Cartref digidol diwylliant Cymru.

Ysbyty Ifan – Rhodri Owen

  1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?  Roeddwn eisiau cyflwyno ac ail-ddehongli hanes a llên gwerin ardal Ysbyty Ifan mewn ffordd drawiadol gyda’r gymuned, gan roi’r Gymraeg yn ganolbwynt i hynny wrth wneud.  2. Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn? Roedd gweithgareddau’r prosiect yn amrywio’n ond rhai o’r uchafbwyntiau oedd – adeiladu […]

Sir Drefaldwy – Myfanwy Alexander

Un o’r prosiectau dderbyniodd gefnogaeth Llais y Lle 2023 yw cynllun sy’n cael ei arwain gan Myfanwy Alexander yn ardal Sir Drefaldwyn. Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda grwpiau gwahanol o bobl ifanc i’w hannog i feddwl am eu perthynas â’r Gymraeg drwy gyfrwng drama, ffilm a cherddoriaeth. Wrth sôn am ei gwaith dywedodd Myfanwy: […]

Trafnidiaeth Gynaliadwy – Sustainable Transport (Gweminar ar alw | Webinar on demand)

Yn aml mae’n anodd mynd o A i B yng Nghymru heb gar eich hun – a gyda argyfwng costau byw ac ymdrechion Cymru i gyrraedd Sero Net, mae cymunedau wedi bod yn codi i gwrdd â’r her. Yn y gweminar a thrafodaeth yma, byddwn yn clywed gan amrywiaeth o gymunedau dros Gymru am y gwahanol ffyrdd creadigol y maent wedi bod yn ceisio cynyddu mynediad at drafnidiaeth gynaliadwy, fforddiadwy. Rhai o’r pethau byddwn yn ei drafod: clybiau ceir, cerbydau trydan, bysiau cymunedol ar-alw neu dacsis, a’i gwneud yn haws i reidio (a thrwsio) beiciau.

Siaradwyr:

Huw Davies, rheolwr prosiect Dyffryn Caredig Partneriaeth Ogwen. Mae gan Huw dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y trydydd sector. Gweithiodd gyda Phrif Swyddog y Bartneriaeth, Meleri Davies, ar brosiect Dyffryn Gwyrdd (2020 -2023) a’r prosiect Teithio Llesol Beics Ogwen 2021-2022. Mae nawr yn gyfrifol am y Dyffryn Caredig, prosiect diweddaraf y fenter sy’n canolbwyntio ar Drafnidiaeth Gymunedol Gynaliadwy.

Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter cymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgykchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen.

Andrew Capel, TripTo. Cyd-sefydlodd ac arweiniodd Andrew Glwb Ceir Llani yn 2007. Gan ddechrau gyda dim ond un car ar fenthyg a thri aelod, arweiniodd eu hymdrechion yn y pen draw at fodel cynaliadwy, hunan-gyllidol. Dros 12 mlynedd, ehangodd y clwb, gan ymgorffori cerbydau trydan yn 2019 ac ymuno ag Agor Drenewydd i ddatblygu clwb ceir cerbydau trydan canolbarth Cymru, gyda’r enw TripTo. Ar hyn o bryd mae Andrew yn gweithio ar gydlynnu materion dydd-i-ddydd TripTo, sydd â 118 o aelodau a 5 cerbyd erbyn hyn. Mae Andrew yn chwarae rhan hanfodol mewn allgymorth cymunedol, ceisiadau grant, a mentora clybiau ceir newydd – gan gynnwys fel Mentor Cymheiriaid Egin. Mae o hefyd yn rhan o redeg y clybiau ceir TrydaNi yn Ne Cymru.

Willoughby Zimmerman, Spokesperson. Mae Willoughby yn actifydd eiriolaeth amgylcheddol a beicio erioed. Wedi gwneud dros ddegawd yn y diwydiant beicio, dechreuodd Willoughby SpokesPerson CIC yn 2019. Mae SpokesPerson yn gwmni budd cymunedol gyda chenhadaeth i gynyddu mynediad i feicio i bobl o gymunedau ymylol.

