1. Beth yw’r prosiect Llais y Lle?
Fy mhrif amcan efo’r prosiect oedd edrych ar berthynas pobl Dyffryn Nantlle gyda’u cenedligrwydd, drwy edrych ar hanes a thirwedd ein hardal ac ysgogi’r iaith Gymraeg. Fe gefais lawer o ysbrydoliaeth gan chwedlau Cymru ond yn benodol Blodeuwedd, oherwydd y cysylltiad gyda’r ardal a’r thema natur gref.
2. Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?
Roeddwn yn awyddus i ddatblygu ar gysylltiadau yn y gymuned, a drwy weithio gyda’r Orsaf, datblygwyd nifer o weithgareddau gwahanol. Roedd y rhain yn cynnwys: teithiau cerdded gyda’r ecolegydd Bethan Mosley, sesiynau garddio, gweithdai creadigol a chelf. Cawsom sesiynau hel a gwasgu blodau, gweithdai barddoni gyda Grug Muse, nosweithiau ymweld ag ystlumod, a sesiynau ioga gyda Iogis Bach. Roedd pob sesiwn yn ceisio datblygu’r berthynas rhwng iaith a natur, gan feddwl am safbwyntiau gwahanol, ac am yr ieithoedd nad ydym yn eu clywed ond sy’n bodoli o’n cwmpasi, fel yr ystlumod yn cyfathrebu yn y dyffryn.
3. Sut wnaeth cymuned Dyffryn Nantlle fanteisio o’r prosiect?
Fe fynychodd dros 200 o bobl y digwyddiadau, gan gynnwys ysgolion lleol, babanod a rhieni, dysgwyr Cymraeg, yn ogystal â phobl hyn a theuluoedd lleol. Roedd y gweithgareddau yn dathlu’r Gymraeg, gan gynnig cyfle i bontio’r cenedlaethau.
Fel rhan o’r prosiect, dyluniwyd yr adnodd Blodair, sy’n ddathliad gweledol o enwau ein planhigion gwyllt yng Nghymru. Pwrpas yr adnodd hwn yw cynnig help llaw wrth ddysgu enwau ein planhigion gwyllt cynhenid, gan ddefnyddio dulliau chwareus a gweledol i lunio’r enwau. Ysgogwyd Blodair gan sgyrsiau a gafwyd yn ystod y prosiect, wrth bendroni ar y cwestiwn: sut allwn fynd ati i sicrhau ffyniant ein planhigion gwyllt os nad oes gennym yr ieithwedd i’w hadnabod? Yn y pen draw, bydd yr adnodd yma ar gael i’r cyhoedd.
Yn ogystal â hyn, rydym yn gweithio ar ddatblygu map sy’n lleoli chwedlau’r ardal, gan gynnwys chwedlau’r Mabinogi, y tylwyth teg, a llên gwerin y chwarelwyr. Bydd y map hwn yn cael ei argraffu ar faner fydd yn teithio o gwmpas lleoliadau gwahanol yn Nyffryn Nantlle.
Dyma beth oedd gan rhai i ddweud:
“Y plant wedi mwynhau yn fawr. Sesiwn werthfawr wnaeth ein helpu i gyfoethogi’r Maes Dysgu a Phrofiad ‘Iechyd a Lles’.”
“Mae’r sesiwn wedi fy helpu gyda dysgu Cymraeg, nid oeddwn erioed wedi ysgrifennu unrhyw beth yn Gymraeg o’r blaen”.
“Wrth fy modd bod ‘na weithgareddau llesol yn cael eu cynnig yn y gymuned leol.”