Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg.
A’i fywyd yn rhychwantu hanner cyntaf oes y Tuduriaid, mae’n bosibl disgrifio Elis Gruffydd gyda gwrthddywediad ymddangosiadol a dweud ei fod yn awdur cwbl unigryw a oedd yn gwbl nodweddiadol o’i oes. Gwelir yn ei waith ysgrifenedig y pontio rhwng yr hen oes a’r newydd, wrth iddo fynd ati’n uchelgeisiol i gofnodi cymaint o wybodaeth trwy gyfrwng ei famiaith. Gan fod Elis yn sôn am ei fywyd ei hun yn ystod rhan olaf ei groncil, a ellir dweud mai hwn yw’r hunangofiant cyntaf yn yr iaith Gymraeg? Holwn hefyd pam nad oes rhagor o Gymry heddiw sy’n gwybod am yr awdur Cymraeg diddorol hwn a’i waith rhyfeddol? Ai oherwydd y ffaith ei fod yn Gymro a oedd yn deyrngar iawn i’r Frenhiniaeth Seisnig a’i byddin?