April Network Meeting | Cyfarfod Rhwydwaith Mis Ebrill

Bydd cyfarfod rhwydwaith Ebrill yn canolbwyntio ar ddrafft Llywodraeth Cymru o’r Strategaeth Iechyd Meddwl, a lansiwyd Chwefror 20fed. Mae’r strategaeth ddrafft, sydd allan am ymgynghoriad tan Fehefin 11eg, yn anelu i newid sut rydym yn meddwl am iechyd meddwl, ymbweru pobl i wella eu hiechyd meddwl a dileu’r bariau a rhwystrau o amgylch cael help. Bydd Emily van de Venter, Ymgynghorydd, Llesiant Meddyliol, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi aelodau WAHWN i ymateb i’r strategaeth ddrafft, a sicrhau ein bod yn pwysleisio manteision y celfyddydau a chreadigrwydd ar gyfer iechyd meddwl a llesiant.

18/04, 10yb

Cofrestrwch yma.

What The Blazes!

Hanes Manon yn cael ei hysbrydoli yn Gibraltar. Bethan yn gosod her i gyfieithwyr wrth ddefnyddio “rhegfeydd” Cymraeg. Siân yn cyhoeddi llyfr Saesneg, This House. Aled yn cwrdd â phrif weinidog Fflandrys a Dafydd yn sôn am hanes ei chwaer.

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Gwibdaith Elliw – Ian Richards.

Anfadwaith – Llŷr Titus

The One Hundred years of Lenni and Margot – Marianne Cronin

An elderly lady is up to no good – Helene Tursten.

Birdsong – Sebastian Faulks

Captain Corelli’s Mandolin – Louis de Bernières. 

Awst yn Anogia – Gareth F Williams

Lessons in Chemistry – Bonnie Garmus

Shuggie Bain – Douglas Stuart.       

Ci Rhyfel/Soldier Dog – Samuel Angus

Deg o Storïau – Amy Parry-Williams

Gorwelion/Shared Horizons – gol. Robert Minhinnick

Flowers for Mrs Harris – Paul Gallico

Cookie – Jacqueline Wilson

Alchemy – S.J. Parris

John Preis – Geraint Jones

RAPA – Alwyn Harding Jones

The Only Suspect – Louise Candlish

Helfa – Llwyd Owen

Trothwy – Iwan Rhys

The Beaches of Wales – Alistair Hare

Gladiatrix – Bethan Gwanas

Devil’s Breath – Jill Johnson

Outback – Patricia Wolf

Letters of Note – Shaun Usher

Pontypridd – Catrin Doyle, Bridie Doyle-Roberts a Becky Davies

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?  Roeddwn eisiau dod ac unigolion creadigol a’r gymuned ehangach at ei gilydd ym Mhontypridd, er mwyn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg. Felly mi es i, Bridie Doyle-Roberts a Becky Davies i greu gweithgareddau i annog defnydd o’r iaith mewn ffurf ymarferol a normal, er mwyn cyflwyno’r iaith i’r […]

Llanfairfechan a Penmaenmawr – Manon Prysor – Gŵyl y Merlod Gwyllt

1. Beth oedd dy brosiect Llais y Lle? Roeddwn i eisiau creu gweithgareddau fyddai’n cysylltu dwy gymuned Penmaenmawr a Llanfairfechan, drwy ddod a phawb at ei gilydd i rannu hanes yr ardal, hyrwyddo treftadaeth leol a dathlu ein Cymreictod. Wedi cyfnod o ymgysylltu’n greadigol fel ddaeth ysbrydoliaeth i’n prosiect i’r amlwg.  Un o brif nodweddion […]

Talgarreg – Lleucu Meinir, Meinir Mathias ac Eddie Ladd – Cware

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?  Mae Cware am ymchwilio arwyddocâd y ddwy chwarel sydd ym Mhentref Talgarreg, ac arwyddocâd y chwareli i’r pentrefwyr a phobl Ceredigion. Mae Talgarreg yn le pwysig i’r dair ohonom sy’n rhan o’r prosiect hwn. Fel sawl man yng Nghymru, mae’r ardal wedi gweld mewnlifiad o bobl o […]

