MR PHORMULA : Gweithdy Beatboxing Workshop
Ar 18fed Ebrill mae Celfyddydau Span yn cyflwyno gweithdy ar-lein gyda Mr Phormula trwy YouTube o’i stiwdio gartref!
Bydd y linc i’r ffrwd fyw ar YouTube ar gael 15 munud cyn i’r gweithdy gael ei gynnal. Bydd cyfle i sgwrsio’n fyw gyda’r artist trwy YouTube live chat.
Mae Mr Phormula yn un o arloeswyr y sîn bît-bocsio yn y DU. Wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhirwedd Cymru, mae’i berfformiadau ysbrydoledig a’i gyfansoddiadau lleisiol wedi rhoi cydnabyddiaeth ryngwladol i’w waith fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw. Mae 13 mlynedd brofiad o weithio mewn amgylchedd addysgol wedi rhoi Mr Phormula yn y blaen efo gweithdai beatbocsio a rap dwyieithog.
Annibyniaeth
God is in the TV

Mae God is in The TV yn ffansîn cerddoriaeth a diwylliant a ffurfiwyd gan y golygydd Bill Cummings yng Nghaerdydd yn 2003. Datblygodd Bill y wefan gyda chymorth tîm o olygyddion ac ysgrifennwyr o bob cwr o Brydain yn adlewyrchu ystod eang o gerddoriaeth newydd a hen.
Ethos craidd God is in the TV yw rhoi platfform annibynol i ffans cerddoriaeth, ysgrifennwyr ac artistiaid waeth bynnag natur na statws eu cerddoriaeth. Rydym yn gwahodd cyfraniadau gan newyddiadurwyr amatur a phroffesiynol gan roi iddynt ryddid i fynegi eu hunain ar y wefan yn adolygu ac asesu y recordiau diweddaraf.
Dros y blynyddoedd mae God is in the TV wedi hyrwyddo gigs, rhyddhau CD aml-gyfrannog a chyfres o senglau i’w lawrlwytho a chefnogi nifer o artistiaid mawr ar gychwyn eu gyrfaeodd.
Sesiwn Fawr Dolgellau

Mae Sesiwn Fawr yn ŵyl blynyddol sy’n denu miloedd o bobl i Ddolgellau i fwynhau y gorau o gerddoriaeth gwerin a cherddoriaeth Cymraeg, yn ogystal â dawns, llenyddiaeth, gweithgareddau i blant, comedi, bwyd a diod. Mae’r ŵyl yn llenwi pob twll a chongl Dolgellau yn ystod y penwythnos, gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn amryw leoliadau, ac yn llwyddo i ddenu artistiaid gwerin a Chymraeg o’r radd flaenaf i’r dref.
Bryn Rock Records

Label recordio annibynnol Cymraeg.
Trwbz – Yn y Dechrau
SAIN

SAIN – Prif Gwmni Recordio Cymru
Sefydlwyd Sain yn 1969 gan Dafydd Iwan, Huw Jones a Brian Morgan Edwards a chyhoeddwyd y record cyntaf ar y label, ‘Dŵr’ gan Huw Jones, ar Hydref 9fed y flwyddyn honno. Recordiwyd nifer o ganeuon cynnar y label yn Stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy ac yna yn 1975, agorwyd stiwdio gyntaf Sain ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog. Yn y cyfnod cynnar roedd y pwyslais ar ganu’r ifanc, canu pop a gwerin a chanu protest. Erbyn heddiw cyhoeddir pob math o gerddoriaeth ar y label o werin i roc ac o glasurol i ganu gwlad. Symudodd y stiwdio a swyddfeydd y cwmni i’w safle presennol yn Llandwrog yn 1980 ac mae’r gerddoriaeth a’r cyhoeddi’n parhau.
Bu 2019 yn garreg filltir arbennig i Sain ac yn gyfle i ddathlu hanner canrif o recordio a chyhoeddi. Mae archif y cwmni yn drysor cenedlaethol a braf, gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri, oedd gallu gwahodd y cyhoedd, gwirfoddolwyr o’r gymued a chynulleidfa cerddoriaeth Sain dros y blynyddoedd, i ymuno â ni i weithio ar brosiect Sain 50 – prosiect a fu’n archwilio’r archif gerddorol ac yna ei chyflwyno ar ffurf arddangosfa a gweithdai.
Mae Sain wedi bod yn gyfeiliant i fywydau pobl Cymru ers diwedd y 60au a’r gerddoriaeth a’r caneuon yn drac sain i gyfnodau amrywiol yn ein hanes. Edrychwn ymlaen at yr hanner can mlynedd nesaf. Ymlaen â’r gân!
Cyfweliad Alun Gaffey
11. Eleri Angharad – Stronger Stuff
Red Hot Chilli Peppers Meets Sinfonia Cymru- Can’t Stop
We’ve partnered with our friends at Sinfonia Cymru to celebrate NHS workers across Wales and the UK. Recorded on phones across the country, with audio post-production from our producer’s home in Penarth
#StayHomeSaveLives #CantStop #DaliwchAti
Falch i bartneru gyda’n ffrindiau yn Sinfonia Cymru i ddathlu gweithwyr yr NHS dros Gymru a’r DU. Wedi’i recordio ar ffonau ledled y wlad a’u hôl-gynhyrchu yng nghartref ein cynhyrchydd ym Mhenarth.
#StayHomeSaveLives #CantStop #DaliwchAti
Pontio Bangor

