Mae weithiau’n anodd gwybod p’un ai i chwerthin neu grïo wrth wylio llywodraeth Geidwadol Rishi Sunak yn baglu tuag at ei ffawd anochel yn yr etholiad cyffredinol sydd ar ddyfod.
Ar y naill law, mae rhyw fath o bleser (maleisus, bid siŵr) i’w gael o weld ymdrechion dirifedi tîm Sunak i ail-lansio ei brifweinidogaeth yn profi’n gwbl seithug. Dyma griw sydd, fel Sunak ei hunan, wedi cael magwraeth freintiedig gan gynnwys addysg ddrudfawr a’u galluogodd i gamu’n syth i rengoedd y dosbarth llywodraethol a hynny ar sail rhwydweithiau ysgol a choleg rhagor na thalent neilltuol. Dyma griw sy’n parhau i fwynhau cefnogaeth groch y wasg Geidwadol neu ‘the party in the media’ fel y’i gelwir gan yr ysgolhaig Tim Bale. Eto i gyd, dyma griw sy’n parhau’n analluog i berswadio’r etholwyr na ddylid gorfodi Sunak i hel ei bac o Downing Street ar y cyfle cyntaf. Er pob mantais a phob braint, nid oes dim y maent yn ei wneud yn tycio. Trist iawn, feri sad.
Ond ar y llaw arall, nid oes dim yn bleserus mewn gweld y dyfnderoedd y mae Sunak a’i lywodraeth yn fodlon eu plymio yn eu hawydd i gadw’u crafangau ar rym costied a gostio. Wele greulondeb bwriadol y polisi o allforio pobl i fyw am byth dan ofal awdurdodau Rwanda – gwladwriaeth sy’n dienyddio ei gwrthwynebwyr ac ar yr un pryd yn cyflawni troseddau rhyfel di-rif yn nwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Wele hefyd y diffyg cyfrifoldeb a difrifoldeb sydd ymhlyg ym mharodrwydd Sunak i eithrio’r Deyrnas Unedig o drefn y Llys Iawnderau Ewropeaidd os bydd y llys yn meiddio rhwystro’i bolisi o alltudio gorfodol. Nid yw parhad yr hyn sy’n weddill o’r drefn ryngwladol megis dim iddo o’i gymharu â’r angen i ryngu bodd yr adain dde eithafol. Yn wahanol i’w ragflaenwyr Truss a Johnson, nid yw Sunak wedi mynd mor bell â galw’n gyhoeddus am fuddugoliaeth i Donald Trump yn etholiad arlywyddol yr hydref. Eto fyth, mater o raddfa’n unig yw’r gwahaniaethau rhwng y tri. Os yw’n siwtio eu diddordebau nhw eu hunain, mae pob un ohonynt yn fwy na bodlon peryglu buddiannau hirdymor y wlad y maent yn honni ei charu.
Fel y nodais mewn colofnau blaenorol, methiannau’r Torïaid yn hytrach nag unrhyw frwdfrydedd ynglŷn â’r syniad o weinyddiaeth yn cael ei harwain gan Syr Keir Starmer, Rachel Reeves a Wes Streeting fydd yn penderfynu canlyniad yr etholiad nesaf. Neu a defnyddio’r derminoleg academaidd briodol, pleidleisio negyddol (negative partisanship) yn hytrach nag unrhyw beth mwy cadarnhaol sy’n mynd i olygu mai Starmer a’i deulu fydd yn treulio’r Nadolig yn rhif 10.
Ond tra ydym yn disgwyl (a disgwyl!) i Sunak alw’r etholiad, mae’n werth ystyried beth yw canlyniadau tebygol etholiad wedi ei benderfynu ar y fath sail. Y perygl, rwy’n ofni, yw y bydd yn esgor ar lywodraeth a chanddi fwyafrif anferthol ond un sydd, serch hynny, yn analluog i fynd i’r afael â’r heriau y mae’r wladwriaeth yn eu hwynebu.
