Cartref digidol diwylliant Cymru.

Llyfr – anrheg i’w hagor dro ar ôl tro: Llyfrau i bobl sy’n dysgu Cymraeg

Llenyddiaeth

Francesca Sciarrillo sy’n rhannu ambell awgrym o lyfrau fyddai’n gwneud anrhegion gwych i bobl sy’n dysgu Cymraeg. 

Byd Bach gan Esyllt Maelor (Y Lolfa)
Cyfrol o straeon ar gyfer dysgwyr Lefel Mynediad. Mae geirfa ar waelod pob tudalen ac ar ddiwedd y gyfrol. Mae’r straeon yn mynd i dywys y darllenydd i bob math o leoedd annisgwyl ac i bob math o sefyllfaoedd chwithig sy’n codi embaras neu groen gŵydd.

Teithio drwy Hanes gan Jon Gower (CAA Cymru)
Mae Jon Gower yn mynd â’r darllenydd i 30 o leoliadau sy’n gysylltiedig â hanes Cymru. Mae’n esbonio pam mae’r lleoliadau yn bwysig yn hanes Cymru, ac mae’n disgrifio eu harddwch a’u naws yn ei ffordd arbennig ei hun

Y Daith – Storïau i Ddysgwyr gan Ddysgwyr gan Awduron Amrywiol (Y Lolfa)
Casgliad o 10 stori fer i ddysgwyr gan ddysgwyr. Mae gan bob stori dro yn ei chynffon. Fe fyddan nhw’n addas ar gyfer dysgwyr Canolradd. 

Cyffesion Saesnes yng Nghymru gan Sarah Reynolds (Atebol)
Mae Katie newydd symud i Gymru gyda’i gŵr newydd, Dylan. Yn ôl Dylan roedden nhw am fyw mewn tŷ enfawr, ond mae pethau’n mynd o chwith ac mae’n rhaid i’r ddau symud i fyw gyda’i rieni. Sut fydd teulu Dylan yn ymdopi gyda Saesnes hollol ddi-glem yn eu plith? Nofel addas i Ddysgwyr Lefel Uwch.

Gwledd gan Lowri Haf Cooke (Y Lolfa)
Dyma stori deg o gwmnïau bwyd a diod mwyaf blaenllaw Cymru. Mae’r awdur wedi teithio ledled Cymru i sgwrsio â pherchnogion i gael hanes personol a difyr sefydlu eu busnes bwyd a diod – Halen Môn, Cwrw Llŷn, Coffi Ffa Da, Crwst, Jin Talog, Gwenyn Gruffydd, Edwards o Gonwy, Ffwrnes, Llaeth Teulu Jenkins a Pant Du.

Aduniad gan Elidir Jones (Y Lolfa)
Pan mae pedwar hen ffrind coleg yn mynd i wersylla yng Nghwm Darran, mae un ohonyn nhw’n mynd ar goll dros nos. Ac mae pethau’n gwaethygu’n gyflym! Stori arswyd a fydd yn siŵr o roi ias i lawr eich asgwrn cefn!

Fi a Mr Huws gan Mared Lewis (Y Lolfa)
Mae unig fab Ben a Lena wedi gadael am y brifysgol am y tro cyntaf ac mae hynny’n gosod straen ar eu perthynas ac yn codi cwestiynau am eu dyfodol. Mae amheuon yn codi ac mae cyfrinachau’n dod i’r amlwg. 

O’r cyrion gan Ioan Kidd (Gomer)
Casgliad o straeon byrion gafaelgar. Ceir yma straeon wedi’u seilio ar themâu cyffredin, megis y natur ddynol, rhagrith, twyll a hunan-dwyll, perthynas dyn â’i gyd-ddyn, – ond mewn cyd-destunau amrywiol iawn, ac mewn arddull gynnil a chan ddefnyddio ymadroddion bachog.

Nadolig, Pwy a Ŵyr? gan Awduron Amrywiol (Gwasg y Bwthyn)
Cyfrol o straeon byrion i gyd yn ymwneud â’r Nadolig. Mae’r deg awdur wedi dilyn eu cwys eu hunain, ac mae’r amrywiaeth a’u dawn sgrifennu wedi sicrhau bod hon yn gyfrol gofiadwy. Yr awduron ydi Siân Northey, Meg Elis, Jon Gower, Gwen Parrott, Mared Lewis, Mari Elin Jones, Bethan Jones Parry, Menna Medi, Gareth Evans Jones a Ioan Kidd.

Dathlu! gan Rhian Cadwaladr (Gwasg Carreg Gwalch)
Ar drothwy eu pen-blwyddi yn 60 oed, mae pedair o ffrindiau oes yn mentro ar daith arbennig. Ond a hwythau wedi byw bywydau gwahanol iawn, a fydd chwarae’n troi’n chwerw? 

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH