Ar wahân i bennod arbennig a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gaiff ei darlledu nesaf, hon yw pennod olaf cyfres gyntaf Yr Hen Iaith.
Rydym ni’n gorffen trafod llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a daw llawer o themâu’r gyfres ynghyd wrth i ni ystyried cywyddau brud yn gysylltiedig â ‘Rhyfel y Rhos’. Ystyr ‘brud’ yw proffwydodliaeth, a chawn gyfle i egluro bod gan yr hen Gymry ddull arbennig o weld cysylltiadau rhwng hanes, presennol a dyfodol y genedl Gymreig. Rhyfel rhwng teulu Lancaster a theulu York am goron Loegr ydoedd, a ddaeth i ben yn 1485 gyda buddugoliaeth y Cymro Harri Tudur a aeth yn Harri VII. Ond, er eu bod yn cefnogi ymgeiswyr go iawn am y goron, roedd y beirdd proffwydol hyn yn aml yn darlunio’r rhyfel mewn dull hynafol a dwfn fel ymrafael rhwng y Cymry a’u hen elynion y Saeson.
Craffwn yn benodol o waith Dafydd Llwyd o Fathafarn, gan ystyried nifer o gywyddau sy’n dangos y modd y defnyddiodd draddodiadau hynafol i drafod gwleidyddiaeth gyfoes gan oedi dipyn ynghylch cerdd isaol o waedlyd, ei ymddiddan â’r Gigfran. Dyma gyfle i archwilio cysyniadau mawr, gan gynnwys ‘proto-genedlaetholdeb cyn-fodern’ a pharhâd traddodiad