Cartref digidol diwylliant Cymru.

MR PHORMULA : Gweithdy Beatboxing Workshop

Cerddoriaeth

Ar 18fed Ebrill mae Celfyddydau Span yn cyflwyno gweithdy ar-lein gyda Mr Phormula trwy YouTube o’i stiwdio gartref!
Bydd y linc i’r ffrwd fyw ar YouTube ar gael 15 munud cyn i’r gweithdy gael ei gynnal. Bydd cyfle i sgwrsio’n fyw gyda’r artist trwy YouTube live chat.
Mae Mr Phormula yn un o arloeswyr y sîn bît-bocsio yn y DU. Wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhirwedd Cymru, mae’i berfformiadau ysbrydoledig a’i gyfansoddiadau lleisiol wedi rhoi cydnabyddiaeth ryngwladol i’w waith fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw. Mae 13 mlynedd brofiad o weithio mewn amgylchedd addysgol wedi rhoi Mr Phormula yn y blaen efo gweithdai beatbocsio a rap dwyieithog.

RHANNWCH