Cartref digidol diwylliant Cymru.

Jo Shapland

Dawns ydy gwaith Jo Shapland; boed drwy lif newid mewn deunyddiau a gwrthrychau, mewn lluniau ffilm neu symudedd y corff drwy wagle. Ei phrif flaenoriaeth ydi ymberthnasu ac ymateb i natur ac i’r awydd o arbrofi gyda’r corff. Mae ei phrosiectau safle-benodol yn amrywio o adfeilion amaethyddol i theatrau proffesiynol, ac o diroedd gwyllt i […]

Love Stories to Nature – Stretchy Symbionts with Simon Whitehead

18 Gor 2026 – 19 Gor 2026 Canolfan Llwynihirion Brynberian Tocynnau   Gweithdai cerdded addas ar gyfer pob gallu.   Mae Stretchy Symbionts yn ddathliad o’n cysylltiad annatod â’r holl fodau eraill. Gan ganolbwyntio’n benodol ar fywyd cen yma yng ngorllewin Cymru – un o’r ecosystemau cen cyfoethocaf yn Ewrop, ac yn wir y blaned […]

Cerdded a Gwrando gyda Chen

Digwyddiad sy’n cyfuno celf a gwyddoniaeth; dewch i ddarganfod mwy am fyd cudd cennau ym Mhowys. GWRANDO AR GEN ‘To study lichens is to get a taste of earth and health, to go gnawing the rocks and rails.’ — David Henry Thoreau. 1859 Yn ystod y digwyddiadau hyn byddwn yn cyflwyno arferion corfforol a lles yn ystod […]

Simon Whitehead

Yn wreiddiol yn ddaearyddwr, hyfforddais fel dawnsiwr yn Llundain ac Efrog Newydd yn nechrau’r nawdegau, gan ddychwelyd i Gymru ym 1993. Rydw i’n artist symud ac, felly, mae gen i ddiddordeb ym mhob math o symudiad – y dynol a’r hyn sydd y tu hwnt i’r dynol. Mae fy ymarfer yn seiliedig ar fyrfyfyr ac […]

Lovely as a Tree

Mae hon yn ffilm am Mary, a oedd yn 104 oed ar adeg gwneud y ffilm. Nes i gyfarfod â’r ddynes ryfeddol hon pan oeddwn yn gweithio ar brosiect cARTrefu Age Cymru. Cefais fy swyno gymaint gan fywiogrwydd Mary a phan ddechreuodd adrodd cerdd gan Tennyson yn ddigymell, roeddwn i eisiau dal ysbryd unigryw Mary […]

Nelken Line Llan Ffestiniog

Mae Nelken Line yn ddarn o goreograffi gan y coreograffydd Almaenig enwog Pina Bausch, a ddysgodd y symudiadau gwreiddiol i mi yn yr 1980au, pan oeddwn i’n fyfyrwraig yn yr Almaen. Pan fu farw Pina roedd mudiad byd-eang gan y cwmni i greu Nelken Lines safle-benodol gyda gwahanol grwpiau ledled y byd. Mae ein ffilm […]

Siri Wigdel

Wrth dyfu i fyny mewn tref ddiwydiannol fach ar arfordir gorllewinol Norwy, dechreuais ddawnsio yn ifanc iawn, a helpodd hyn fi i ddarganfod rhyw fath o ryddid sydd wedi aros gyda mi drwy gydol fy mywyd. Penderfynais yn gynnar iawn wneud dawns yn llwybr gyrfa i mi fy hun, ac es ymlaen i hyfforddi’n broffesiynol […]

Cai Tomos

Fy enw i yw Cai ac rydw i’n artist Cymreig. Rwy’n mynd wrth y rhagenwau ef / ef. Mae fy ngwaith, yn ei hanfod, yn ymwneud â symud, yn ei holl ffurfiau. Rwy’n dueddol o symud rhwng gwahanol ffurfiau ar gelfyddyd sy’n adlewyrchu gwahanol agweddau o’m hymarfer, ond, yn y bôn, mae gen i ddiddordeb […]

