Awen BRO- Llenyddiaeth Cymru yn Croesi Ffinniau
Dyma ffilm am Sue Walton, dysgwraig Gymraeg o Benrhyndeudraeth. Gyntaf i ennill lle fel gyfieithydd egin llenyddol sy’n cymeryd rhan yn Cynllun Mentora newydd Llenyddiaeth Cymru ar gyfer cyfieithydd/awdur llenyddol.
Dywedodd Myrddin ap Dafydd, awdur mae Sue wedi gweithio ar nifer o gyfrolau arno, “Ni fyddwn i yn bersonol yn dewis cyfieithydd arall ar gyfer fy ngwaith creadigol” Ac gyda’r cynllun newydd yma, mae Sue yn edrych ymlaen i gyfieithu llyfr gyntaf Sian Northey sef Yn y Tŷ Hwn.
Dyma’r ddwy yn trafod yr cynllun ac eu gwaith nhw yn lledaennu llenyddiaeth allan o Gymru fach.
Llanddafad gan Gareth Evans-Jones
Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, gyda darluniau gan Lleucu Gwenllian, yw Llyfr y Mis i Blant, mis Mawrth 2024.
Dewch i gwrdd â Bet, brenhines y defaid, Enfys, y ddafad amryliw, Seren, y ddafad lawn steil, Tomos Tatws, Mari fach, a llawer mwy! Dyma 12 stori, pob un yn canolbwyntio ar fis o’r flwyddyn.
Gareth Evans-Jones sy’n sgwrsio am ei gyfrol gyntaf i blant gyda Teleri Haf Jones.
Mynnwch gopi o’r gyfrol o’ch siop lyfrau leol.
Cerddi a Chwrw, Poems and Pints

Er mwyn helpu i godi arian ar gyfer biliau ynni Soar.
Grŵp Darllen / Reading Group

Grŵp darllen wythnosol
Pennod 36 – Elis Gruffydd (Rhan 1)
Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg.
A’i fywyd yn rhychwantu hanner cyntaf oes y Tuduriaid, mae’n bosibl disgrifio Elis Gruffydd gyda gwrthddywediad ymddangosiadol a dweud ei fod yn awdur cwbl unigryw a oedd yn gwbl nodweddiadol o’i oes. Gwelir yn ei waith ysgrifenedig y pontio rhwng yr hen oes a’r newydd, wrth iddo fynd ati’n uchelgeisiol i gofnodi cymaint o wybodaeth trwy gyfrwng ei famiaith. Gan fod Elis yn sôn am ei fywyd ei hun yn ystod rhan olaf ei groncil, a ellir dweud mai hwn yw’r hunangofiant cyntaf yn yr iaith Gymraeg? Holwn hefyd pam nad oes rhagor o Gymry heddiw sy’n gwybod am yr awdur Cymraeg diddorol hwn a’i waith rhyfeddol? Ai oherwydd y ffaith ei fod yn Gymro a oedd yn deyrngar iawn i’r Frenhiniaeth Seisnig a’i byddin?
Partneriaeth gyda QueerAF: Rwy’n rhiant anneuaidd ac ar ôl Brianna Ghey mae gen i ofn am fy mhlentyn traws

Partneriaeth gyda QueerAF: Rwy’n rhiant anneuaidd ac ar ôl Brianna Ghey mae gen i ofn am fy mhlentyn traws
Siarad Cyfrolau: Aduniad Gwobrau Tir na n-Og 2023
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2024 yr wythnos hon.
Ar bodlediad Siarad Cyfrolau, y darlunydd Valériane Leblond, awdur Alun Davies, a chadeirydd y panel beirniaid Morgan Dafydd sy’n ymuno â Francesca Sciarrillo am aduniad gwobrau Tir na n-Og 2023.
Llyfr y Flwyddyn 2024: Cyhoeddi beirniaid a lleoliad seremoni

Mae Llenyddiaeth Cymru wrth ein boddau i gyhoeddi beirniaid a lleoliad seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2024.
Disgyblion Pencerdd 2024-25

Mae pum bardd wedi eu dethol ar gyfer rhaglen gyntaf Pencerdd, a braint aruthrol yw cyhoeddi eu henwau.
Cyllid a’r Gymraeg – toriadau anghyson?

