mwyn iddynt gael cadw trefn ar eu creadigaethau. Un sy’n frwd iawn am greu brasluniau yn ymateb i bob sesiwn ydi Gudrun Jones. Dyma rai o’r gweithiau yma…   

Gweithdai GISDA

Mae’r artist Fiorella Wyn a Llinos Griffin yn gweithio efo pobl ifanc GISDA ym Mlaenau Ffestiniog bob mis i greu gwaith yn ymateb i’r syniad o heddwch. Maent wedi cael y cyfle i ddylunio tatŵs heddwch, i greu cerfluniau clai ac i greu addurniadau Nadolig heddychlon.   Yn ddiweddar, cynhaliwyd sesiwn addurno dillad efo negeseuon heddwch ac bellach, mae cotiau bendigedig ar eu ffordd, wedi eu haddurno mewn cerddi a geiriau!    

Cofio ein Cyn-Neiniau

Parhad i ddathliad Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 ydi Byw Mewn Heddwch felly mae wedi bod yn hollbwysig i ni nodi hynny o’r cychwyn cyntaf.   Ym mis Medi 2025, aethon ni am dro (Mynd am Dro at Mary) efo Mair Tomos Ifans i goffau gwaith Mary Ellis yr heddychwraig o Ddolgellau fu’n un o’r bedair i gydlynu’r Ddeiseb a hwylio efo hi draw i America i’w chyflwyno i ferched y wlad er mwyn rhoi pwysau ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Er na ddigwyddodd hynny, mae ymdrech y merched i gasglu bron i 400,000 o enwau merched Cymru yn anhygoel. Cerddon ni o Ddolgellau i Lanelltyd mewn glaw trwm (fel wnaeth rhai o’r merched oedd yn mynd o ddrws i ddrws i hel llofnodion) a chael hanes Mary Ellis gan Jessica John sydd wedi bod yn gweithio ar gael plac i’w choffau ynghanol Dolgellau.   Mae Mair wedi bod yn rhedeg gweithdai creu Hetiau Heddwch yn Nolgellau a Dinas Mawddwy gan ein hatgoffa ni i gyd o’r merched o dan yr hetiau yn y 1920au. Yn deillio o hyn, mae penillion wedi eu creu gan y criw fel teyrnged i’n neiniau.  Yn yr Ysgwrn dan arweiniad Meleri Davies a Sian Melangell Dafydd ddechrau Chwefror, cafwyd diwrnod hynod ddiddorol yn ymateb i’r merched anweledig sy’n cynnal ein cymunedau er mwyn gwella ein bywydau cymdeithasol a theuluol ni i gyd ond hefyd i ddysgu mwy am y merched a’u gelwid yn wrachod na gafodd y fraint o fyw eu bywydau mewn heddwch. Trwy eiriau a gan drin clai, mi gaethon ni fynegi ein hymateb i’r holl hanesion a thrafodaethau’r dydd.    

Papurau Bro: Y Newyddiaduraeth Fwyaf Cynhwysol yn y Byd?

Mae gan gario clecs enw drwg, gan taw sibrydion a rholio llygaid yw’r ffordd mae’n cael ei weld, ac mae’n cael ei ddiystyru fel rhywbeth dibwys neu greulon, rhywbeth i’w anwybyddu yn hytrach na’i ddeall. Cawn glywed ei fod yn amhroffesiynol, ac nad yw’n haeddu sylw. Ond, yn y bôn, mae cario clecs yn hanfodol, […]

Pwy piau’r gwynt?

Daeth cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU am ddau gynllun gwynt ar y môr arfaethedig â hwb mawr i sector ynni gwyrdd Cymru. Yn eu sgil daw addewidion sylweddol o ran swyddi a digon o drydan ar gyfer mwy na hanner cartrefi Cymru.  Fferm wynt Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro yw un o’r cynlluniau hynny – gyda […]

Y teulu trafferthus

Athro ysgol o Swydd Mayo ydi Enoch Burke ac enw amlwg iawn yn Iwerddon ar hyn o bryd, nid oherwydd unrhyw gampau addysgol yn y dosbarth ond yn sgil helynt sy’n deillio o’r modd priodol o ddefnyddio’r rhagenwau wrth gyfeirio at unigolion traws – helynt sydd wedi troi’n bantomeim a hanner yn llysoedd barn y Weriniaeth.    Yn ein […]