The stories of the body

Mae’r fideo ffug-goreograffig hwn yn ganlyniad gweithdy cyfranogol a gynhaliodd yr artistiaid Cai Tomos ac Itxaso Díaz yn ystod eu preswyliad mis o hyd yn Tabakalera, Donostia. Roedd y gweithdy yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r corff, ei hanesion, gofod cyhoeddus a’r syniad o gael eich arsylwi trwy olwg beiriannol.

Cai Tomos: Pethau sydd yn symud

Mae Cai yn rhannu perfformiad byr arbennig, gan ddod â’r thema colled yn ysgafn ac yn ingol i’r wyneb trwy ddawns.   Mae gwaith Cai yn cael ei ddylanwadu gan ei ddiddordeb yn yr agweddau seicolegol a seicogymdeithasol sy’n gysylltiedig â dawns a dawnsio. Mae’r perfformiad byr intimate hwn yn crynhoi ei arfer yn berffaith […]

Grief Encounters / Cyfarfyddiadau Galar

Cyfarfyddiadau Galar – Cai Tomos Galeri, Caernarfon Dydd Llun 8fed Mehefin 5-8pm Mae Cwmni Pen Productions Ltd yn falch o gynhyrchu prosiect diweddaraf Cai Tomos “Grief Encounters / Cyfarfyddiadau Galar”, digwyddiad dros dro, sydd yn dod i Galeri, Caernarfon ar ddydd Llun 8fed Mehefin 2026 rhwng 5-8pm ar ôl 3 diwrnod llwyddianus yn Oriel Davies […]

c a i n

mae CAIN yn grwp symud a dawns I bobl hyn sydd yn cael ei hwyluso gan Cai Tomos.   Film: by Ellie Orrell

PREMIÉRE: Dathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu 25 mlynedd anhygoel o roi cyfleoedd dawns i ddawnswyr ac artistiaid ifanc o bob cwr o Gymru. I ddathlu maen nhw wedi creu rhaglen ddogfen fer i nodi’r achlysur. Ers 2000, mae DGIC wedi cefnogi cannoedd o ddawnswyr ifanc, gan eu helpu nhw i wireddu eu potensial a […]

PREMIÉRE: 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Premiére Rhaglen Ddogfen Ar-lein Ymunwch â ni ar gyfer premiére ar-lein o National Youth Dance Wales: 25 Years of NYDW, rhaglen ddogfen fer sy’n dathlu chwarter canrif o dalent ifanc, rhagoriaeth artistig, ac effaith genedlaethol, a ffilmiwyd gan On Par Productions. Gan nodi 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, mae’r ffilm yn myfyrio ar […]

Partneriaeth gyda QueerAF: Sut Mae Cymru’n Gwneud Dawnsfa yn Iawn

Fe wnes i ddod ar draws Dawnsfa gyntaf fel arddegwr cwiar o gymoedd Cymru a oedd wedi treulio blynyddoedd yn cael ei bwlio. Y sîn yng Nghaerdydd oedd y lle cyntaf lle nad oedd yn rhaid i mi grebachu na chuddio fy hun. Yno, des i o hyd i gymuned a symudodd gyda bwriad ac […]

Creu Cymru

Creu Cymru logo

Mae Creu Cymru yn hyrwyddo ’r celfyddydau perfformio yng Nghymru. Mae ein haelodau’n cynrychioli bron pob un o theatrau a chanolfannau celfyddydol proffesiynol y genedl a chwmnïau cynhyrchu, ac amrywiaeth o unigolion. Yn bennaf oll, rhwydwaith cydweithredol yw Creu Cymru; rydyn ni’n rhannu gwybodaeth, arbenigedd, ymchwil, teithio, eiriolaeth… ac yn anad dim, awydd i ddatblygu […]

Aberration

Digwyddiadau LHDT+ yn Aberystwyth ac ar daith: cabaret, cerddoriaeth, dawns, ffilm,
barddoniaeth, trafodaeth, gweithdai a mwy. Trefnir gan Ruth Fowler, Jane Hoy and Helen Sandler.