Gadewch i ni ddechrau hefo maint y mwyafrif. Fel y gŵyr pawb sydd â’r mymryn lleiaf o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, mae’r arolygon barn wedi bod yn awgrymu’n gyson fod y Blaid Lafur o leiaf 20 pwynt ar y blaen i’r Ceidwadwyr. Mae hynny’n cynrychioli gogwydd o’r Torïaid at Lafur ers yr etholiad diwethaf sy’n fwy na’r hyn a brofwyd yn 1997. Pe na bai hynny’n ddigon ynddo’i hun i sicrhau bod y rhagolygon yn dywyll eithriadol i Sunak a’i blaid, mae’r un arolygon barn hefyd yn awgrymu bod mwy nag un o bob deg o bleidleiswyr yn paratoi i fwrw eu croes i Reform, a hynny heb i Nigel Farage gadarnhau a yw’n bwriadu chwarae rhan flaenllaw yn ymgyrch etholiadol y blaid honno ai peidio.
Mewn byr eiriau, mae’r Torïaid yn colli pleidleisiau’n drwm i bob cyfeiriad, gyda nifer sylweddol o bleidleiswyr adain dde yn fodlon cefnogi plaid sy’n annhebygol o ennill yr un sedd a hynny fel ffordd o ddangos eu dirmyg tuag at y blaid lywodraethol. Dim ond 165 o Aelodau Seneddol Ceidwadol a ddychwelwyd i Dŷ’r Cyffredin i wrthwynebu llywodraeth gyntaf Tony Blair, sef y nifer isaf er 1906. Fel mae pethau’n edrych ar hyn o bryd, o leiaf, bydd y Torïaid yn ffodus iawn, iawn o gyrraedd unrhyw beth yn agos at gyfanswm o’r fath y tro nesaf.
Felly fe fydd Starmer yn ffurfio llywodraeth gyda’r brif wrthblaid ar chwâl yn llwyr ar ôl canlyniad a allai’n hawdd brofi i fod y gwaethaf yn ei hanes. Os yw’n ffodus, fe fydd hefyd yn dod i rym ar adeg pan fydd crib yr SNP wedi’i thorri wrth i’r blaid honno gychwyn ar un arall o’r pyliau hynny o frwydro mewnol chwerw sydd wedi nodweddu ei hanes. Eto fyth, ac yn baradocsaidd ddigon, mae’r llywodraeth Brydeinig nesaf yn debygol o fod yn llywodraeth wan.
Y broblem fawr hefo pleidleisio negyddol fel sail ar gyfer ffurfio llywodraeth yw nad yw’n darparu mandad ar gyfer gwneud unrhyw beth. Am ychydig o wythnosau – ychydig o fisoedd hyd yn oed – fe fydd hi’n ddigon fod yna wynebau gwahanol yn y llywodraeth. Ond mewn oes pan mae siniciaeth a phoblyddiaeth yn rhemp, buan y bydd apêl newydd-deb yn pylu. A beth wedyn?
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi tanlinellu pa mor ffôl fu Prydain i’w hynysu ei hun oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd a’i farchnad sengl, pa mor wan yw sefydliadau cyhoeddus y wlad yn sgil blynyddoedd o gyni a thanfuddsoddi systematig, a pha mor fyrbwyll fu’r polisi o drosglwyddo adnoddau’r wladwriaeth i gwmnïau preifat a’u bryd ar fudr-elwa – yn llythrennol felly yn achos cyflenwyr dŵr Lloegr. Eto, nid yw Llafur wedi gwneud nemor ddim i fraenaru’r tir ar gyfer mynd i’r afael ag unrhyw un o’r materion hyn. Yn wir, wrth wrando ar Streeting yn hwrjo marchnad-addoliaeth Blairaidd fel ‘yr ateb’ i argyfwng y gwasanaeth iechyd, mae ymhell o fod yn eglur i mi fod arweinyddiaeth y Blaid Llafur yn deall mantioli’r problemau eu hunain.
Heb fandad cadarnhaol ac yn wyneb diwylliant gwleidyddol ehangach sydd wedi dyrchafu’r syniad fod yna atebion syml, di-boen i bopeth, buan y bydd y llywodraeth nesaf hefyd yn cael ei hystyried yn fethiant. Tra byddai’n braf meddwl y gallem fod ar drothwy cyfnod newydd yn hanes y wladwriaeth, rwy’n ofni’n fawr mai’r cyfan sy’n ein disgwyl yw’r bennod ddiweddaraf yn yr argyfwng gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol ac, yn wir, moesol fu’n ei llethu cyhyd.
Richard Wyn Jones