DARLLEN AM DDIM
Pennod 35 – Gwydnwch Hen Draddodiad
Pennod 35 (cyfres 2, pennod 2)
Roedd y bennod ddiwethaf yn amlinellu’r newidiadau mawr a ddaeth yn ystod oes y Tuduriaid. Mae’r bennod hon yn ystyried effaith rhai o’r newidiadau hyn ar y traddodiad barddol Cymraeg. Ond er gwaethaf yr holl drawsffurfiadau, gwelwn wrth graffu ar ychydig o ganu mawl o ddechrau’r cyfnod fod nifer o agweddau hynafol ar y traddodiad yn parhau wrth i’r traddodiad hwnnw esblygu ac amsugno elfennau newydd.
Yn sicr, cyfuniad o’r hen a’r newydd yw’r hyn sy’n gwneud y cyfnod hwn yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mor ddiddorol. Er bod pob rhan o Gymru wedi’i hail-lunio ar ffurf siroedd Seisnig yn ystod teyrnasiad Harri VIII, nodwn fod y gyfundrefn farddol Gymraeg yn parhau i feddwl am ddaearyddiaeth y wlad mewn dull Cymreig hynafol. Ac er gwaethaf awgrym rhai haneswyr Protestannaidd a awgrymai fod mynachdai Cymru’n sefydliadau pydredig erbyn iddynt gael eu diddymu gan Harri VIII, gwelwn fod rhai ohonynt wedi parhau’n ganolfannau diwylliannol a chrefyddol bywiog hyd at y diwedd.
Y Rhifyn Di-Drefn
Colli’r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey, Aled Jones a Manon Steffan Ros.
Pedwar awdur sy’n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.
Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
Safana – Jerry Hunter
Mymryn Rhyddid – Gruffudd Owen
Drift – Caryl Lewis
The Soul of a Woman – Isabel Allende
Gut – Giulia Enders
O Ddawns i Ddawns – Gareth F. Williams
Dying of politeness – Geena Davies
The Bee Sting – Paul Murray
Yellowface – R. F. Kuang
Y Castell ar y Dŵr – Rebecca Thomas
Y LLyfr – Gareth yr Orangutang
Pony – R.J. Palacio
Llygad Dieithryn – Simon Chandler
Gwibdaith Elliw – Ian Richards
Charles and the Welsh Revolt – Arwel Vittle
Killing Floor – Lee Child
Die Trying – Lee Child
Riding With The Rocketmen – James Witts
Encil Preswyl Kathod

Mae Llenyddiaeth Cymru a phrosiect Kathod yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r deg artist sydd wedi eu dethol i fynychu Encil Kathod.
Pennod 34 – Cyfnod Newydd?
Dyma bennod gyntaf ail gyfres ‘Yr Hen Iaith’! Dechreuwn drafod llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ystyried y datblygiadau hynny sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr Oesau Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o’r pethau sydd mor ddiddorol am y cyfnod hwn yw’r modd y gwelwn feirdd ac awduron Cymraeg yn ymaddasu ac yn ymateb wrth i gymdeithas newid yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg.
Ni ellir gwadu bod datblygiadau gwleidyddol, technolegol, crefyddol ac addysgiadol wedi cyfuno i drawsffurfio cymdeithas Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Ond pwysleisiwn hefyd fod llenyddiaeth Gymraeg yn datblygu yn ei ffordd unigryw ei hun a bod cryfder traddodiad yn ein galluogi i weld y ‘cyfnodoli’ hwn mewn golau holl wahanol!
Sgwennu’n Well: Cyhoeddi Mentoriaid | Writing Well: Announcing the Mentors

Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen 12 mis mewn dwy ran ar gyfer ymarferwyr llenyddol yng Nghymru. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda’r nod o wella’r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned. Bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr. Darllen mwy am y rhaglen.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r 6 artist cyfranogol profiadol a fydd yn darparu mentora i garfan bresennol Sgwennu’n Well:
Dr Tracy Breathnach
Iola Ynyr
Christina Thatcher
Kittie Belltree
Cecilia Knapp
clare.e.potter.
Sut i Drefnu Priodas Pum Mil – Trystan Ellis-Morris, Emma Walford ac Alaw Griffiths

Sut i Drefnu Priodas Pum Mil gan Trystan Ellis-Morris, Emma Walford ac Alaw Griffiths yw Llyfr y Mis, mis Chwefror.
Rydym yn agored i geisiadau

Rwy’n bwriadu comisiynu awduron LGBTQ+ sy’n ymdrin â diwylliant queer, o gyfweliadau i erthyglau nodwedd ac adolygiadau i bethau newydd sbon.
Email Damian Kerlin – hello@damiankerlin.com 📧
Aberration presents Double Lives

Aberration celebrates LGBTQ+ History Month with ‘Double Lives’ – an enthralling evening of talks and performances. All welcome.
Groundbreaking performer Tom Marshman presents painful, beautiful and hilarious anecdotes from his new theatre piece about Section 28 (the infamous 1988 law that banned schools and councils from ‘promoting homosexuality’). Historian Norena Shopland and Aberration’s own Jane Hoy bring to life Katherine Philips, the 17C woman-loving poet known as the Welsh Sappho (now poster girl for Double Lives!). Archaeologist Alessandro Ceccarelli shows how objects in Welsh collections can cast light on LGBTQ+ desire, love and identities. And author Alis Hawkins talks about her gripping new crime novel A Bitter Remedy with our host Helen Sandler. Plus bookstall from Gayberystwyth Books, and raffle for AllOut.
‘Aberystwyth’s finest queer night’ – Alys Fowler in the Guardian
Generously supported by Aberystwyth University.
Y Twyll AI Fawr

Mae Cheryl Morgan yn sgwennu am y peryglon o ddefnyddio AI mewn newyddiaduraeth
The People’s Newsroom

Mae’r storiâu rydym yn adrodd i’n gilydd yn dangos beth sydd yn bosib rhyngom. Maen nhw’n ein galluogi i weld ffyrdd newydd o berthyn i a bodoli yn y byd, gyda’n gilydd a gyda natur. Rydym yn credu bod dweud straeon ar y cyd at wraidd y newidiadau trawsnewidiol sydd angen ar ein cymdeithas. Dyna […]
Sebra

Mae llyfrau Sebra’n diddanu, yn herio ac yn dod â safbwynt ffres a chyfoes fydd yn berthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r streipiau sydd ar gorff pob sebra yn unigryw. Ein nod ninnau yw dod â rhywbeth newydd i ddarllenwyr fydd yn eu hannog i gamu i’r annisgwyl gyda ni.
Y Fainc Ffrindiau gan Wendy Meddour a Daniel Egnéus

Y Fainc Ffrindiau gan Wendy Meddour a Daniel Egnéus yw Llyfr y Mis i Blant.
Mae Tes a’i chi Cysgod wedi symud ty. Ond pan mae Tes yn dechrau mewn ysgol newydd, rhaid i Cysgod aros y tu allan, a Tes yn gorfod chwarae ar ei phen ei hun.
Felly mae athro Tes yn dweud wrthi am roi cynnig ar Y Fainc Ffrindiau – ond mae rhywun arall yn eistedd arni’n barod …
Addasiad Manon Steffan Ros o stori dyner a gobeithiol am wneud ffrindiau newydd ac am bwysigrwydd cyfeillgarwch.
Pennod 33 – Cyflwyno’r Ail Gyfres

