Yn wreiddiol yn ddaearyddwr, hyfforddais fel dawnsiwr yn Llundain ac Efrog Newydd yn nechrau’r nawdegau, gan ddychwelyd i Gymru ym 1993. Rydw i’n artist symud ac, felly, mae gen i ddiddordeb ym mhob math o symudiad – y dynol a’r hyn sydd y tu hwnt i’r dynol. Mae fy ymarfer yn seiliedig ar fyrfyfyr ac yn ymateb i’r amgylchiadau rwy’n eu hwynebu; mae fy ngwaith yn symud yn adlewyrchu tir, deunyddiau, y tywydd a bodau eraill. Rydw i’n wneuthurwr sy’n symud ac yn gweithio mewn cymunedau, gyda myfyrwyr, artistiaid, ecolegwyr ac, ar adegau, gyda rhywogaethau eraill. Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd rydym yn dyfnhau ein perthnasoedd â’n gilydd a’r ddaear drwy symud a theimlo gyda’n gilydd.
Ym misoedd diweddar, rydw i wedi dychwelyd at y syniad o bererindod; symudiad sy’n dilyn proses fwriadol o fod yng nghwmni’r anadnabyddadwy; rhyw fath o daith fach ysbrydol. Gan ganolbwyntio ar agweddau teimlo a synhwyro profiad dynol, mae fy ymarfer yn ymwneud â’r angen i feithrin ffyrdd caredig ac ymgorfforedig o fod gyda’n hunain ac eraill wrth symud trwy leoliad. Rydw i’n gwneud hyn drwy gyfansoddi sgorau symud, gwneud recordiadau maes, teithiau cerdded, pererindodau, gweithdai a pherfformiadau a rennir â chymunedau gwahanol; cynigion ar gyfer ymgorfforiad a ‘chelfyddydau sylwi’.
Fel aelod o Maynard Abercych – casgliad gwledig o artistiaid rhyngddisgyblaethol sy’n gweithredu o bentref bach yn Sir Benfro – rydym yn gweithio drwy gyfres o gyfnodau preswyl parhaus, gan guradu dawns y pentref, gweithdai, a phartneriaethau lleol a rhyngwladol. Yma, mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y mae ymgysylltu â dawns a symudiad yn datgelu cymhlethdod ‘cymuned’. Rydym yn gofyn: beth yw natur y cymunedau sy’n dod i’r amlwg wrth ddawnsio gyda’n gilydd? A sut rydym yn darparu gweithgareddau i alluogi’r cymunedau a’r dealltwriaethau hyn i ddatblygu mewn ardal wledig? Cymunedau sy’n cynnwys y bodau ‘y tu hwnt i’r dynol’ rydym yn byw yn eu plith.
Ar hyn o bryd, rydw i’n cynnig proses o fentora un-i-un neu mewn grwpiau bach, yn ogystal â ‘Chwmnïaeth Greadigol’, i artistiaid ar bob cam o’u gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys deialog drwy ymarfer symud perthynasol mewn tirweddau amrywiol, ynghyd â dulliau ymgorfforedig o weithio a symud gyda realiti materol lleoliad neu ecosystem (cyfle i ymgysylltu’n ddyfnach a dod o hyd i gefnogaeth ar gyfer ymarfer yn y cyfnod hwn).


