Dawns ydy gwaith Jo Shapland; boed drwy lif newid mewn deunyddiau a gwrthrychau, mewn lluniau ffilm neu symudedd y corff drwy wagle. Ei phrif flaenoriaeth ydi ymberthnasu ac ymateb i natur ac i’r awydd o arbrofi gyda’r corff. Mae ei phrosiectau safle-benodol yn amrywio o adfeilion amaethyddol i theatrau proffesiynol, ac o diroedd gwyllt i waith pensaernïol dinesig. Yn wreiddiol, hyfforddodd fel Dawnswraig Gyfoes, ond mae hi bellach yn ymarfer Martial Arts Asiaidd ac ymarferion ymwybyddiaeth; syrcas awyr a byrfyfyrio; ac yn parhau i archwilio dawns fewnol a’i effaith ar bresenoldeb a chreadigrwydd.