Dyma edrych ymlaen at yr ail gyfres a fydd yn canolbwyntio ar lenyddiaeth y cyfnod modern cyntaf, gan ddechrau gyda’r trawsffurfiadau heriol a ddaeth yn oes y Tuduriaid.
Rhoi’r gwas newydd yn y glorian

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ddyrchafu’n arweinydd Plaid Cymru mewn amgylchiadau annisgwyl. Craffu ar y modd y mae wedi ymgodymu â’r her honno a wna ein colofnydd y mis hwn.
Blwyddyn Newydd a chyngor i awduron newydd
Dyma rifyn newydd ar gyfer y flwyddyn newydd. Mae Merched Meirionnydd yn cael cinio cudd ac yr ydym yn ateb cwestiwn gan wrandäwr sydd yn gofyn am gyngor i awduron newydd.
Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
Trothwy – Iwan Rhys
Pryfed Undydd – Andrew Teilo
Y Cylch – Gareth Evans Jones
Wild – Cheryl Strayed
Pony – R J Palacio
Pollyanna – Eleanor H. Porter
Helfa – Llwyd Owen
Gwibdaith Elliw – Ian Richards
Salem – Haf Llewelyn
Y Delyn Aur – Malachy Edwards
Born a Crime – Trevor Noah
The Old Chief Mshlanga – Doris Lessing
Dan Y Dŵr – John Alwyn Griffith
A Terrible Kindness – Jo Browning Wroe
Bikepacking Wales – Emma Kingston
The Folklore of Wales: Ghosts – Delyth Badder a Mark Norman
Y Llyfr – Gareth Yr Orangutan
Dal Arni – Iwan ‘Iwcs’ Roberts
The Last Devil To Die – Richard Osman
ImpactArdawiad – Angharad Pearce Jones
ImpactArdawiad gan Angharad Pearce Jones yw un o lyfrau’r mis, mis Ionawr.
Dyma gyfrol sy’n dathlu gwaith yr artist Angharad Pearce Jones, ond hefyd yn gydymaith i’w harddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ImpactArdawiad.
Gyda chyfraniadau gan Ffion Rhys, Dylan Huw, Beca Brown, Ali Anwar yn ogystal ag Angharad Pearce Jones yn ei geiriau ei hun.
Mwy am Angharad Pearce Jones ac ImpactArdawiad, yn y ffilm arbennig hon gan Y Wladfa Newydd, rennir gyda chaniatad arbennig.
Y gyfrol ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Sgwrs Llwyd Owen
Llwyd Owen yw’r gwestai diweddaraf ar Colli’r Plot wrth i Manon clywed am y nofel ddiweddaraf, Helfa.
Pam mae Llwyd yn ysgrifennu? Beth yw’r dylanwadau arno? Sut mae creu nofelau tywyll llawn tensiwn?
Sgwrs difyr a hwyliog.
RHYBUDD: IAITH GREF!
Pennod 32 – Diwedd yr Oesau Canol

The End of the Middle Ages
Here we reach the end of our first series and hear that Richard Wyn Jones’s llên-barrassment has reduced a bit. Also, although we have finished discussing the Middle Ages, Jerry Hunter emphasizes that the history of Welsh literature is unique and has developed in a unique way.
Broga Bach Heglog (Darlleniad)
Red Is Home (Reading)
Prynwch eich copi yma!
Be Sy’n Digwydd // What’s On

Digwyddiadau diweddaraf Graffeg!
Caru Darllen: Sgyrsiau 2023
Mewn pennod arbennig o’n podlediad, Mari Siôn sy’n rhannu pigion o rai o sgyrsiau 2023, yn cynnwys sgyrsiau gyda:
- Nia Peris a Dorian Morgan
- Elen Ifan a Dyfan Lewis
- Myfanwy Alexander a Dyfed Edwards
- Gwenllian Ellis a Ffion Enlli
- Guto Dafydd a Malachy Edwards
- Mari George ac Iwan Rhys
Cynhyrchir y podlediad gan Dylan Jenkins.
Pennod 31 – Yr Eisteddfodau Cynharaf ac Addysg y Beirdd

