Un o’r prosiectau dderbyniodd gefnogaeth Llais y Lle 2023 yw cynllun sy’n cael ei arwain gan Myfanwy Alexander yn ardal Sir Drefaldwyn. Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda grwpiau gwahanol o bobl ifanc i’w hannog i feddwl am eu perthynas â’r Gymraeg drwy gyfrwng drama, ffilm a cherddoriaeth.
Wrth sôn am ei gwaith dywedodd Myfanwy: “Mae’r cynllun wedi rhoi rhyddid i mi weithio gyda phobl ifanc mewn ffyrdd newydd ac i roi cyfle iddyn nhw hefyd edrych yn fwy dwys ar eu perthynas gyda’r iaith a’r rôl mae’r Gymraeg yn chwarae yn eu bywydau. Rydw i wedi gweithio gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanfair Caereinion a’r Montogmeryshire Youth Theatre, mae wedi bod yn ddiddorol gweld ymateb y gwahanol gymunedau hyn i’r Gymraeg.
“Heb y cynllun ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosib, a’r gobaith yw fod Llais y Lle Maldwyn wedi dangos gwerth yr iaith i bobl ifanc yr ardal i’r hir dymor. Mi fyddwn i‘n annog unrhyw un sydd â syniad creadigol neu sy’n angerddol dros ddatblygiad y Gymraeg i wneud cais i gronfa eleni.”
Dywedodd Einir Sion, Ysgogydd Iaith Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae’r gronfa ar gael i bobl sydd â syniadau blaengar a chreadigol i roi’r Gymraeg wrth galon prosiect yn eu cymuned. Rydym yn chwilio am syniadau fydd yn darganfod ffyrdd creadigol a rhagweithiol o weithredu ac sy’n gosod sail gadarn i ddatblygu i’r dyfodol.
“Does dim cyfyngiad ar y math o brosiect y gallwn ei gefnogi, dim ond eu bod yn rhoi pwyslais ar y Gymraeg gyda’r bwriad o greu ac ehangu perchnogaeth a defnydd o’r iaith mewn cymuned.”