Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 41 – Maniffesto William Salesbury

Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith. 

Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur i ddeffro darllenwyr a’u gwneud yn ymwybodol o’r angen: roedd yn rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn iaith dysg, yn iaith y gallai drafod unrhyw agwedd ar gymdeithas a meddwl, yn gyfrwng a allai drosglwyddo unrhyw fath o wybodaeth.

Artist Preswyl / Artist in Residence 2024: Lilly Tiger

Enlli Artist Preswyl Awst 31 – Medi 14

Artist-ffilmwraig yw Lily Tiger o Cymru, astudiodd yn Central Saint Martins. Mae hi’n gweithio mewn ffilmiau dogfen, sain, ffotograffiaeth, a darlunio, o fewn lleoliad cymunedol.
Mae ei gwaith yn ffurf o ddogfen estynedig sy’n ymgysylltu ag archifau pobl, straeon bob dydd, a chynefinoedd lleol.

Artist Preswyl / Artist in Residence 2024: Cai Tomos

Enlli Artist Preswyl: Awst 17 – 24 2024 

Artist dawns annibynnol sy’n gweitho yng Nghymru, DU ac yn rhygwladol yw Cai Tomos.
Mae ei waith, yn ei hanfod, yn ymwneud â symud, yn ei holl ffurfiau. Mae’n dueddol o symud rhwng gwahanol ffurfiau o gelfyddyd sy’n adlewyrchu gwahanol agweddau o’i hymarfer, ond, yn y bôn, mae ganddo ddiddordeb yn y dychymyg a’i berthynas â’n cyrff.

Artist Preswyl / Artist in Residence 2024: Harrie Fuller

Enlli Artist Preswyl: Mehefin 29 – Goreffennaf 6 2024 

Mae Harrie Fuller yn artist gelf gain a gwneuthurwr printiau wedi ei hysbrydoli gan gasglu gwrthrychau, delweddau ac ysbrydoliaeth o fywyd bob dydd ac anturiaethau ar hyd y glannau. Mae hi’n defnyddio ffotograffiaeth analog, print sgrin a darlunio yn bennaf, i drosglwyddo’r profiadau hyn yn ddelweddau amlwg, lliwgar. Mae gwaith diweddar Harrie wedi’i ysbrydoli gan wastraff traeth a gaiff ei ganfod ar draethau ledled y byd.

Artist Preswyl / Artist in Residence 2024: Sophia Goard

Enlli Artist Preswyl: Awst 31 – Medi 14 2024

Perlysieuydd a chwilotwr yw Sophia, gyda chefndir mewn bioleg. Mae hi’n hwyluso dysgu a darganfod rhwng pobl a phlanhigion, gan ddefnyddio meddygaeth a bwyd fel pyrth. Mae hi’n cynnal teithiau a gweithdai chwilota sy’n canolbwyntio ar sgiliau gofal iechyd cartref ac ehangu ein dealltwriaeth o’n cydberthynas ecolegol gyda’r bywyd planhigion sy’n ein hamgylchredeg ac sy’n ein cynnal.

Artist Preswyl / Artist in Residence 2024: Sion Emyr

Enlli Artist Preswy:l Medi 21 – 28 2024 

Mae Siôn Emyr yn wreiddiol o Ysbyty Ifan ac wedi bod yn gweithio fel actor, awdur a chyfarwyddwr am nifer o flynyddoedd. Buodd yn astudio actio yng Ngholeg Mountview, yn Llundain, cyn dod yn ôl i Gymru i weithio ar amrywiaeth o brosiectau a chynyrchiadau.

Artist Preswyl / Artist in Residence 2024: Gwenllian Spink

Enlli Artist Preswyl: Mai 11 – 25 2024 

Artist amlddisgyblaethol yw Gwenllian Spink, â’i gwaith wedi’i wreiddio yn nhirweddau diwylliannol Cymru. Yn gerfluniol yn bennaf, arweiniwyd ei gwaith gan ddeunyddiau. Yn fwyaf diweddar, roedd yn rhan o gronfa Llais y Lle wedi’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, i ymchwilio a datblygu’r defnydd creadigol o’r Gymraeg o fewn cymunedau Dyffryn Nantlle (2023-24).