Out of Sight

Dawns Fertigol Kate Lawrence mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Anabledd Cymru a Chymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn cyflwyno

O’r Golwg 


Digwyddiad diwrnod o hyd i archwilio ymagweddau creadigol at fynediad gyda phobl â nam ar eu golwg, ac ar eu cyfer, yn Pontio, Bangor.

  • Dydd Sadwrn 16 Tachwedd
  • 10.30am – 5pm
  • Stiwdio / PL2 / Bocs Gwyn

  • Am Ddim

The Queer Emporium

Siop a menter gymdeithasol yng Nghaerdydd sydd yn cynnwys 20 busnesau bach LHDTC+, sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau.

DGIC/NYDW 2023 x Night People

Gan weithio gyda’r cyn-fyfyrwyr, Daisy Belle Howell, creodd aelodau DGIC ddau ddarn trawiadol a berfformiwyd a ffilmiwyd mewn gwahanol leoliadau o amgylch Caerdydd. Ers dod yn aelod o DGIC, mae Daisy wedi mynd ymlaen i weithio fel dawnsiwr a choreograffydd proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n gyd-gyfarwyddwr ar gwmni perfformio a digwyddiadau o Fanceinion, ‘Night People’.

DGIC/NYDW 2023 x Night People

Gan weithio gyda’r cyn-fyfyrwyr, Daisy Belle Howell, creodd aelodau DGIC ddau ddarn trawiadol a berfformiwyd a ffilmiwyd mewn gwahanol leoliadau o amgylch Caerdydd. Ers dod yn aelod o DGIC, mae Daisy wedi mynd ymlaen i weithio fel dawnsiwr a choreograffydd proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n gyd-gyfarwyddwr ar gwmni perfformio a digwyddiadau o Fanceinion, ‘Night People’

Twenty Tales

Mae Twenty Tales yn weledigaeth o symudiad a sain sy’n mynd tu hwnt i ddiwylliant a chenhedlaeth. Daw ugain o ddawnswyr ynghyd mewn profiad cyfunol sy’n ennyn emosiwn dynol drwy berfformiad corfforol sy’n dathlu hyfedredd, rhythmau, dynamig a cherddoriaeth bwerus gan y cyfansoddwr o fri Mercan Dede. Mae’r cyfuniad unigryw o ddawnsio cyfoes, gwerin a thraddodiadol yn gwneud hwn yn waith oesol a chanddo gysylltiad cryf i wreiddiau hynafiad.

Coreograffydd: Mario Bermúdez
Coreograffydd Cynorthwyol: Catherine Coury
Cyfansoddwr: Mercan Dede
Cynllunydd Gwisgoedd: George Hampton Wales
Cynllunydd Goleuo Chris lllingworth
Cynhyrchydd: Jamie Jenkins

Rhwng Dwr ac Amser – Angharad Jones

Mae hanes adrodd straeon a chelf gyfoes yn gwrthdaro yn yr arddangosfa ymdoddedig hon sy’n meddiannu Plas Bodfa. Bydd yr arddangosfa ymdrwythol yn bodoli mewn gofod ffuglennol a ffeithiol, y gwirionedd a’r dychmygol, ddoe a heddiw.

More about the show : plasbodfa.com/bodfa-continuum

AT HOME with National Dance Company Wales

CDCCYMRU: GARTREF

Gorffennwch y flwyddyn gyda CDCCymru yn eu cartref, y Tŷ Dawns ym Mae Caerdydd.

