Mewn sesiynau hamddenol yn Y Pengwern, Llan Ffestiniog dros yr Hydref a’r Gaeaf, bu sawl un yn ymateb i syniadau gwahanol am heddwch efo’r awdur Sian Northey. Yn un o’r gweithdai, cafodd mynychwyr y cyfle i ymateb i waith celf Paul Peter Piech gan fod Sian, Llinos a Seran o brosiect Byw Mewn Heddwch wedi cael y cyfle unigryw i guradu ei arddangosfa yn Storiel, Bangor. Mae ei waith yn bendant yn gweiddi heddwch.
Mae’r holl weithdai yn gyfle i fwrw bol ac i daflu syniadau ar lafar neu ar bapur a doedd ein sesiynau Gweledigaethau a Ryseitiau Heddwch ddim gwahanol wrth i ni fynd ati i feddwl am y bobl sydd ddim yn rhydd yn ein cymdeithas ac ar draws y byd ac i feddwl beth ydi’n gweledigaethau ni am heddwch a beth ydi’r cynhwysion angenrheidiol.
I ddechrau’r flwyddyn newydd, daeth criw ohonom at ein gilydd i greu baneri heddwch o ddyfyniadau enwog yn ogystal â myfyrdodau ein hunain. Cynhaliwyd sesiwn gan Sian Northey a’r saer maen Gabriel Hummerstone yn defnyddio cerrig fel sbardun i feddwl am heddwch cyn i ni cyd-benderfynu ar air i’w gerfio mewn llechen. Mae’r diwydiant llechi wedi bod yn drawsnewidiol i gymunedau ym Meirionnydd ond mai gwaith dynion fu’r cerfio erioed. Roedd yn rymusgar iawn i ni fynd ati i naddu bob llythyren gyda’r daith araf i heddwch yn ein meddyliau.
