1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?
Mae Cware am ymchwilio arwyddocâd y ddwy chwarel sydd ym Mhentref Talgarreg, ac arwyddocâd y chwareli i’r pentrefwyr a phobl Ceredigion. Mae Talgarreg yn le pwysig i’r dair ohonom sy’n rhan o’r prosiect hwn. Fel sawl man yng Nghymru, mae’r ardal wedi gweld mewnlifiad o bobl o bob man – ac mae hyn wedi cael effaith ar yr iaith. Felly roedd ein prosiect eisiau pontio’r berthynas rhwng y trigolion oedd yn siarad Cymraeg, â’r rhai oedd ddim – drwy greu cyfleoedd a digwyddiadau i hyrwyddo’r iaith a’n diwylliant.
2. Beth ddigwyddodd yn y prosiect?
Roedden ni eisiau grymuso’r Cymry oedd yn byw yno, i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus, a magu chwilfrydedd y rhai oedd ddim yn siarad Cymraeg i ddysgu am yr iaith a’i phwysigrwydd. Fe drefnwyd digwyddiadau fel mynychu ysgolion i gynnal gweithgareddau perthnasol a chynnal taith cerdded Cymraeg, wedi ei harwain gan Iwan Evans, cyn perchennog un o’r chwareli ac ffigwr tad i’r pentref – er mwyn hyrwyddo hanes a threftadaeth, a chreu lle diogel i bobl defnyddio’r iaith. Roedd y daith gerdded yn canolbwyntio ar sut oedd tirwedd naturiol, y ffyrdd a’r llwybrau wedi esblygu dros amser. Yn ogystal, fe drefnwyd ‘Gig Gwerin’ yn y dafarn leol gyda pherfformiadau gan Mari Mathias, Iwan a Calvin ac Owen Shiers – a dynnodd y gymuned i gyd at ei gilydd.
3. Beth sydd nesaf?
Byddwn yn cynnal arddangosfa ymchwil ddiwedd mis Mawrth er mwyn trafod ein canfyddiadau, a chamau nesaf Cware. Mae wedi bod yn wych gweld cymuned Talgarreg yn dod at ei gilydd i werthfawrogi hanes yr ardal a’r iaith . Rydw i’n edrych ymlaen at allu rhannu stori’r holl ymchwil yn ein harddangosfa a gobeithio ysgogi mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn ein cymuned.