Artist Preswyl / Artist in Residence 2024: Gabriella Rhodes

Enlli Artist Preswyl: Gorffennaf 13 – 27 2024 

Graddiodd Gabriella Rhodes o Ysgol Gelf Manceinion yn 2018 gyda gradd BA (Anrh) mewn Dylunio Tri Dimension. Mae ei gwaith wedi’i seilio ar ymchwil artistig, deunyddiau a’r amgylchedd. Ar ôl symud o serameg fasnachol i grefft safle-benodol dan ddylanwad pensaernïaeth genedlaethol, mae hi bellach yn creu gwrthrychau cerfluniol o ddeunyddiau lleol a helaeth sy’n gwahodd ymdeimlad tuag at fater ddaearol fel ‘adnodd’ a’r rhan mae cylchdroi deunyddiau yn ei chael mewn crefft gyfoes a deialog ecolegol.

Artist Preswyl / Artist in Residence 2024: Menna Angharad

Enlli Artist Preswyl: Awst 10 – 17 2024 


Ganwyd a magwyd Menna Angharad yng Ngwynedd, astudiodd botaneg ym Mangor ac wedyn celf gain yn Llundain a Chaerdydd. Yn peintio bywyd llonydd mean olew ar gynfas lliain mae hi yn gweithio yn uniongyrchol o fywyd, yn creu delweddau ysgafn sy’n ystyried natur werthfawr a diddorol o bethau bob dydd, wrth adael lle i feddyliau a dehongliadau’r gwyliwr ei hun. Mae ei gwaith wedi’i diffinio gan donau ysgafn gydag ychydig olion o liwiau llachar natur, ynghyd â gwaith pwerus gyda chyllell a brwsh, sy’n rhoi ansawdd sgleiniog ac uniongyrchol i’w phaentiadau.

LLYF24: Rhestr Fer | WBOTY24: Shortlist

Wedi misoedd lawer yn darllen trwy gynnyrch llenyddol 2023, mae dau banel beirniadu annibynnol wedi dewis eu rhestrau byrion ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.

I ddarganfod rhagor am y cyfrolau a’r awduron ar y Rhestr Fer, ewch i dudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn.


Bydd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal ar nos Iau, 4 Gorffennaf yn Galeri Caernarfon. Tocynnau ar gael yma.

Parti Priodas gan Gruffudd Owen

Parti Priodas gan Gruffudd Owen yw Llyfr y Mis, mis Mai. 

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, ac sydd ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd. 

Bydd parti priodas Dafydd a Samantha yn noson i’w chofio. Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd ac Idris yn hiraethu am ei ffrind gorau wrth ddychwelyd i Lyn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb? 

I nodi Parti Priodas yn Lyfr y Mis, y dramodydd Gruffudd Owen sy’n awgrymu pum llyfr fyddai’n gwmni gwych i’r gyfrol.

Y Sioe Ffasiwn

Dyma bodlediad newydd sy’n drafod ffasiwn gan griw Colli’r Plot!

Trafod Gŵyl lenyddol Llandeilo, Gŵyl lenyddiaeth trosedd Aber, ffasiwn a chlustdlysau Gladiatrix, a llwyth o lyfrau.

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Y Brenin, y Bachgen a’r Afon – Mili Williams
Eigra – Eigra Lewis Roberts
We need new names – NoViolet Bulawayo
Fools and Horses – Bernard Cornwell
Pen-blwydd Hapus? – Ffion Emlyn
Blas y môr, John Penri Davies
Y Castell ar y Dŵr – Rebecca Thomas
The One Hundred Years of Lenni and Margo – Marianne Cronin
Parti Priodas – Gruffudd Owen
Ro’n i’n arfer bod yn rhywun – Marged Esli
Not That I’m Bitter – Helen Lederer

Coblyn o Sioe – Myfanwy Alexander

Cerdded y palmant golau – Harri Parri

Drew, Moo and Bunny, Too – Owain Sheers

Ten Steps to Nanette – Hannah Gadsby

The Rabbit Back Literature Society – Pasi Ilmari Jääskeläinen


Pennod 40 – Dyneiddiaeth Gymreig

Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn ystyr y termau ‘dyneiddiaeth’ a’r ‘Dadeni Dysg’ (a nodi nad oedd neb yn eu defnyddio yn y cyfnod dan sylw!).

Er bod llawer o ddyneiddwyr ar draws Ewrop yn canolbwyntio ar ‘aileni’ cyfoeth yr hen ieithoedd clasurol (Lladin a Groeg), esgorodd dyneiddiaeth ar duedd ieithyddol arall – un sydd o’r pwys mwyaf o safbwynt hanes y Gymraeg, sef awydd i fireinio’r Hen Iaith a sicrhau’i bod hi’n gyfrwng sy’n addas er mwyn trafod a throsglwyddo dysg o bob math.

