Dyma bennod fyw arbennig a recordiwyd ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a pha beth gwell i’w drafod ar y maes ym Moduan na hanes yr eisteddfodau cynharaf?!
A yw’n bosib gweld ‘Gwledd Arbenning’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 fel yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd? Ac wrth drafod eisteddfod a gynhaliwyd tua chanol y 15fed ganrif, rydym ni’n archwilio’r cysylltiad rhwng yr eisteddfodau cynnar hyn a’r modd yr oedd dysg y beirdd yn cael ei thraddodi, ei diogelu a’i rheoli. Beth yw arwyddocâd y ‘gramadegau barddol’ sydd wedi goroesi mewn llawysgrifau, a beth yw hanes y term rhyfedd hwnnw, ‘dwned’, sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio testun o’r fath weithiau?
Gyda golwg ar gyfres nesaf y podlediad – a fydd yn craffu ar lenyddiaeth Gymraeg yr 16fed ganrif – trafodwn yr eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghaerwys yn yn ystod y ganrif honno a’r ddogfen ddiddorol honno a gysylltir ag Eisteddfod gyntaf Caerwys, ‘Statud Gruffudd ap Cynan.’ Nodwn ei bod yn bosib weld yr holl reoleiddio hwn mewn dwy ffordd hollol wahanol – fel arwydd o gryfder, yn cadarnhau statws a phwysigrwydd yr hen gyfundrefn farddol Gymraeg, neu fel arwydd o wendid, gan fod ffynonellau nawdd yn crebachu yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Ac beth fyddai beirdd Cymraeg yr 21fed ganrif yn meddwl am y modd y mae’r ‘Statud’ yn gwahardd beirdd rhag mynychu tafarndai?!