Mae Egin yn raglen sy’n bwriadu datgloi pŵer cyfunol cymunedau yng Nghymru i gymryd eu camau cyntaf i daclo newid hinsawdd a dod yn fwy cynaliadwy, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd. Ein prif ffocws ydy grwpiau sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ond sydd yn debygol o gael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd.
Gyda’r heriau niferus sy’n ein hwynebu nawr ac yn y degawdau nesaf, mae’n bwysicach nag erioed bod cymunedau’n gallu dod at ei gilydd i siarad, cynllunio a chreu’r newidiadau y mae nhw eisiau eu gweld – i greu dyfodol sy’n deg, cynaliadwy, a sy’n gweithio i bawb.