Pontio yw Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor, agorwyd yn 2015. Mae’r adeilad, wedi ei gynllunio gan y penseiri Grimshaw, yn gartref i Theatr hyblyg, Stiwdio, a Sinema Ddigidol. Mae bwyd a diod ar gael ym Mar Ffynnon a chaffi Cegin. Mae Celfyddydau Pontio yn cynnig pob math o adloniant saith diwrnod yr wythnos, o’r ffilmiau diweddaraf i gerddoriaeth a drama, gigs, syrcas gyfoes a theatr awyrol, sioeau cabaret a llawer mwy. Hefyd yn rhan o’r adeilad mae canolfan arloesi o’r radd flaenaf ac ystod eang o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys cartref i Undeb y Myfyrwyr a nifer o ofodau dysgu ac addysgu.
Episode/Pennod 12 | Jack Perrett: Goldie Lookin Chain – Greatest Hits

We talk to Newport-based singer-songwriter Jack Perrett on choosing music over sport after being inspired by Oasis, busking outside Kasabian and Liam Gallagher gigs, playing the famous Cavern Club, the invaluable support from Janice Long and his love for Newport. He also talks about being selected as one of the Horizons/Gorwelion 12 in 2019, working […]
Episode/Pennod 11 | Gavin Fitzjohn: Badfinger – Straight Up
We talk to the ridiculously talented multi-instrumentalist Gavin Fitzjohn about the musical education his mother gave him, his ‘uni days’ in Adequate 7, joining Get Cape Wear Cape Fly’s live band and getting the call from Paolo Nutini to meet him at Wembley to play. He also talks about his time working, and playing, with […]
HMS Morris – Babanod
YNYS – Mae’n Hawdd
Pod i’r Penwythnos – Sôn am Sîn

Pod i’r Penwythnos – Sôn am Sîn Chris, Geth a’u ffrindiau sydd, yn llythrennol, yn Sôn am Sîn! Mae’r sianel yn gartref i gyfresi a rhaglenni amrywiol sydd yn trafod pob elfen o’r Sîn Roc Gymraeg a’i chyrion.
SPAN Arts

Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig.
Sefydliad Celfyddydau Cymunedol egnïol yw SPAN. Mae gennym hanes o gyfrannu’n sylweddol i’r celfyddydau yn Sir Benfro dros gyfnod o 30 mlynedd. Mae SPAN yn darparu celfyddydau cymunedol ar draws y sir er mwyn manteisio ar bwerau trawsnewidiol y celfyddydau i greu newid cymdeithasol yng ngorllewin Cymru. Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, artistiaid, perfformwyr a chynhyrchwyr i greu prosiectau a phrofiadau sy’n cyfoethogi bywydau pobl sy’n byw yn ein hardaloedd gwledig, yn gwella iechyd a llesiant, gostwng unigrwydd ac ynysiad, gwrthsefyll rhwystrau i gyrchu gwasanaethau, mynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a chyfrannu at yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru. Ein huchelgais yw i’r celfyddydau yn Sir Benfro ysbrydoli a chysylltu pobl wledig, lleoedd a chymunedau yn greadigol, ac yn ceisio herio canfyddiadau am yr hyn y mae cymunedau gwledig yn gallu ei wneud a’r hyn a fedrant gyflawni pan fyddant yn cydweithio.
Podlediad – Y Degawd Mewn Cerddoriaeth

