Cartref digidol diwylliant Cymru.

SPAN Arts

Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig.

Sefydliad Celfyddydau Cymunedol egnïol yw SPAN. Mae gennym hanes o gyfrannu’n sylweddol i’r celfyddydau yn Sir Benfro dros gyfnod o 30 mlynedd. Mae SPAN yn darparu celfyddydau cymunedol ar draws y sir er mwyn manteisio ar bwerau trawsnewidiol y celfyddydau i greu newid cymdeithasol yng ngorllewin Cymru. Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr, artistiaid, perfformwyr a chynhyrchwyr i greu prosiectau a phrofiadau sy’n cyfoethogi bywydau pobl sy’n byw yn ein hardaloedd gwledig, yn gwella iechyd a llesiant, gostwng unigrwydd ac ynysiad, gwrthsefyll rhwystrau i gyrchu gwasanaethau, mynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a chyfrannu at yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru. Ein huchelgais yw i’r celfyddydau yn Sir Benfro ysbrydoli a chysylltu pobl wledig, lleoedd a chymunedau yn greadigol, ac yn ceisio herio canfyddiadau am yr hyn y mae cymunedau gwledig yn gallu ei wneud a’r hyn a fedrant gyflawni pan fyddant yn cydweithio.

Cynnwys