Noson o dri darn o waith, yn cynnwys y cyfle i weld gwaith cyntaf Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew Robinson i’r Cwmni, No-Show a dau lwyddiant o 2022, Ludo gan Caroline Finn ac Wild Thoughts gan Andrea Costanzo Martini.

Romani Cultural & Arts Company

Ffurfiwyd Romani Cultural and Arts Company yn 2009 fel cwmni cyfyngedig nid-er-elw ac elusen ym mis Medi 2009. Mae’r cwmni yn gweithio yn y celfyddydau i godi arian er mwyn a datblygiad cymunedol a phrosiectau addysgiadol i safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac i gymunedau ‘Gorjer’ a chefn gwlad ar draws Cymru. Rydym yn sefydliad sydd […]

Wales Millennium Centre | Canolfan Mileniwm Cymru

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy greu ein cynyrchiadau theatr, gwyliau a phrofiadau digidol ein hunain – yn ogystal â churadu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns a chabaret. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, […]

Plethu: Affricerdd Connections

‘Plethu: affricerdd’ is a series of short films commissioned by NDCWales and Tŷ Cerdd fusing original music and dance from across Wales and giving platform to music artists of African descent.

This unique collaboration gives artists the chance to explore film-making as a new skill and medium for their combined artforms.

Connections’ shows different responses to living in the city of Cardiff.

Dancer, Idrissa Camara has set movements in response to music featuring energetic, percussive rhythms, bolon taps and field recordings of traffic taken near where Composer Eric Martin Kamosi lives in Cardiff.

What can be seen here is effected by what can be heard and seen in the Cardiff.

The listener is encouraged to take part in an experience of this environment.

__

Composer, Film and edit:Eric Martin Kamosi

Choreographer, Dancer: Idrissa Camara

Danser Ensemble: Fatou Cissé

Born in Dakar, Fatou Cissé began her career at the training center, Manhattan-Dance-School, in Dakar directed by her father Ousmane Noël Clissé, where she trained in modern Afro Jazz and at the ballet Guineen Bougarabou training in traditional dance. She has participated in several master classes with different choreographers from the continent. In 2000, she […]

Danser Ensemble: Krystal Lowe

Next from ‘team Wales’ as part of our “Danser Ensemble…” Wales/Senegal dance project is Krystal Lowe. This Go Digital project is a partnership between The Successors of the Mandingue and CIE Fatou Cisse supported by British Council Wales. Enjoy Krystal’s improvisation for the piece for solos composed by N’famady Kouyate, filmed at the Wales Millenium Centre, Cardiff, by Tim Short. Photo credit: Sleepy Robot Photography.

Krystal S. Lowe is a Bermuda-born, Wales-based dancer, choreographer, writer, and director creating dance theatre works for stage, public space, and film that explore themes of intersectional identity, mental health and wellbeing, and empowerment in a way that challenges herself and audiences toward introspection and social change.

She has an extensive career performing and touring with Ballet Cymru throughout the United Kingdom, China and Bermuda; with Citrus Arts circus company, Ransack Dance, Theatr Iolo, The Successors of the Mandingue, and Laku Neg.

Her recent credits include: ‘Whimsy’ commissioned by Articulture Wales in collaboration with the Riverfront Theatre with support from Arts Council Wales, Welsh Government and the National Lottery; ‘Rewild’ commissioned by Green Man Trust, presented at Green Man Festival 2020 and The Place’s How Can We Care for Each Other’ festival; ‘Daughters of the Sea’ commissioned by Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, and Arts Council Wales; ‘Good Things to Come’ commissioned by National Dance Company Wales and Literature Wales for the Welsh Government’s Wales in Germany 2021; ‘Somehow’, a Music Theatre Wales Digital Commission 2021; and ‘Complexity of Skin’ commissioned by the Space for BBC’s Culture in Quarantine.

