Mae God is in The TV yn ffansîn cerddoriaeth a diwylliant a ffurfiwyd gan y golygydd Bill Cummings yng Nghaerdydd yn 2003. Datblygodd Bill y wefan gyda chymorth tîm o olygyddion ac ysgrifennwyr o bob cwr o Brydain yn adlewyrchu ystod eang o gerddoriaeth newydd a hen.
Ethos craidd God is in the TV yw rhoi platfform annibynol i ffans cerddoriaeth, ysgrifennwyr ac artistiaid waeth bynnag natur na statws eu cerddoriaeth. Rydym yn gwahodd cyfraniadau gan newyddiadurwyr amatur a phroffesiynol gan roi iddynt ryddid i fynegi eu hunain ar y wefan yn adolygu ac asesu y recordiau diweddaraf.
Dros y blynyddoedd mae God is in the TV wedi hyrwyddo gigs, rhyddhau CD aml-gyfrannog a chyfres o senglau i’w lawrlwytho a chefnogi nifer o artistiaid mawr ar gychwyn eu gyrfaeodd.