Yws Gwynedd a Awen Schiavone sydd yn ymuno a Chris Roberts a Gethin Griffiths i drafod y gerddoriaeth a’r datblygiadau sydd yn diffinio’r degawd ddiwethaf mewn cerddoriaeth cyfoes Cymraeg. Recordiwyd y podlediad yma yn fyw o flaen cynulleidfa yn Clwb Canol Dre, Caernarfon fel rhan o Gŵyl Ddewi Arall 2020.
Let it Happen

Wedi ei sefydlu yn 2015 ar ôl disgyn mewn cariad efo sîn cerdddoriaeth Caerdydd a gigio, mae Let it Happen yn flog cerddorol sydd wedi ennill sawl gwobr, sydd yn cyflwyno adolygiadau, cyfweliadau, newyddion am gerddoriaeth a rhestrau chwarae Spotify misol sydd yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan artistiaid o Gymru a ledled y byd. Mae’n le i bobl sy’n caru cerddoriaeth i ddarganfod pethau newydd a bod yn greadigol.
Tŷ Cerdd – Music Centre Wales

Mae Tŷ Cerdd yn dathlu ac yn hyrwyddo cerddoriaeth Cymru. O’n prif swyddfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, rydym yn cydweithio â pherfformwyr, cyfansoddwyr, addysgwyr a chymunedau i feithrin a datblygu cerddora ledled Cymru.
Mae ein label recordiau – Recordiau Tŷ Cerdd – yn cynnwys amrywiaeth eang o albymau cerddoriaeth Gymreig ac mae ein gwasgnod, Cyhoeddiadau Tŷ Cerdd, yn ein galluogi i gyhoeddi gwaith newydd gan gyfansoddwyr Cymreig sy’n byw heddiw yn ogystal â dod â gemau o’r repertoire sydd allan o brint yn ôl ar y tudalennau ac i gymunedau.
Drwy ein menter datblygu artistiaid, CoDI, rydym yn buddsoddi mewn datblygu cymuned sgiliedig ac amrywiol o gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth yng Nghymru.
Bitw – Chwefror
CURADUR pennod 4 – perfformiad byw Bitw
Ennui
Cipolwg ar dridiau ym mywyd y ddeuawd amhoblogaidd Eitha Tal Ffranco, wrth iddyn nhw frysio i orffen eu hail albwm ‘Medina’ mewn pryd, cyn rhannu’r canlyniadau mewn ymddangosiad byw ar raglen Uned 5.
Recordiau Tŷ Cerdd Records – video
Un o’n prif ddatganiadau o’n label, Recordiau Tŷ Cerdd – Mae Hiraeth yn y Môr: albwm llawn o ganeuon gan Dilys Elwyn-Edwards (1918-2012). Elin Manahan Thomas, soprano; Jocelyn Freeman, piano.
Hwyrgerdd / Nightmusic