Dyma bennod fyw arbennig a recordiwyd ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a pha beth gwell i’w drafod ar y maes ym Moduan na hanes yr eisteddfodau cynharaf?!
A yw’n bosib gweld ‘Gwledd Arbenning’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 fel yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd? Ac wrth drafod eisteddfod a gynhaliwyd tua chanol y 15fed ganrif, rydym ni’n archwilio’r cysylltiad rhwng yr eisteddfodau cynnar hyn a’r modd yr oedd dysg y beirdd yn cael ei thraddodi, ei diogelu a’i rheoli. Beth yw arwyddocâd y ‘gramadegau barddol’ sydd wedi goroesi mewn llawysgrifau, a beth yw hanes y term rhyfedd hwnnw, ‘dwned’, sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio testun o’r fath weithiau?
Gyda golwg ar gyfres nesaf y podlediad – a fydd yn craffu ar lenyddiaeth Gymraeg yr 16fed ganrif – trafodwn yr eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghaerwys yn yn ystod y ganrif honno a’r ddogfen ddiddorol honno a gysylltir ag Eisteddfod gyntaf Caerwys, ‘Statud Gruffudd ap Cynan.’ Nodwn ei bod yn bosib weld yr holl reoleiddio hwn mewn dwy ffordd hollol wahanol – fel arwydd o gryfder, yn cadarnhau statws a phwysigrwydd yr hen gyfundrefn farddol Gymraeg, neu fel arwydd o wendid, gan fod ffynonellau nawdd yn crebachu yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Ac beth fyddai beirdd Cymraeg yr 21fed ganrif yn meddwl am y modd y mae’r ‘Statud’ yn gwahardd beirdd rhag mynychu tafarndai?!
Pennod 30: ‘Gwledd hyd y gogledd o gig’: Y Cywyddau Brud

Ar wahân i bennod arbennig a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gaiff ei darlledu nesaf, hon yw pennod olaf cyfres gyntaf Yr Hen Iaith.
Rydym ni’n gorffen trafod llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a daw llawer o themâu’r gyfres ynghyd wrth i ni ystyried cywyddau brud yn gysylltiedig â ‘Rhyfel y Rhos’. Ystyr ‘brud’ yw proffwydodliaeth, a chawn gyfle i egluro bod gan yr hen Gymry ddull arbennig o weld cysylltiadau rhwng hanes, presennol a dyfodol y genedl Gymreig. Rhyfel rhwng teulu Lancaster a theulu York am goron Loegr ydoedd, a ddaeth i ben yn 1485 gyda buddugoliaeth y Cymro Harri Tudur a aeth yn Harri VII. Ond, er eu bod yn cefnogi ymgeiswyr go iawn am y goron, roedd y beirdd proffwydol hyn yn aml yn darlunio’r rhyfel mewn dull hynafol a dwfn fel ymrafael rhwng y Cymry a’u hen elynion y Saeson.
Craffwn yn benodol o waith Dafydd Llwyd o Fathafarn, gan ystyried nifer o gywyddau sy’n dangos y modd y defnyddiodd draddodiadau hynafol i drafod gwleidyddiaeth gyfoes gan oedi dipyn ynghylch cerdd isaol o waedlyd, ei ymddiddan â’r Gigfran. Dyma gyfle i archwilio cysyniadau mawr, gan gynnwys ‘proto-genedlaetholdeb cyn-fodern’ a pharhâd traddodiad
Llyfr – anrheg i’w hagor dro ar ôl tro: Llyfrau i Oedolion

