Cartref digidol diwylliant Cymru.

Llanfairfechan a Penmaenmawr – Manon Prysor – Gŵyl y Merlod Gwyllt

Cymuned


1. Beth oedd dy brosiect Llais y Lle?

Roeddwn i eisiau creu gweithgareddau fyddai’n cysylltu dwy gymuned Penmaenmawr a Llanfairfechan, drwy ddod a phawb at ei gilydd i rannu hanes yr ardal, hyrwyddo treftadaeth leol a dathlu ein Cymreictod. Wedi cyfnod o ymgysylltu’n greadigol fel ddaeth ysbrydoliaeth i’n prosiect i’r amlwg. 

Un o brif nodweddion yr ardal yw’r merlod gwyllt gyda’u DNA hynafol yn eu gwneud yn ddolen gyswllt i’r gorffennol pell. Mae yna hefyd draddodiad byw gyda’r ffermwyr lleol drwy’r cenedlaethau yn casglu’r merlod lawr o’r Carneddau pob mis Tachwedd. Felly fe benderfynwyd creu Gwŷl y Merlod Gwyllt gyntaf Gogledd Cymru fel dathliad unigryw i drefi Llanfairfechan a Penmaenmawr. 

2. Beth ddigwyddodd yn ystod yr wŷl?

Yn dilyn wythnosau o drefnu gyda Menter Iaith Conwy, Cyngor Tref Llanfairfechan a Phwyllgor Ardal Penmaenmawr a Llanfairfechan, fe drefnwyd sawl gweithgaredd i ddathlu hanes yr ardal. Roedd rhai o’r gweithgareddau yma yn cynnwys gweithdai dawnsio, drymio a chelf digidol – gan gynnwys gweithio gydag artist lleol, Reality Boffins, a grŵp perfformio o’r ardal, Crazy Cats, i gynyddu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Fe grëwyd cwrw yn arbennig ar gyfer y digwyddiad o’r enw ‘Gwin Du’, o fragdy lleol.

Cynhaliwyd teithiau cerdded hefyd gyda hanesydd yn adrodd straeon yr ardal, cawson sgwrs a chân yn y tafarndai lleol, a chreu cyfle i ddathlu gyda phawb yn y gymuned. Wrth gwrs, fe ddaeth pawb at ei gilydd hefyd i weld y merlod gwyllt yn rhedeg o’r mynyddoedd, gyda diolch i’r ffermwyr lleol am eu cyfraniad. Daeth o leiaf 500 o bobl o gymunedau Penmaenmawr a Llanfairfechan i gymryd rhan yn yr ŵyl. 

3. Beth sydd wedi digwydd oherwydd dy brosiect Llais y Lle? 

Mae’r cymunedau yma wedi profi mewnlifiad pobl o ddinasoedd Caer, Lerpwl a Manceinion gan eu bod mor agos i ffordd yr A55, ac mae hyn wedi cael cryn effaith ar yr iaith. Ond drwy weithgareddau dwyieithog creadigol a’r merlod fel ysbrydoliaeth, roedd cyfle i bawb deimlo perchnogaeth dros yr iaith, yr hanes a threftadaeth lleol. Roedd yr ŵyl yn galluogi pobl i fod mwy hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn gyntaf mewn sgwrs ac yn dilyn y prosiect, nodwyd fod y siaradwyr Cymraeg wedi teimlo adferiad i oes aur y dref. Dywedodd rhai: 

“Rwy’n teimlo bod y prosiect hwn wedi rhoi caniatâd i bobl ddefnyddio eu Cymraeg” 

“Ges i’n magu yn Llanfairfechan, ond ers i mi symud yn ôl yma, dyma’r noson gyntaf i mi deimlo y gymuned wedi dod at ei gilydd, fel oedd hi o’r blaen” 



RHANNWCH