Cyfle i glywed gan amrywiaeth o brosiectau sy’n canolbwyntio ar natur greadigol ac sy’n cefnogi iechyd a llesiant drwy ddod â chymunedau ynghyd, i helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy ac annog pobl i roi gwerth ar natur a’r awyr agored yng Nghymru drwy weithgaredd creadigol.
Ymhlith y cyfranwyr mae Cydlynydd De Cymru Small Woods/Coed Lleol Alison Moore fydd yn rhannu sut maen nhw’n cefnogi cymunedau i wella eu llesiant drwy nifer o bartneriaethau strategol gyda rhyngweithio creadigol mewn amgylcheddau naturiol, gan gynnwys partneriaeth Loteri Genedlaethol Celfyddydau ac Iechyd CCC. Byddwn hefyd yn clywed gan raglen rhagnodi gwyrdd ‘Making Well’ Sefydliad Fathom sy’n cefnogi iechyd meddwl a llesiant drwy grefftau traddodiadol, cadwraeth a myfyrdod.