Dyma ambell awgrym o lyfrau Cymraeg fyddai’n gwneud anrhegion gwych i oedolion.
Llyfrau’r Flwyddyn
Trafod y llyfrau wnaethon ni mwynhau yn ystod y flwyddyn a cheisio creu ein rhestr Llyfr Y Flwyddyn.Sut mae cyfieithu i BT yn ennill ‘kudos’ a fel y disgwyl mae’r podlediad llawn hwyl yr wyl .
Llyfrau 2023:
Siân
Llyfr Y Flwyddyn – Mari Emlyn
Prophet Song – Paul Lynch
Aled
Y Bwthyn – Caryl Lewis
And Away – Bob Mortimer
Bethan
Sut i Ddofi Coryn – Mari George
Lessons in Chemistry – Bonnie Garmus
Dafydd
Sut i Ddofi Coryn – Mari George
A Terrible Kindness – Jo Browning Wroe
Manon
Llyfr Y Flwyddyn – Mari Emlyn
The Folklore of Wales: Ghosts – Delyth Badder, Mark Norman
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
Sut i Ddofi Coryn – Mari George
The Rich – Rachel Lynch
Dathlu – Rhian Cadwaladr
I Let You Go – Clare Mackintosh
Cregyn ar y Traeth – Margaret Pritchard
Dros fy mhen a nghlustiau – Marlyn Samuel
A Little life – Hania Yanagihara
Rhwng Bethlehem a’r Groes – Barry Archie Jones
Pryfed Undydd – Andrew Teilo
Y Cylch – Gareth Evans Jones
The Christmas Guest – Peter Swanson
Sian Phillips – Hywel Gwynfryn
Gwreiddio – straeon byrion – amrywiol awduron
A Christmas Carol – Charles Dickens
Plant Annwfn – DG Merfyn Jones
Alone – Kenneth Milligan
Llyfr – anrheg i’w hagor dro ar ôl tro: Llyfrau i bobl sy’n dysgu Cymraeg

Francesca Sciarrillo sy’n rhannu ambell awgrym o lyfrau fyddai’n gwneud anrhegion gwych i bobl sy’n dysgu Cymraeg.
Adolygiad y Flwyddyn 2023

Mae’n amser i edrych yn ôl ar flwyddyn brysur, gyffrous a hynod werth chweil i Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru
Enaid y Ddinas gan Awduron Amrywiol, lluniau Richard Outram

Enaid y Ddinas yw Llyfr y Mis, mis Rhagfyr.
Cerddi, ysgrifau a darnau creadigol am Gaeryddd gan awduron y mae’r Brifddinas wedi chwarae rhan bwysig yn eu bywydau, a ffotograffau yn ymateb i’r testun gan Richard Outram.
Y cyfranwyr yw: Ffion Dafis, Huw Llywelyn Davies, Beti George, Hanan Issa, Carwyn Jones, Dafydd Llewelyn, Gareth Potter, Rebecca Thomas ac Ali Yassine.
Hynt y Ceidwadwyr Cymreig ers datganoli – a beth nesaf?

Ar ôl cyfnodau o bendilio rhwng cefnogi’r gyfundrefn ddatganoledig a chofleidio’r Undeb yn dynn, mae’r Torïaid erbyn hyn ar eu mwyaf Prydeinig ac yn awchu am danseilio ymdrechion llywodraethau Caerdydd a Chaeredin i wneud pethau’n wahanol i San Steffan. Undod y Deyrnas Gyfunol sydd bwysicaf o ddigon yn eu golwg.
CWIS i’n darllenwyr – GWOBR: Gwaith celf ysbrydoledig o Orielodl

