Mae Ballet Cymru yn gwmni ballet teithiol rhyngwladol ar gyfer Cymru, sy’n ymrwymedig i gynhwysiant ac arloesedd mewn dawns a ballet clasurol, ac i’r safon uchaf o gydweithio. Mae’r cwmni’n cynhyrchu perfformiadau dawns proffesiynol gwreiddiol, yn seiliedig ar y dechneg ballet, ac mae’n teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei raglen Mynediad ac Allgymorth helaeth yn ymrwymedig i chwalu’r rhwystrau sy’n atal mynediad at y celfyddydau.