Grangetown – Rhiannon Mair

1. Beth yw dy brosiect llais y lle?  Yn byw yn Grangetown, roedd gen i ddiddordeb yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg yno ac yn Trebiwt. Roeddwn eisiau ymgysylltu gyda’r gymuned i ddeall os oedd rhwystra i ddysgu Cymraeg a gwybod faint o bobl oedd yn gallu siarad yr iaith – i ba bynnag lefel  […]

Dyffryn Nantlle – Gwenllian Spink

1. Beth yw’r prosiect Llais y Lle?  Fy mhrif amcan efo’r prosiect oedd edrych ar berthynas pobl Dyffryn Nantlle gyda’u cenedligrwydd, drwy edrych ar hanes a thirwedd ein hardal ac ysgogi’r iaith Gymraeg. Fe gefais lawer o ysbrydoliaeth gan chwedlau Cymru ond yn benodol Blodeuwedd, oherwydd y cysylltiad gyda’r ardal a’r thema natur gref.  2. […]

Caerdydd / Cardiff – Eric Lesdema

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle?  Fel siaradwr Creol Ffrengig yn byw yng Nghymru, roedd gen i ddiddordeb mewn ymchwilio i berthnasoedd rhwng diwylliant Cymru, y Gymraeg, a’r llais creadigol. Gweithiais gydag Academi Iaith Gymraeg Prifysgol Caerdydd, a datblygwyd ymholiad bwrpasol i gysylltu â phobl o bob rhan o’r Brifysgol gan gynnwys myfyrwyr, […]

Llanddafad gan Gareth Evans-Jones

Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, gyda darluniau gan Lleucu Gwenllian, yw Llyfr y Mis i Blant, mis Mawrth 2024. 

Dewch i gwrdd â Bet, brenhines y defaid, Enfys, y ddafad amryliw, Seren, y ddafad lawn steil, Tomos Tatws, Mari fach, a llawer mwy! Dyma 12 stori, pob un yn canolbwyntio ar fis o’r flwyddyn. 

Gareth Evans-Jones sy’n sgwrsio am ei gyfrol gyntaf i blant gyda Teleri Haf Jones. 

Mynnwch gopi o’r gyfrol o’ch siop lyfrau leol.

Cyn Cwsg – Asgwrn Newydd

Fideo wedi’i saethu yn Queen Street, Caerdydd.

Cyfarwyddo, cynhyrchu a golygu: Aled Victor

Mwddrwgs cynorthwyol: Twm Ebbsworth a Carwyn Selway

Rhan o gronfa fideos Pyst x Lŵp S4C | Part of Pyst x Lŵp S4C music video grant

UNTRO

Mae PYST yn falch o gyhoeddi system newydd fydd yn cefnogi artistiaid newydd i ryddhau eu senglau cyntaf a chreu chyfleon i hyrwyddo y senglau hynny. Gan greu partneriaeth rhwng PYST, Cymru Greadigol, BBC Radio Cymru, Lŵp/S4C a Klust, bwriad UNTRO yw cynrychioli, cydlynu a hyrwyddo traciau gan artistiaid newydd o Gymru gan roi iddynt […]

Son of Chamber Symphony: UPROAR

Mae UPROAR – Ensemble Cerddoriaeth Newydd Cymru yn dychwelyd gyda’i brosiect diweddaraf ar gyfer 17 o gerddorion, gan hyrwyddo rhai o’r lleisiau mwyaf cyffrous ym myd cerddoriaeth glasurol Cymru heddiw ochr yn ochr â chyfansoddwyr rhyngwladol sydd wedi ennill sawl gwobr.

Pennod 36 – Elis Gruffydd (Rhan 1)

Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. 

A’i fywyd yn rhychwantu hanner cyntaf oes y Tuduriaid, mae’n bosibl disgrifio Elis Gruffydd gyda gwrthddywediad ymddangosiadol a dweud ei fod yn awdur cwbl unigryw a oedd yn gwbl nodweddiadol o’i oes. Gwelir yn ei waith ysgrifenedig y pontio rhwng yr hen oes a’r newydd, wrth iddo fynd ati’n uchelgeisiol i gofnodi cymaint o wybodaeth trwy gyfrwng ei famiaith. Gan fod Elis yn sôn am ei fywyd ei hun yn ystod rhan olaf ei groncil, a ellir dweud mai hwn yw’r hunangofiant cyntaf yn yr iaith Gymraeg? Holwn hefyd pam nad oes rhagor o Gymry heddiw sy’n gwybod am yr awdur Cymraeg diddorol hwn a’i waith rhyfeddol? Ai oherwydd y ffaith ei fod yn Gymro a oedd yn deyrngar iawn i’r Frenhiniaeth Seisnig a’i byddin?

