Mae’r glaw diddiwedd a ddisgynnodd ar Gymru am naw mis wedi stompio pob dôl a diflasu pob cwrcyn. Ond nid yw hynny’n ddim o’i gymharu â’r llanast sydd wedi digwydd yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y pymtheg mlynedd diwethaf wrth i un storm o lymder ddilyn y llall.
Y corff sydd wedi cael ergyd galed y tro hwn ydi’r Cyngor Llyfrau fydd yn colli 10.5% o’i gyllid. Bydd yr effaith i’w deimlo gan awduron, gweisg, siopau llyfrau a’r Cyngor ei hun heb sôn am ddarllenwyr. Go brin y bydd awduron allan ar yr heolydd yn bygwth malu eu beiros a thaflu eu gliniaduron, a phe buasen nhw’n gwneud hynny pwy fyddai’n cymryd sylw?
Ond mae gan Lywodraeth Cymru nod clodwiw i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg onid oes? Siawns nad yw annog plant a phobl i ddarllen yr heniaith yn rhan o gynllun felly? Cofiwch chi, welais i yr un cynllun, felly be wn i? A beth sy’n od ydi bod cyrff allweddol eraill sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ac o dan ofal Jeremy Miles yn yr Adran Addysg, megis y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi cael eu gwarchod i raddau. Ond gan fod grant y Cyngor Llyfrau mewn adran arall fe gollodd y dydd. Polisi cydlynol? Sgersli bilîf!
Mae’n werth ystyried sut y tanseiliwyd y corff sydd mor allweddol i gynnal ein diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Tair ffaith i chi. Mae grant y Llywodraeth i’r Cyngor Llyfrau, a thrwyddyn nhw i’r gweisg a phawb arall, bellach yr union yr un swm ag yr oedd o ugain mlynedd yn ôl. Yn y cyfamser, mae cost cyhoeddi llyfr wedi cynyddu o chwarter. Mae nifer staff y Cyngor wedi gostwng o 50 i 38 a bydd rhagor o golli swyddi yn dilyn y penderfyniad hwn. Gwneud mwy gyda llai oedd y mantra gan bob llywodraeth wrth gwtogi arian, ond jôc wael ydi hi bellach.
Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru am wneud popeth i amddiffyn y gwasanaeth iechyd problemus. A phwy all eu beio? Ond y gwir ydi nad yw’r symiau (cymharol) bitw a geir o faes y celfyddydau a diwylliant yn gwneud dim gwahaniaeth i gyllideb anferth iechyd sydd bellach yn sgiwio pob gwariant cyhoeddus arall. Mae’r llywodraeth yng Nghaerdydd yn pwyntio’r bys cyhuddgar at y Torïaid yn Llundain. Digon teg. Gwaetha’r modd mae eu harweinydd Keir Starmer wedi ymrwymo i’r un patrwm gwario â’r Ceidwadwyr am ddwy flynedd pe bai’r pleidleiswyr yn rhoi allweddi Rhif 10 yn ei ddwylo.
Mae Prydain Cyf. yn prysur droi’n fethdalwr wedi chwalfa’r banciau a’r marsiandwyr arian yn 2008 a chyflafan Brexit yn ddiweddarach. Ac eto, yn wyneb y crebachu cyson ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yr hyn sy’n od ydi bod gwerin gwlad mor ddof a digynnwrf am yr holl sefyllfa.
Alun Ffred Jones