Blwyddyn y Dylluan – Rolant Tomos

Ddigwyddodd o fel bob dim arall da, ar ddamwain. Wedi iddyn nhw gael gwared o bawb doedd hi ddim yn licio dan esgus ailstrwythuro, ffeindies i’n hun yn gweini sothach seimllyd i’r criw oedd am dofi’r cwrw cyn mynd adra. Doedd ddim ots os o’n i’n neud smonach o’r archeb achos doedd rhan fwyaf ddim […]

Mari – Bethan Page

Gwyliais hi drwy’r bwlch yn y gwrych – roeddwn wedi fy hoelio i’r man – yn ymwybodol fy mod yn ymwthio i foment personol ac arwyddocaol yn ei bywyd. Teimlais y dyliwn i symyd yn fy mlaen a pharhau ar fy nhaith gerdded, ond roedd rhywbeth yn fy ngorfodi i aros am hirach na ddyliwn […]

Dienw – Catrin Cheung

Dienw Yn ei stafell mae hunanbortread. Paentiad o’r ysgol yn meddiannu’r canolbwynt. Llun mewn ffrâm go-iawn, caiff ei warchod dan wydr. Mae’n edrych fel campwaith i’r bachgen. Cefndir glas – Prussian Blue – neu os rydym am fod yn wyddonol: Fe₄[Fe(CN)₆]₃ yw’r fformiwla gywir. Darganfyddwyd y lliw ar ddamwain mewn gweithdy ym Merlin. Roedd y […]

Tu hwnt i’r dedlein: Y moethusrwydd o gamu’n ôl fel newyddiadurwr

Ym mis Rhagfyr, roeddem wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Sofia Lewis wedi derbyn ein Cymrodoriaeth Cynefin gyntaf. Fel rhan o’r gymrodoriaeth, mae Sofia yn treulio tymor yn Sefydliad Reuters yn Rhydychen, yn archwilio dyfodol newyddiaduraeth ochr yn ochr â chwe Chymrawd arall o bob cwr o’r byd. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o bostiadau blog y bydd […]

BYW MEWN HEDDWCH

Nod ‘Byw mewn Heddwch’ ydi dod â merched ardal Meirionnydd ynghyd i drafod beth ydi ystyr heddwch i ni heddiw trwy gyfrwng y Gymraeg ac ymateb i’r sgyrsiau hyn yn greadigol. Mae’n barhad i’r gwaith o ddathlu Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24. Dan ni hefyd yn gweithio’n fisol efo pobl ifanc GISDA ym Mlaenau Ffestiniog […]

Llinos Griffin – Meirionydd

Wedi’i sbarduno gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, bydd Byw Mewn Heddwch yn annog gweithredu celfyddydol yn archwilio heddwch. Mewn cydweithrediad ag Academi Heddwch Cymru a Heddwch Nain/Mam-gu, cynhelir sesiynau aml-gyfrwng i gymunedau di-lais Meirionnydd (pobl ifanc GISDA a merched yr ardal). Archwilir ‘heddwch’ yn ei ystyr ehangaf – o’r personol i’r rhyngwladol gan greu ‘cymuned heddwch’ ar […]

Adolygiad y Flwyddyn 2025

Wrth i 2025 ddod i ben, mae’n teimlo fel yr amser iawn i oedi, myfyrio, a dathlu popeth y mae ein cymuned wedi’i adeiladu gyda’n gilydd. Pryd bynnag y byddaf yn ysgrifennu’r adolygiadau diwedd blwyddyn hyn ar gyfer Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, rwy’n dychwelyd at y gobeithion a oedd gennym pan greon ni’r rhwydwaith gyntaf. Ein […]

Gwlad y trethi uchel?

  Yn sgil y gyllideb, bu cryn glochdar yn y wasg adain dde ynghylch trethi annheg ac afradlonedd honedig y Llywodraeth wrth gynnal y wladwriaeth les. Ar y chwith, parhau wnaeth y galwadau am drethi uwch ar y da eu byd. Yn ôl ein colofnydd, nid yw’r naill safbwynt na’r llall yn arwain at atebion […]

Dilyn seren y dwyrain

Un o fentrau Llywodraeth Cymru i hybu uchelgais ymhlith disgyblion ysgol galluocaf y wlad yw Academi Seren. Ond seren yw hon sy’n ein harwain ar gyfeiliorn – yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd – yn ôl un addysgwr blaenllaw. Yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, cefais yr anrhydedd o draddodi darlith ar ran Dyfodol yr Iaith […]