DGIC/NYDW 2023 x Night People

Gan weithio gyda’r cyn-fyfyrwyr, Daisy Belle Howell, creodd aelodau DGIC ddau ddarn trawiadol a berfformiwyd a ffilmiwyd mewn gwahanol leoliadau o amgylch Caerdydd. Ers dod yn aelod o DGIC, mae Daisy wedi mynd ymlaen i weithio fel dawnsiwr a choreograffydd proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n gyd-gyfarwyddwr ar gwmni perfformio a digwyddiadau o Fanceinion, ‘Night People’.

DGIC/NYDW 2023 x Night People

Gan weithio gyda’r cyn-fyfyrwyr, Daisy Belle Howell, creodd aelodau DGIC ddau ddarn trawiadol a berfformiwyd a ffilmiwyd mewn gwahanol leoliadau o amgylch Caerdydd. Ers dod yn aelod o DGIC, mae Daisy wedi mynd ymlaen i weithio fel dawnsiwr a choreograffydd proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n gyd-gyfarwyddwr ar gwmni perfformio a digwyddiadau o Fanceinion, ‘Night People’

Twenty Tales

Mae Twenty Tales yn weledigaeth o symudiad a sain sy’n mynd tu hwnt i ddiwylliant a chenhedlaeth. Daw ugain o ddawnswyr ynghyd mewn profiad cyfunol sy’n ennyn emosiwn dynol drwy berfformiad corfforol sy’n dathlu hyfedredd, rhythmau, dynamig a cherddoriaeth bwerus gan y cyfansoddwr o fri Mercan Dede. Mae’r cyfuniad unigryw o ddawnsio cyfoes, gwerin a thraddodiadol yn gwneud hwn yn waith oesol a chanddo gysylltiad cryf i wreiddiau hynafiad.

Coreograffydd: Mario Bermúdez
Coreograffydd Cynorthwyol: Catherine Coury
Cyfansoddwr: Mercan Dede
Cynllunydd Gwisgoedd: George Hampton Wales
Cynllunydd Goleuo Chris lllingworth
Cynhyrchydd: Jamie Jenkins

Siarad Cyfrolau: Aduniad Gwobrau Tir na n-Og 2023

Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2024 yr wythnos hon. 

Ar bodlediad Siarad Cyfrolau, y darlunydd Valériane Leblond, awdur Alun Davies, a chadeirydd y panel beirniaid Morgan Dafydd sy’n ymuno â Francesca Sciarrillo am aduniad gwobrau Tir na n-Og 2023.

Celebrate This Place 2024

Wrth ein boddau cael croesawu Casisdead, Yunè Pinku, Jelani Blackman, Miso Extra a Minas i ddiwrnod cyntaf Celebrate This Place 2024 ar y 24ain o Fai.

Tocynnau ar werth nawr am £22.50. Bachwch nhw cyn cael eich siomi.

Rufus Mufasa

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau.

Ein Hartist y Mis ar gyfer mis Mawrth yw Rufus Mufasa, artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, artist rap, canwr-gyfansoddwr, creawdwr theatr, ac yn olaf ond nid lleiaf, Mam.

O Gymrawd Barbican i Fardd Preswyl cyntaf Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, gan sicrhau preswyliadau llenyddol o Ŵyl Lenyddiaeth Hay i Sweden, y Ffindir, Indonesia, a Zimbabwe, ond mae bob amser yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, Cymru, gan hyrwyddo addysg hip hop, barddoniaeth perfformio a datblygiad rhwng cenedlaethau, a chafodd ei phenodi yn Fardd ar Bresgripsiwn 2021. Artist Hull ’19 ar y cyd â BBC Contains Strong Language, Flashbacks and Flowers yw ei chasgliad cyntaf, a gyhoeddwyd gan Indigo Dreams, a ddyfarnwyd am eu harloesedd mewn cyhoeddi a Enillodd Rufus Wobr Farddoniaeth Ryngwladol 2022 am hyn. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth, anhrefn hinsawdd, trawma traws-genhedlaeth, y dwyfol a’r cartref, ffeministiaeth a ffydd.