‘Pleidleisio negyddol’ a’i ganlyniadau

Mae weithiau’n anodd gwybod p’un ai i chwerthin neu grïo wrth wylio llywodraeth Geidwadol Rishi Sunak yn baglu tuag at ei ffawd anochel yn yr etholiad cyffredinol sydd ar ddyfod.  Ar y naill law, mae rhyw fath o bleser (maleisus, bid siŵr) i’w gael o weld ymdrechion dirifedi tîm Sunak i ail-lansio ei brifweinidogaeth yn […]

Yn Fy Amser Fy Hun: Goresgyn Ofn Mewn Gwlad Newydd

Yellow image with photos of an hourglass and Constanza Martinez Buendia

Ers cryn amser bellach mae’r ymadrodd “yn eich amser eich hun” wedi bod yn destun myfyrio. Pan glywais ef gyntaf, daeth â gofid a phryder mawr i mi. Bryd hynny, roedden i’n weinyddwr mewn sefydliad bach yn Llundain, lle’r oedd un o’m tasgau’n cynnwys gweithredu llungopïwr. Er fy mod yn hapus i helpu pobl gyda’u […]

Pennod 39 – Y Gymraeg a Byd Newydd Print

Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) 

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth.
Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg arloesol hon, ond nodwn ei fod yn gymeriad a oedd wedi helpu chwalu rhai o adnoddau llenyddol Cymru yn ogystal â bod yn gyfrifol am wthio’r iaith Gymraeg dros drothwy byd print.

Pen-blwydd Hapus? gan Ffion Emlyn

Pen-blwydd Hapus? gan Ffion Emlyn yw Llyfr y Mis, mis Ebrill. 

Mae Martha yn cael anrheg ar ei phen-blwydd yn 32 oed, newyddion sy’n ei gyrru hi ar daith fydd yn newid ei bywyd am byth. 

Mae’r gomedi dywyll hon yn dilyn siwrnai mewn bws i Lundain, ar goll yng nghefn gwlad Caerfyrddin, wrth iddi guddio mewn camperfan ar draeth ym Mhorthmadog a chyfaddef i lofruddiaeth. 

Yr awdur Ffion Emlyn sy’n rhoi blas o’r gyfrol.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

Tacla

Nos Sul/Sunday – 26/05/2024

7pm ymlaen

AM DDIM / FREE 

Tafarn y Plu – Llanystumdwy

Swyddi yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog

Hysbyseb Swyddi, Blaenau Ffestiniog.

Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth bersonau profiadol i gyfrannu at lwyddiant a gweledigaeth chyffroes Antur Stiniog Cyf. 

Dyddiad Cau – 24/04/2024

Am sgwrs dewch draw i Tŷ Coffi Antur Stiniog neu ffoniwch Helen ar 01766832214

Pennod 38 – Alis Wen

Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5)

Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn rhai o’i cherddi. Dyma lais barddol benywaidd prin sy’n amlygu teimladau gonest Cymraes am gariad, priodas a diswyliadau cymdeithasol. Er bod cymdeithas Cymru’r cyfnod yn ormesol o batrïarchaidd, gwelwn Alis yn protestio ac yn dymuno dilyn ei chalon yn hytrach nag ufuddhau i’r disgwyliadau hynny. Yn ogystal â mynegi’i barn a’i theimladau mewn modd di-flewyn-ar-dafod, mae’n gwneud hynny mewn modd rhyfeddol o ffraeth hefyd.

HOSPES (4K, Binaural audio)

Mae’r gwaith yn ymchwiliad i gyfoeth diasporig y strydoedd sy’n amgylchynu’r ysbyty, a Chaerdydd yn fwy cyffredinol, a’i osod o fewn ei gyd-destun hanesyddol. Beth mae’r lleisiau sy’n cael sylw yn HOSPES yn ei ddweud am hunaniaeth a pherthyn yn ein Prifddinas heddiw?

nawr issue 11: four years

Buy your copy here!

Our first print zine written by co-editors, Anna Bland and Martha O’Brien and music blogger, Jordan Curtis reflects on the first four years of nawr, with a reflection on each of our first ten issues. If you’re a long time follower or new to our publication, this first venture into print is a great way to learn more about us and our creative process, as well as gaining an insight into what the past four years of art and literature in Wales have looked like.

This 26 page zine includes some of our favourite contributions alongside our own reflections and has been lovingly designed by Anja Quinn and Beth McAulay.

*NOTE: There is a small alignment issue on pages 25-26. This makes no difference to the content of the publication.