Danser Ensemble: Dominika Rau

Nesaf i fyny o’n prosiect dawns Cymru / Senegal “Danser Ensemble…” yw Dominika Rau. Mae’r prosiect Go Digital hwn yn bartneriaeth rhwng The Successors of the Mandingue a CIE Fatou Cissé a gefnogir gan Gyngor Prydain Cymru. Dyma ddehongliad Dominika o’r darn ar gyfer unawdau a gyfansoddwyd gan N’famady Kouyaté, a ffilmiwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, gan Tim Short

Danser Ensemble: Alexandre Garcia

Introducing our next “Danser Ensemble…” project dancer – Alexandre Garcia

This Wales/Senegal online collaboration is a SSA Go Digital partnership with CIE Fatou Cisse supported by British Council Wales.

Here is a taste of things to come with a short piece from Alex to the solo music composed by N’famady Kouyate 🎵

Camera work by Mor Ndoye Ndiaye 🎥 (at Le Grande Théâtre de Dakar in Senegal) with the edit from Tim Short

Danser Ensemble: Shakeera Ahmun

Fel rhan o’n prosiect cydweithredu SSA Go Digital Cymru / Senegal ‘Danser Ensemble….’ (gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig), hoffem gyflwyno pob un o’r dawnswyr a gymerodd ran gyda darn unigol bach y gwnaethon nhw ei berfformio fel rhan o’r prosiect cyn i ni ryddhau’r ffilm cydweithredu derfynol. Yn gyntaf, yw Shakeera Ahmun 💃gyda cherddoriaeth gan […]

The Successors of the Mandingue

Mae Successors of the Mandingue yn dod â phrofiad cerddoriaeth ryngweithiol Affricanaidd i chi a chyfnewid diwylliant drwy offerynnau taro, cerddoriaeth, drymio, canu, adrodd straeon a dawns. Wedi’n lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, rydym yn adeiladu pontydd rhwng diwylliannau cerddorol; dod ag artistiaid, cymunedau, a’u syniadau ynghyd. Mae dylanwadau gwreiddiol y cwmni a’u harfer artistig wedi’u gwreiddio yn […]

Gwnaed yng Nghymru | Made in Wales

Mae Ballet Cymru yn falch o gyflwyno tri darn o waith newydd a grëwyd yng Nghymru gan goreograffwyr sy’n hanu o Gymru ac sy’n byw yng Nghymru. Mae penodiad newydd y cwmni, y Coreograffydd Preswyl, Marcus Jarrell Willis yn cyflwyno Isolated Pulses, wedi’i greu yn ystod y cyfyngiadau symud ar wahanol gamau o gadw pellter […]

Giselle

Un o gwmnïau arobryn Gwobrau’r Critics Circle, Ballet Cymru, yn cyflwyno ballet newydd eithriadol yn seiliedig ar stori dragwyddol Giselle. Mae Ballet Cymru wedi rhoi ei stamp unigryw ei hun ar y stori hon am gariad a cholled, gan ddod â pherthasedd, dwyster a phlwc i’r ballet hynod ramantus hwn. Yn cynnwys sgôr newydd gan […]

Ballet Cymru

Mae Ballet Cymru yn gwmni ballet teithiol rhyngwladol ar gyfer Cymru, sy’n ymrwymedig i gynhwysiant ac arloesedd mewn dawns a ballet clasurol, ac i’r safon uchaf o gydweithio. Mae’r cwmni’n cynhyrchu perfformiadau dawns proffesiynol gwreiddiol, yn seiliedig ar y dechneg ballet, ac mae’n teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei raglen Mynediad ac Allgymorth helaeth […]

Music Theatre Wales

Mae Music Theatre Wales yn newid y ffordd y mae opera a theatr gerddoriaeth yn cael eu gwneud a’u dirnad trwy ymwneud â’r rhai sy’n eu creu ac â’r gynulleidfa: Ymestyn allan at gynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol; Ymateb i’r gymuned a’i hadlewyrchu; Dathlu opera fel ffurf amlddisgyblaethol.