Cartref digidol diwylliant Cymru.

Dawns Fertigol Kate Lawrence mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Anabledd Cymru a Chymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn cyflwyno

O’r Golwg 


Digwyddiad diwrnod o hyd i archwilio ymagweddau creadigol at fynediad gyda phobl â nam ar eu golwg, ac ar eu cyfer, yn Pontio, Bangor.

  • Dydd Sadwrn 16 Tachwedd
  • 10.30am – 5pm
  • Stiwdio / PL2 / Bocs Gwyn

  • Am Ddim

Bydd y digwyddiad yn cynnwys

10.30am – 1pm: Taith Gyffwrdd/Touch Tour
Taith Gyffwrdd: Mae’r corff yn siarad, rhannu arbrofol ymchwil a datblygu yng nghyswllt fformat y daith gyffwrdd gan Mish Weaver, Karina Jones, Alex Ashcroft a Kate Lawrence.

10.30am – 1pm: Yn y Golau
Yn y Golau shows on public screens, start times tbc.

1.45pm – 2.15pm: Tyllau / Holes

Perfformiad cylch awyr gan Karina Jones a Daisy Williams gyda Disgrifiad Sain integredig

2.30pm: Premiere Cymru o Yn y Golau
Dangosiad o Yn y Golau yn y Stiwdio – bydd yn cael ei ddangos yn Brighton Screendance Festival hefyd gyda ffrwd byw i’r Ŵyl yn Brightone ar gyfer sgwrs banel.

4pm – 5pm: Lansio adnodd a Sgwrs Banel
Lansio adnodd ar-lein yn seiliedig ar Yn y Golau gan Joanna Wright a Kate Lawrence a sgwrs banel i drafod y diwrnod.

Rydym yn eich gwahodd yn gynnes i ymuno â ni i archwilio’r maes cyffrous hwn i’w ddatblygu. 
Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Pontio

Disgrifiad delwedd o’r llun
Delwedd o’r ffilm Yn y Golau.
Mae sgwâr du yn dal cylch/portwll mawr lle mae darn o DNA yn ymddangos. Mae dau ddawnsiwr, a welir oddi uchod ac yn fach mewn perthynas â’r ddelwedd, yn dod allan o’r tywyllwch ar waelod y ddelwedd, yn pwyso eu dwylo yn erbyn ‘gwydr’ y portwll, ac yn edrych trwyddo.

RHANNWCH