Artist o Bontarddulais yw Rhys Padarn Jones a bydd enillydd y Cwis yn derbyn taleb werth £50 i’w gwario ar nwyddau o’u dewis. Ewch i’w wefan orielodl.com i weld y dewis gwych o bethau sydd ar gael, yn brintiau, posteri, cardiau, jig-sôs a llawer mwy.
Mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r rhifyn hwn o BARN dim ond i chi ddarllen yn fanwl. Nid yw’r erthyglau o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.
Anfonwch eich atebion at:
Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin SA31 3EQ gyda’ch enw, cyfeiriad post ac e-bost neu at swyddfa@barn.cymru erbyn 5 Chwefror 2024.
Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn rhifyn Mawrth.
Pennod 29 – Gwin, Arch a Diwedd Oes: Guto’r Glyn

Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rhyfela’r oes.
Yn arbenigo ar y cywydd mawl, mae dros gant o’i gerddi wedi goroesi, ac mae’r corff mawr hwn o farddoniaeth yn ffynhonnell bwysig iawn er mwyn deall y traddodiad barddol ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Er na chanodd am serch a natur fel llawer o’r cywyddwyr eraill, roedd ei ganu mawl yn amrywio’n fawr ac yn gallu bod yn ddyfeisgar iawn. Disgrifia un o’i gerddi frwydr rhwng y beirdd a gwin yn llys eu noddwr, wrth iddyn nhw fynd ati am y gorau i wagio seleri’r uchelwr. Trafodwn ei farwnad ddwy i fardd arall, Llywelyn ab y Moel, a chywydd a ganodd Guto ddiwedd ei oes, cerdd ryfeddol sy’n dangos y bardd fel hen ŵr yn aflonyddu ar y mynaich a oedd yn gofalu amdano.
Ble Wyt ti Bwci Bo? gan Joanna Davies a Steven Goldstone

Ble Wyt ti Bwci Bo? / Where are you Bwci Bo? gan Joanna Davies a Steven Goldstone yw Llyfr y Mis i Blant, mis Rhagfyr.
Caru Darllen: Mari George ac Iwan Rhys
Mari George ac Iwan Rhys sy’n trafod llyfrau gyda Mari Sion.
Mae Sut i Ddofi Corryn gan Mari George a Trowthy gan Iwan Rhys ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Beth yw pwrpas lansiad llyfr?
Mae ‘na wledd o lyfrau yn Colli’r Plot Tachwedd. Trafod y Rhinoseros yn
yr ystafell, canmoliaeth ar gyfer Sut i Ddofi Corryn a beth yw pwrpas
lansiad llyfr?
Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
The Warehouse – Rob Hart
Dros fy mhen a ‘nglustia – Marlyn Samuel
The Year of Yes – Shonda Rhimes
The Darkness – Ragnar Jónasson
The Mist – Ragnar Jónasson
Tom’s Midnight Garden – Philippa Pearce
Gwreiddio – straeon byrion – amrywiol awduron
Coblyn o Sioe – Myfanwy Alexander
Bullet in the brain – Tobias Wolff (stori fer)
I am Pilgrim – Terry Hayes.
The Martian Chronicles & Dandelion Wine – Ray Bradbury
Sut i Ddofi Corryn – Mari George
Hiwmor Tri Chardi Llengar – Geraint H. Jenkins
Unruly – David Mitchell
The Sanatorium – Sarah Pearse
Pryfed Undydd – Andrew Teilo
O Glust i Glust – Llwyd Owen
Darogan – Siân Llywelyn
Isaac and the egg – Bobby Palmer
Welsh Rugby: What Went Wrong – Seimon Williams
How to Win Friends and Influence People – Dale Carnegie
Cyfres Rwdlan – Angharad Tomos
Dewch i adnabod Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025.

Cyfweliad gyda Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025.
Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol.
Tymor yr Afalau – Nia Morais

Gwyliwch Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025, yn adrodd ei cherdd ‘Tymor yr Afalau’.
Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol.
I Don’t Want to Write a Poem – Alex Wharton

Gwyliwch Children’s Laureate Wales 2023-2025, Alex Wharton, yn darllen ei gerdd ‘I don’t want to write a poem’.
Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r nod o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth.