Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyflwyno SOSEJ

CerddoriaethCymuned

Mae SOSEJ yn brosiect newydd i bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru trwy grant Llais y Lle. Dyma flog gan Nico Dafydd, artist cymunedol ar y prosiect, yn esbonio’r syniad tu ôl i’r cynllun

“Dwi wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am bwysigrwydd cerddoriaeth; i wrando arno, i’w chwarae, i’w gyfansoddi, a’i fwynhau gyda ffrindiau. I Gymru fel cenedl mae’n ganolog i’n diwylliant a’n hunaniaeth. Mae pobl wedi codi i ganu mewn adegau o hapusrwydd a thristwch, i ddatgan yr hyn mae nhw’n ei deimlo. Am ganrifoedd mae ein capeli wedi siglo gyda phedwar llais. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ganu’n hanthem genedlaethol yn uwch a gyda mwy o galon na neb arall. Ond ers fy arddegau, cerddoriaeth newydd, wreiddiol sydd wedi mynd â fy mryd. Roedd yn allweddol i fy ngallu i ddarganfod fy lle yn y byd, trwy fynd i gigs gyda ffrindiau, cyfarfod â phobl oedd yn hoffi’r un bandiau, ffurfio grŵpiau, ac yn y pen draw, dechrau trefnu gweithgareddau. Mae wedi dod yn fwyfwy pwysig i fi felly i allu cynnig yr un peth i bobl ifanc nawr, mewn cyfnod sydd lot mwy cymhleth na chanol degawd cyntaf y ganrif hon. Mae gigs yn llai amlwg, llai o fandiau yn ffurfio, ond eto, rhywffordd, mwy o sylw rhyngwladol i gerddoriaeth Gymraeg. Felly dyma fynd ati i ddechrau ar SOSEJ, prosiect gan bobl ifanc, i bobl ifanc.

Beth sydd ei angen ar gyfer creu a chynnal diwydiant a diwylliant cerddorol, gyda’r iaith Gymraeg yn ganolog iddo, mewn ardal wledig? Dyma’r cwestiwn anferthol mae SOSEJ yn mynd ar ei ôl. Pam? Gyda dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r fath ardal, a’r holl gyfleoedd sy’n dod gyda hynny, mae cyfle euraidd i adael gwaddol ar yr ardal, ymysg pobl ifanc. A pha ffordd well o wneud hynny na thrwy gerddoriaeth Gymraeg?

Felly beth yw SOSEJ? Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gynllun Llais y Lle, mae’n gyfres o weithdai a rhyngweithio yn benodol ar gyfer pobl ifanc dalgylch Eisteddfod y Garreg Las (De Ceredigion, Gorllewin Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro). Mae’r cynllun yn cynnwys gweithdai penodol ar bob agwedd o’r diwydiant cerddorol, gan gynnwys creu cerddoriaeth, recordio, creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, trefnu gigs, creu posteri, ffotograffiaeth, creu fideos, peiriannu a chynhyrchu, a mwy. Mae’r gweithdai yn amrywiol, ac yn agored i bobl ifanc 16-25 mlwydd oed yn y dalgylch yma. Does dim angen profiad blaenorol nag ymrwymiad hir-dymor i’r prosiect, dim ond brwdfrydedd tuag ar grëad a pharad cerddoriaeth yn yr ardal.

Y gymuned sydd yn arwain y cynllun, gyda chyfle i weithio tuag at greu gweithgaredd neu ddigwyddiad eu hunain ar ddiwedd y cynllun. Gall hwn fod yn ŵyl, yn gig, yn wefan, yn albwm, neu unrhyw syniad arall cyffrous. Rydym yn cydweithio gyda’r cwmni cydweithredol Beacons, gyda Eisteddfod y Garreg Las a gyda’r label cymunedol lleol Fflach Cymunedol ynghyd â llu o artistiaid a gweithwyr llawrydd sydd yn creu a chynnal y diwydiant ar draws Cymru. Bydd y sesiynnau yn amrywio o ran lleoliad o nawr tan mis Awst, gan anelu i roi blas ar bopeth cyn mireinio’r prosiect gan anelu at y diweddglo.

Pam bod hwn yn bwysig? Yn y sesiwn gyntaf yn unig, trafodwyd popeth o fandiau’r 70au, i hunaniaeth Cymreig, i siocled blas sosej. Mae wedi bod yn gyfle i bobl ifanc i leisio barn am y byd o’u cwmpas, ond yn fwy pwysig, eu syniadau am sut i’w newid. Mae’r syniadau cychwynol yn amrywiol a chyffrous, a bydd y misoedd nesaf yn gyfle i arbrofi, i ddysgu, i rannu, ac i wneud ffrindiau.”

Mae Anna Dafydd wedi bod yn rhan o’r gweithdai. Fel person ifanc sy’n byw yn yr ardal a sy’n mwynhau mynd i gigs (a chwarae mew gigs fel aelod o’r band Dewin), mae hi’n gobeithio gweld budd hir-dymor i’r prosiect:

“Ma hi’n bleser mawr bod yn rhan o’r prosiect ma. Does dim dwywaith amdani fod y brosiect yma’n mynd i wneud gwahaniaeth mawr yn y sin cerddoriaeth Cymreig ac yn yr ardal ma. Rydyn ni’n cael lot o hwyl wrth drafod syniade newydd creadigol, wedi ac yn mynd i wneud lot o ffrindie a’n mynd i ddatblygu a dysgu tipyn ar y daith ma.”

 

Llun o Anna Dafydd

 

I fod yn rhan o SOSEJ, dilynwch y cyfrif instagram @_sosej, neu gysylltwch ar nicodafydd@me.com

RHANNWCH