Cartref digidol diwylliant Cymru.

Llyfr – anrheg i’w hagor dro ar ôl tro: Llyfrau i Oedolion

Llenyddiaeth

Dyma ambell awgrym o lyfrau Cymraeg fyddai’n gwneud anrhegion gwych i oedolion.

Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+ – gol. Gareth Evans Jones (Barddas)
Blodeugerdd flaengar a chyffrous. Gareth Evans-Jones yw’r golygydd deheuig sydd wedi casglu’r amrywiaeth trawiadol o brofiadau LHDTC+ ynghyd.

Gwawrio – Tegwen Bruce-Deans (Barddas)
Casgliad o gerddi disglair sy’n gwthio eu pelydrau drwy lenni ein llên. Dyma lais cynnes a beiddgar sy’n meiddio aflonyddu’r llwch a gwerthfawrogi’r pethau bychain.

Gororion – Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)
Wyth o wibdeithiau llenyddol sy’n codi cwr y llen ar berthynas llên Cymru ac Ewrop. Anturiwn ar yr Orient Express yng nghwmni T. H. Parry-Williams, myfyrio am Gymru a’r iaith Gymraeg mewn gwinllan ar gyrion Rhufain, a darganfod dolen gyswllt annisgwyl rhwng sir Drefaldwyn a Frankfurt am Main.

Y Delyn Aur – Malachy Edwards (Gwasg y Bwthyn)
Cofiant sy’n ein tywys ar daith ddadlennol a phersonol. Mae Malachy Edwards yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados.

Enaid y Ddinas – Awduron amrywiol (Gwasg Carreg Gwalch)
Cerddi, ysgrifau a darnau creadigol am Gaerdydd gan Ffion Dafis, Huw Llywelyn Davies, Beti George, Hanan Issa, Carwyn Jones, Dafydd Llewelyn, Gareth Potter, Rebecca Thomas ac Ali Yassine, gyda ffotograffau yn ymateb i’r testun gan Richard Outram. 

Cymru Gudd – Dylan Arnold (Y Lolfa)
Cyfrol ffotograffiaeth am yr amser a fu yw Cymru Gudd. Ceir lluniau a hanesion am leoliadau difyr ac unigryw yng Nghymru – yn adeiladau segur ac adfeilion anghofiedig. Mae’r lluniau yn atmosfferig a cheir hanes personol i bob un. 

Sut i Ddofi Corryn – Mari George (Sebra)
Stori Muriel sydd yma, a’i thaith arwrol i geisio cael gwellhad i’w gŵr, Ken. Ond dechrau’r daith yw’r Muriel ifanc, tair ar ddeg oed, pan ddaw hi o hyd i’r llyfr hynafol, Llyfr Corynnod y Mwmbwls. Nofel ddeallus a dychmygus.

Y Cylch – Gareth Evans Jones (Gwasg y Bwthyn)
Nofel gyfoes, wreiddiol sy’n ein dwyn i ganol bywyd goruwchnaturiol cwfen o wrachod ym Mangor. Wrth iddynt geisio darganfod llofrudd, deuwn i sylweddoli nad ydi bywyd gwrach gyfoes yn un hawdd! Ffantasi, hiwmor a sawl tro yn y gynffon. 

Pryfed Undydd – Andrew Teilo (Y Lolfa)
Casgliad o straeon byrion gan Andrew Teilo – storïau sydd yn pendilio rhwng yr ysgafn a’r dwys, y real a’r goruwchnaturiol. Dyma awdur sy’n rhoi ei gymeriadau ar y dibyn, ac yn eu gorfodi i wneud dewisiadau arwyddocaol. 

Porth – Luned Aaron (Y Lolfa)
Cyfrol o straeon byrion dinesig. Dyma straeon sy’n cyfuno elfennau treiddgar ac ysgafn ac sy’n rhoi cipolwg ar fywydau amrywiol yn y Gymru gyfoes, o brofiadau ymgeisydd lloches i fam brysur mewn penbleth. 

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH