Yn aml mae’n anodd mynd o A i B yng Nghymru heb gar eich hun – a gyda argyfwng costau byw ac ymdrechion Cymru i gyrraedd Sero Net, mae cymunedau wedi bod yn codi i gwrdd â’r her. Yn y gweminar a thrafodaeth yma, byddwn yn clywed gan amrywiaeth o gymunedau dros Gymru am y gwahanol ffyrdd creadigol y maent wedi bod yn ceisio cynyddu mynediad at drafnidiaeth gynaliadwy, fforddiadwy. Rhai o’r pethau byddwn yn ei drafod: clybiau ceir, cerbydau trydan, bysiau cymunedol ar-alw neu dacsis, a’i gwneud yn haws i reidio (a thrwsio) beiciau.
Siaradwyr:
Huw Davies, rheolwr prosiect Dyffryn Caredig Partneriaeth Ogwen. Mae gan Huw dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y trydydd sector. Gweithiodd gyda Phrif Swyddog y Bartneriaeth, Meleri Davies, ar brosiect Dyffryn Gwyrdd (2020 -2023) a’r prosiect Teithio Llesol Beics Ogwen 2021-2022. Mae nawr yn gyfrifol am y Dyffryn Caredig, prosiect diweddaraf y fenter sy’n canolbwyntio ar Drafnidiaeth Gymunedol Gynaliadwy.
Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter cymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgykchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen.
Andrew Capel, TripTo. Cyd-sefydlodd ac arweiniodd Andrew Glwb Ceir Llani yn 2007. Gan ddechrau gyda dim ond un car ar fenthyg a thri aelod, arweiniodd eu hymdrechion yn y pen draw at fodel cynaliadwy, hunan-gyllidol. Dros 12 mlynedd, ehangodd y clwb, gan ymgorffori cerbydau trydan yn 2019 ac ymuno ag Agor Drenewydd i ddatblygu clwb ceir cerbydau trydan canolbarth Cymru, gyda’r enw TripTo. Ar hyn o bryd mae Andrew yn gweithio ar gydlynnu materion dydd-i-ddydd TripTo, sydd â 118 o aelodau a 5 cerbyd erbyn hyn. Mae Andrew yn chwarae rhan hanfodol mewn allgymorth cymunedol, ceisiadau grant, a mentora clybiau ceir newydd – gan gynnwys fel Mentor Cymheiriaid Egin. Mae o hefyd yn rhan o redeg y clybiau ceir TrydaNi yn Ne Cymru.
Willoughby Zimmerman, Spokesperson. Mae Willoughby yn actifydd eiriolaeth amgylcheddol a beicio erioed. Wedi gwneud dros ddegawd yn y diwydiant beicio, dechreuodd Willoughby SpokesPerson CIC yn 2019. Mae SpokesPerson yn gwmni budd cymunedol gyda chenhadaeth i gynyddu mynediad i feicio i bobl o gymunedau ymylol.