Pennod 37 – Hen Chwedlau Cymraeg a Phropaganda’r Tuduriaid: Elis Gruffydd (Rhan 2)

Pennod 37 (cyfres 2, pennod 4) 

Wedi trafod natur ac arwyddocâd cronicl mawr Elis Gruffydd yn y bennod ddiwethaf, edrychwn y tro hwn ar nifer o straeon a gynhwyswyd yn y gwaith sydd o ddiddordeb neilltuol. Mae’n bosibl edrych ar y straeon hyn fel chwedlau gwerin Cymraeg nas cofnodwyd mewn unman arall – hanesion a glywodd Elis ar lafar pan oedd yn blentyn yn sir y Fflint a/neu straeon a welodd mewn llawysgrifau Cymraeg sydd bellach wedi diflannu. Diolch i Elis mae gennym y fersiwn cynharach sydd goroesi o ddwy stori gysylltiedig sy’n darlunio hanes y bardd arallfydol Taliesin, naratifau llawn hwyl sydd hefyd yn dweud llawer am y modd y canfyddai’r Cymry rym barddoniaeth.
Sylwn hefyd ar chwedl sy’n darlunio’r Brenin Arthur fel merchetwr hunanol eiddigeddus. Ac yntau’n filwr ffyddlon ym myddin Harri VIII, cofnododd Elis nifer o chwedlau’n ymwneud â ‘hanes’ y Tuduriaid hefyd, gan gynnwys un sy’n dyrchafu Harri VII fel ‘y mab darogan’ ar draul Owain Glyndŵr, stori gariad sy’n egluro tarddiad y teulu, ac un am y brudiwr o fardd Rhobin Ddu a broffwydodd am enedigaeth Harri Tudur.

Llais y Lle 2023

Lansiwyd Llais y Lle yn 2023 i gefnogi unigolion creadigol i ddatblygu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg drwy weithio gyda chymunedau. Roedd rhai o brosiectau’r llynedd yn amrywio o ŵyl i ddathlu merlod gwyllt y Carneddau, i astudiaeth o rôl yr iaith yn Nhrebiwt; a gweithdai creadigol i bobl ifanc yn Sir Drefaldwyn.

Caernarfon – Iola Ynyr

Prosiect Mwy

Dychmygu, creu a byw yn fwy 

Prosiect creadigol i ferched dros 18 oed i hyrwyddo llesiant yn y Gymraeg yn Porthi Dre, Caernarfon hefo Sioned Medi Evans a Iola Ynyr. 

Ein bwriad yw: 

Meithrin cyfleon i ddefnyddio ein creadigrwydd i ddychmygu gwell dyfodol i’n hunain, eraill a’r amgylchfyd heb ofn a hynny yn y Gymraeg

Casglu syniadau, trafod, ysgrifennu a chreu delweddau

Cynnig croeso i ddysgwyr Cymraeg

Darganfod y fersiwn fwyaf disglair ohonom ein hunain

Rhaglen drwy’r flwyddyn gyda’r cynnig i alw fel sy’n gyfleus 

Mwy o wybodaeth – Nia Skyrme, Cynhyrchydd.

Ysbyty Ifan – Rhodri Owen

  1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?  Roeddwn eisiau cyflwyno ac ail-ddehongli hanes a llên gwerin ardal Ysbyty Ifan mewn ffordd drawiadol gyda’r gymuned, gan roi’r Gymraeg yn ganolbwynt i hynny wrth wneud.  2. Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn? Roedd gweithgareddau’r prosiect yn amrywio’n ond rhai o’r uchafbwyntiau oedd – adeiladu […]

Sir Drefaldwy – Myfanwy Alexander

Un o’r prosiectau dderbyniodd gefnogaeth Llais y Lle 2023 yw cynllun sy’n cael ei arwain gan Myfanwy Alexander yn ardal Sir Drefaldwyn. Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda grwpiau gwahanol o bobl ifanc i’w hannog i feddwl am eu perthynas â’r Gymraeg drwy gyfrwng drama, ffilm a cherddoriaeth. Wrth sôn am ei gwaith dywedodd Myfanwy: […]

What The Blazes!

Hanes Manon yn cael ei hysbrydoli yn Gibraltar. Bethan yn gosod her i gyfieithwyr wrth ddefnyddio “rhegfeydd” Cymraeg. Siân yn cyhoeddi llyfr Saesneg, This House. Aled yn cwrdd â phrif weinidog Fflandrys a Dafydd yn sôn am hanes ei chwaer.

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Gwibdaith Elliw – Ian Richards.

Anfadwaith – Llŷr Titus

The One Hundred years of Lenni and Margot – Marianne Cronin

An elderly lady is up to no good – Helene Tursten.

Birdsong – Sebastian Faulks

Captain Corelli’s Mandolin – Louis de Bernières. 

Awst yn Anogia – Gareth F Williams

Lessons in Chemistry – Bonnie Garmus

Shuggie Bain – Douglas Stuart.       