Rhaglen People Speak Up – Effaith

Yn ystod Hydref 2023 – Mawrth 2024, derbyniodd PSU grant Creu CCC i ddatblygu’r rhaglen Lles Creadigol yn People Speak Up, canolfan celfyddyd, iechyd a lles Llanelli – amser a gofod i’r gymuned gysylltu’n greadigol a dod o hyd i’w llais trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, celfyddydau digidol, celfyddydau gweledol, gwirfoddoli a sgyrsiau […]

Plu & the Dream Tree

Mae Plu & The Dream Tree yn dilyn Plu, plentyn disglair a dychmygus o Lan yr Afon, sy’n byw gyda’i Fam brysur a’i Dada addfwyn. Pan fydd yn rhaid i Mam adael yn sydyn i wella, mae Plu yn mynd yn ofnus ac yn ansicr. Un noson, yn ystod storm, mae Plu yn cwympo i […]

Hammad Rind – Caerdydd

Nod prosiect Lleisiau Grangetown yw hyrwyddo gweithgareddau llenyddol Cymraeg yn Grangetown, un o’r ardaloedd mwyaf amrywiol a difreintiedig yng Nghymru. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys digwyddiadau Meic Agored Cymraeg, clybiau llyfrau a chyrsiau ysgrifennu creadigol. Gweledigaeth gyffredinol y prosiect yw dod â’r Gymraeg i’r gymuned mewn ffordd gynhwysol a hygyrch.   Dyma gipolwg ar y prosiect hyd […]

Partneriaeth gyda QueerAF: Sut Mae Cymru’n Gwneud Dawnsfa yn Iawn

Fe wnes i ddod ar draws Dawnsfa gyntaf fel arddegwr cwiar o gymoedd Cymru a oedd wedi treulio blynyddoedd yn cael ei bwlio. Y sîn yng Nghaerdydd oedd y lle cyntaf lle nad oedd yn rhaid i mi grebachu na chuddio fy hun. Yno, des i o hyd i gymuned a symudodd gyda bwriad ac […]

Carys Hedd – Sir Benfro

Esgyn – prosiect a fydd yn pwytho’n cymuned Codi Canu â gwaith tecstilio creadigol ynghyd yng Ngogledd Sir Benfro.   Gwnawn hyn drwy ail greu’r Betgwn, rhan o’r wisg draddodiadol Gymreig i’w gwisgo mewn perfformiadau fel Y Fari Lwyd.  Byddwn hefyd yn ymgynghori gyda’r cymunedau beth yn hoffent eu creu allan o ddefnyddiau wedi’u hail gylchu […]

Prosiect Esgyn, Llais y Lle

Mae Esgyn yn brosiect gymunedol sy’n cyfuno gwnïo a chanu Cymraeg i gryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ac arfer dyddiol o’r iaith. Dan arweiniad Carys-Hedd, mae’n gwahodd cyfranogwyr ledled Aberteifi a gogledd Sir Benfro i ail-greu’r Betgwn traddodiadol gyda’i gilydd—pob un yn ei steil ei hun—mewn gweithdai dan arweiniad gan ddefnyddio deunyddiau lleol ac â phwysigrwydd personol. […]

Rhian Anderson – Caerffili

Bydd Celf yn y Caffi yn cael ei gynnal fel sesiynau celf greadigol sy’n dod â phobl o Ddyffryn Aber ynghyd gyda’r nod o hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd wedi’i anelu at bob lefel a gallu, gan gynnwys y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol ond diddordeb a chwilfrydedd am y Gymraeg.   Dyma ychydig am y prosiect: Yn […]

Llyfrau’r Gaeaf

Detholiad o’r llyfrau gwych o Gymru a fydd ar gael o’ch siop lyfrau leol y gaeaf hwn.

Dathlu’r cant drwy draethu’r gwir

Nid arbenigo’n unig ar wleidyddiaeth y presennol y mae ein colofnydd. Ef hefyd yw’r arbenigwr pennaf ar hanes ideolegol y mudiad cenedlaethol Cymreig modern. A Phlaid Cymru yn dathlu’i chanmlwyddiant eleni, nid rhyfedd iddi ei wahodd i annerch cinio cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Abertawe ar 10 Hydref. Wele fersiwn ar gyfer BARN o’i sylwadau. […]