Ers dechreuad hwyrgerdd – y gyfres cerddoriaeth-newydd mewn cydweithrediad a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd – mae Tŷ Cerdd wedi comisiynu darn byr gan gyfansoddwr Cymreig ar gyfer pob achlysur. Ble’n bosib, mae’r weithiau yma wedi’u cyhoeddi (mewn print, ac yn ddigidol) a’u recordio, a gallwch wrando arnyn nhw ar SoundCloud Tŷ Cerdd. Cerddoriaeth ddalen ar […]
CoDI Composer Pathways
CoDI Composer Pathways (codi in Welsh = to raise; CoDI = Composer Development Initiative) is Tŷ Cerdd’s artist development programme – providing creating development opportunities for composers and music creators at all stages of their career. CoDI is funded by support from Arts Council of Wales, PRS Foundation (Tŷ Cerdd is one of 50 UK-wide […]
Rhodri Brooks – Tynnu Gwaed
Released on Bubblewrap Records on February 7th 2020.
Directed, shot and edited by Rhodri Brooks.
Staring Molly Sinclair-Thomson as ‘Dr Sausage’
Maes b o bell
Cyfres o sesiynnau byw ar instagram Maes B gan gychwyn gyda Mellt nos Iau yma am 8pm.
Elwen Pritchard
Rhyddhawyd EP gan y gantores o Fôn Elwen Pritchard yng nghanol y 70au. Dyma luniau o Elwen gydag Alwyn Humphreys a’r grŵp Gwawn. Ysgrifennwyd y broliant ar gefn yr EP gan neb llai na Charles Williams ac mae copi o’r llythyr gwreiddiol uchod.
Eirlys Parri
Rhoddodd Eirlys Parri fywyd newydd i gerddoriaeth Gymraeg yn 1970. Un o Forfa Nefyn oedd hi a dechreuodd ganu mewn eisteddfodau lleol a gyda’r grwp Lleisiau’r Llwyn. Cafodd gyfle i ganu ar Disc a Dawn ac yn fuan recordiodd senglau i label Tŷ ar y Graig ac yna i Sain. Meddai Dafydd Iwan amdani ar glawr un o’i recordiau cynnar: “Meddyliwch am arfordir gogleddol Llŷn, y môr yn torri ar draeth Morfa Nefyn, bloau’r grug ar y mynydd uwchlaw a chri’r gwylanod ar y gwynt. Mae caneuon Eirlys yn cyfleu’r cyfan hyn a mwy a’i llais yn llawn o ramant hiraethus y mor a’r mynydd.
Cafodd Eirlys yrfa gerddorol lwyddiannus a ymestynodd drwy’r 70au a’r 80au. Cyhoeddodd dair record hir, yn cynnwys clasuron fel ‘Yfory’ a chafodd ei chyfres ei hun ar S4C.
Label CRAI
Ffurfiwyd label Crai yn 1988 i ganolbwyntio ar gerddoriaeth roc a phop.
Trac 42

Ffilmiau. Music Videos. Safon.
Anrhefn
Band pyn-roc dylanwadol a ffurfiwyd yn 1982, yn cynnwys y cerddor a’r darlledwr Rhys Mwyn. Recordiodd yr Anrhefn ar nifer o labeli ac hefyd ar label Crai.
Madryn – Georgia Ruth
Fideo gan Efa Blosse-Mason.
‘Mai’ gan Georgia Ruth allan 19 Mawrth ar Bubblewrap Collective
Blodau Papur – Yma
Steve Eaves
Bu STEVE EAVES yn perfformio ar lwyfannau fel cerddor ers dros 40 mlynedd, a daeth i amlygrwydd gyntaf fel bardd a gyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith, Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986). Y blws yw’r dylanwad pennaf ar ei waith erioed, ac mae’r ddisgyblaeth o sgrifennu barddoniaeth gynnil yn dangos yn glir yn ei ganeuon, ac hefyd y dylanwadau o fyd y jas a sawl math o ganu roc a gwerin. Mae ei fand, Rhai Pobl, yn dod o ardal Bangor / Bethesda yng Ngwynedd a buont yn cydweithio efo fo ers tros 20 mlynedd, gan recordio 9 albwm o ganeuon gwreiddiol Steve ers 1983 – yn eu plith Cyfalaf a Chyfaddawd (1985), Croendenau (1992), Y Canol Llonydd Distaw (1996), Iawn (1999), Moelyci (2007) a ‘y dal yn dynn, y tynnu’n rhydd’ (2019). Fel cyfansoddwr, bardd ac offerynnwr, mae gwaith Steve Eaves yn goroesi pob ffasiwn, a bydd ei ganeuon yn parhau yn eu hapêl i bawb sy’n gwerthfawrogi cerddoriaeth o safon.
CEG