Ci Rhyfel/Soldier Dog – Samuel Angus

Deg o Storïau – Amy Parry-Williams

Gorwelion/Shared Horizons – gol. Robert Minhinnick

Flowers for Mrs Harris – Paul Gallico

Cookie – Jacqueline Wilson

Alchemy – S.J. Parris

John Preis – Geraint Jones

RAPA – Alwyn Harding Jones

The Only Suspect – Louise Candlish

Helfa – Llwyd Owen

Trothwy – Iwan Rhys

The Beaches of Wales – Alistair Hare

Gladiatrix – Bethan Gwanas

Devil’s Breath – Jill Johnson

Outback – Patricia Wolf

Letters of Note – Shaun Usher

Pontypridd – Catrin Doyle, Bridie Doyle-Roberts a Becky Davies

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?  Roeddwn eisiau dod ac unigolion creadigol a’r gymuned ehangach at ei gilydd ym Mhontypridd, er mwyn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg. Felly mi es i, Bridie Doyle-Roberts a Becky Davies i greu gweithgareddau i annog defnydd o’r iaith mewn ffurf ymarferol a normal, er mwyn cyflwyno’r iaith i’r […]

Llanfairfechan a Penmaenmawr – Manon Prysor – Gŵyl y Merlod Gwyllt

1. Beth oedd dy brosiect Llais y Lle? Roeddwn i eisiau creu gweithgareddau fyddai’n cysylltu dwy gymuned Penmaenmawr a Llanfairfechan, drwy ddod a phawb at ei gilydd i rannu hanes yr ardal, hyrwyddo treftadaeth leol a dathlu ein Cymreictod. Wedi cyfnod o ymgysylltu’n greadigol fel ddaeth ysbrydoliaeth i’n prosiect i’r amlwg.  Un o brif nodweddion […]

Talgarreg – Lleucu Meinir, Meinir Mathias ac Eddie Ladd – Cware

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?  Mae Cware am ymchwilio arwyddocâd y ddwy chwarel sydd ym Mhentref Talgarreg, ac arwyddocâd y chwareli i’r pentrefwyr a phobl Ceredigion. Mae Talgarreg yn le pwysig i’r dair ohonom sy’n rhan o’r prosiect hwn. Fel sawl man yng Nghymru, mae’r ardal wedi gweld mewnlifiad o bobl o […]

Grangetown – Rhiannon Mair

1. Beth yw dy brosiect llais y lle?  Yn byw yn Grangetown, roedd gen i ddiddordeb yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg yno ac yn Trebiwt. Roeddwn eisiau ymgysylltu gyda’r gymuned i ddeall os oedd rhwystra i ddysgu Cymraeg a gwybod faint o bobl oedd yn gallu siarad yr iaith – i ba bynnag lefel  […]

Dyffryn Nantlle – Gwenllian Spink

1. Beth yw’r prosiect Llais y Lle?  Fy mhrif amcan efo’r prosiect oedd edrych ar berthynas pobl Dyffryn Nantlle gyda’u cenedligrwydd, drwy edrych ar hanes a thirwedd ein hardal ac ysgogi’r iaith Gymraeg. Fe gefais lawer o ysbrydoliaeth gan chwedlau Cymru ond yn benodol Blodeuwedd, oherwydd y cysylltiad gyda’r ardal a’r thema natur gref.  2. […]

Caerdydd / Cardiff – Eric Lesdema

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?  Fel siaradwr Creol Ffrengig yn byw yng Nghymru, roedd gen i ddiddordeb mewn ymchwilio i berthnasoedd rhwng diwylliant Cymru, y Gymraeg, a’r llais creadigol. Gweithiais gydag Academi Iaith Gymraeg Prifysgol Caerdydd, a datblygwyd ymholiad bwrpasol i gysylltu â phobl o bob rhan o’r Brifysgol gan gynnwys myfyrwyr, […]

Llanddafad gan Gareth Evans-Jones

Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, gyda darluniau gan Lleucu Gwenllian, yw Llyfr y Mis i Blant, mis Mawrth 2024. 

Dewch i gwrdd â Bet, brenhines y defaid, Enfys, y ddafad amryliw, Seren, y ddafad lawn steil, Tomos Tatws, Mari fach, a llawer mwy! Dyma 12 stori, pob un yn canolbwyntio ar fis o’r flwyddyn. 

Gareth Evans-Jones sy’n sgwrsio am ei gyfrol gyntaf i blant gyda Teleri Haf Jones. 

Mynnwch gopi o’r gyfrol o’ch siop lyfrau leol.