Magee

Noson o gerddoriaeth gwerin. 

7.30pm – 20/04/2024 (Nos Sadwrn)

Mynediad am ddim 

18+

Cardiff Umbrella

The Capitol, Queen St, Cardiff, CF10 2HQ.

If you’re interested in becoming a member and/or volunteering, talk to a team member or email us: cardiffumbrella@gmail.com.

Artist Access Rider Workshops With April Lin 林森

Gweithdy Atodiad Hygyrchedd i Artistiaid – ar gyfer holl aelodau DAC

April Lin 林森

Mawrth 13 2024 6-8yp

Ar-lein trwy Zoom gyda chapsiynau byw. Mae’r digwyddiad hwn am ddim.

Yn y gweithdy atodiad hygyrchedd ar-lein hwn a arweinir gan April Lin 林森, rydym yn trafod beth yw atodiad hygyrchedd, a sut i ysgrifennu un. Mae hwn yn ymarferiad i normaleiddio sgyrsiau am ofal a chymorth fel artist a/neu weithiwr celfyddydol. Mae’n arferiad wrth ofyn am ofal a nodi eich anghenion.

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl anabl, Byddar, niwroamrywiol, neu sydd â salwch cronig ac sy’n Gymraeg neu wedi’u lleoli yng Nghymru.

Os hoffwch chi fynychu’r gweithdy, anfonwch e-bost at lucy@dacymru.com i archebu lle a gadael i ni wybod eich anghenion mynediad.

Gweithdy Atodiad Hygyrchedd i Artistiaid – ar gyfer artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang

April Lin 林森

Mawrth 20 2024 6-8yp

Ar-lein trwy Zoom gyda chapsiynau byw. Mae’r digwyddiad hwn am ddim.

Yn y gweithdy atodiad hygyrchedd ar-lein hwn a arweinir gan April Lin 林森, rydym yn trafod beth yw atodiad hygyrchedd, a sut i ysgrifennu un. Mae hwn yn ymarferiad i normaleiddio sgyrsiau am ofal a chymorth fel artist a/neu weithiwr celfyddydol. Mae’n arferiad wrth ofyn am ofal a nodi eich anghenion.

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang sy’n anabl, Byddar, niwroamrywiol, neu sydd â salwch cronig ac sy’n Gymraeg neu wedi’u lleoli yng Nghymru.

Os hoffwch chi fynychu’r gweithdy, anfonwch e-bost at lucy@dacymru.com i archebu lle a gadael i ni wybod eich anghenion mynediad.

Eden – Siwgr

Ail sengl Eden o’r flwyddyn ‘Siwgr’.

Yn dilyn llwyddiant ‘Caredig’ fis diwethaf (y fideo’n cael ei wylio dros 40,000 o weithiau o fewn y 24 awr gyntaf) mae’r band yn barod i ryddhau eu tiwn nesaf ar ffurf alaw bop felys wedi’i chyfansoddi gan Yws Gwynedd, Rich James Roberts a Ifan Siôn Davies.

Mae Non, Emma a Rachael, sydd i gyd yn troi’n 50 eleni, yn falch i gael dymchwel stereoteipiau a gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.

Er iddynt ffurfio dros 30 mlynedd yn ôl, mae’n edrych yn debyg mai 2024 fydd eu blwyddyn brysuraf hyd yma, gyda mwy o gerddoriaeth gyffrous i ddod – gwyliwch y gofod.

Cyfarwyddwr : Ynyr Morgan Ifan
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Llion Gethin
Cyfarwyddo Symudiad : Elan Isaac
Cynorthwyydd Camera 1af : Lewis Morgan
Adnoddau : Firebug
Colur a Gwallt : Lisa Pugh
Golygu : Brychan England
Cynhyrchu : Ynyr Morgan Ifan, Owain Jones & Catrin Morris