Label Recordiau. Videos. Fenter. Wedi’i eni a’i fagu yng Nghymru.
Mae Recordiau CEG yn fenter gymharol newydd (2017) a ddaeth yn sgil yr angen yn yr ardal (Gogledd Orllewin Cymru) am ffordd mwy cydweithredol i’w aelodau (CEG Music) i gyd-hyrwyddo gwaith ei gilydd a darparu platfform i artistiaid lansio eu gwaith ac i datblygu.
Cafodd Recordiau CEG ei sefydlu a’i redeg gan y cerddorion y mae’n eu cynrychioli, ar y cyd; cydweithio i gyflawni nodau’r artist unigol a’r cymuned creadigol.
Nid ydym yn gyfyngedig yn ein huchelgeisiau, na’n ddaearyddiaeth, felly os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy ac ymuno â ni ar ein taith, yna cysylltwch â ni!
Mae’r enw ‘CEG’ yn acronym am Cerddoriaeth Eryri a’r Gogledd. gwasanaeth, (sydd hefyd yn enw ein Gwmni rhiant, CEG Music CiC.
Gyda llawn, mae CEG yn cael ei ddweud fel y gair Cymraeg am ‘mouth,’ a nid fel ‘a Keg of beer.’
Old Soul MultiCam
Optimist (The Menai Bridges)
Papur Wal – Yn y Weriniaeth Tsiec (Curadur)
Sera – Atlantis (Capel Curig Sessions)
Adwaith – Fel i Fod
Le Pub

“Ein bwriad yw rhoi gofod creadigol sy’n agored i bawb i bobl Casnewydd. Rydym yn swyno ac ysbrydoli cymuned amrywiol wrth hyrwyddo cerddoriaeth a chelf o bob math. Rydym yn hyb greadigol sy’n gweithredu o galon ein dinas, yn gweithio’n ddiflino i gysylltu cynulleidfaoedd hen a newydd gyda cherddoriaeth byw, celf a sinema wych”
Mae Le Public Space yn ganolfan cerdd a chelf sy’n sefyll yng nghalon dinas Casnewydd, Le Public Space yw’r gofod annibynnol mwyaf ar gyfer y celfyddydau yn y ddinas. Agorwyd yr adeilad ar High Street, Casnewydd yn 2017. ‘Le Public Space’ yw’r llythrennau sydd i’w darllen ar flaen y drws, ond tu fewn, mae’r stafell ar gyfer cerddoriaeth byw yn cael ei adnabod fel ‘Le Pub’. Mae’r cyfleusterau newydd wedi’u hadeiladu yn dilyn llwyddiant Le Pub, sef lleoliad gig bach a wnaeth gyflwyno cerddoriaeth byw i bobl Casnewydd ers 1992 tan y diwrnod ail-agorwyd ei ddrysau yn ddiweddarach.
Mae Le Public Space yn eiddo i’r gymuned ac nid er elw. Mae yna raglen lawn o gerddoriaeth byw, celfyddyd, comedi a llawer mwy ac rydym yn gweini bwyd llysieuol a figan hyfryd! Ar hyn o bryd, ry’n ni’n datblygu cynlluniau i ehangu, felly gwyliwch y gofod!
Los Blancos – Cadi (Maes b 2018)
Y band o Gaerfyrddin yn chwarae’n fyw ym Maes B ar nos Wener Steddfod Caerdydd 2018.
Mellt – Rebel (Maes b 2018)
Enillwyr Albwm y Flwyddyn y Steddfod yn fyw o lwyfan Maes B ym Mae Caerdydd.
Yws Gwynedd – Sebona Fi (Maes b 2017)
Yn fyw o lwyfan Maes B ar nos Sadwrn ola’ ‘Steddfod Môn.
Merched yn Neud Miwsig
Forté at The Great Escape
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Yn arwain y ffordd wrth ddarparu cyfleoedd eithriadol yn y cefyddydau i’r bobl ifanc fwyaf talentog o bob cefndir ac o bob cwr o Gymru.
Sefydlwyd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2017 i uno ac arwain y gwaith o ddatblygu’r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol mawreddog a hirsefydlog, sef Band Pres, Cerddorfa, Côr, ensemble Dawns, a Theatr.
Mae’r rhai sy’n cael eu derbyn i fod yn aelodau am flwyddyn ar ôl clyweliad llwyddiannus yn cael hyfforddiant a chyfleoedd perfformio eithriadol gyda cyrsiau preswyl dwys a phleserus sy’n cael eu cynnal yn ystod gwyliau’r ysgol. Dim ond y cerddorion, actorion a dawnswyr ifanc mwyaf talentog sy’n cael eu dewis, ac mae llawer o gystadleuaeth. Fel corff sydd wedi ymrwymo i sicrhau mynediad a chynhwysiant i bawb, beth bynnag fo’u cefndir neu eu lleoliad, mae Bwrsariaeth CCIC yn sicrhau bod unigolion dawnus yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gymryd rhan ac i ragori.