Breichiau Hir – Sesiynau Gŵyl Tawe 2026
Mae’r sesiwn Gŵyl Tawe nesaf gyda Breichiau Hir yn fyw o Neuadd Brangwyn. Cyfarwyddwr – Gareth Bull Sain – Graham Morse
Gorwel Owen – Glas
Trac oddi ar ‘Yn iach eto teimlo tant’, albwm sy’n seiliedig ar recordiadau sither ar Bandcamp a gwasanaethau ffrydio drwy Pyst (Recordiau OFN, Mehefin 19, 2026 ). Mae’r geiriau ‘Yn iach eto teimlo tant’ yn deillio o farwnad i Gruffudd Llwyd gan y bardd Tudur Aled o’r 15g-16g (gweler Gwaith Tudur Aled, gol. T. Gwynn […]
IFAND – Cusan (Official Music Video)
Y fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer Cusan gan IFAND, allan nawr trwy Klust Music. O’r EP sydd i ddod, AMOD, allan 22 Mai 2026.
Panedeni – Atamanaa (single)
‘Atamanaa’ gan ensemble trawsddiwylliannol o’r Gogledd, Panedeni – ar Recordiau Sionci. Cefnogwyd gan Gronfa Fideos PYST x S4C Music Video Fund. Credyd fideo: Rob Corcoran, 73 Degree Films
Y Ci – Darwinesque
Cerys Hafana – Sesiynau Gŵyl Tawe 2026
Sesiynau Gŵyl Tawe 2026 gyda Cerys Hafana yn fyw o Dylan Thomas Birthplace, Swansea. Cyfarwyddwyr – Tobias Lagos + Lewis Sharpe Fideograffeg a golygu – Tobias Lagos Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire
Di-Cysgodion – Pole Climbing
Huw V Williams – Bass/cyfansoddi Mike De Souza – Guitar Billy Marrows – Guitar Jay Davis – Drums Recordio/mixio – Michael Collins Mastro – Kliph Scurlock Cyfarwyddo/ffilmio – Griff Lynch Ariannwyd gan gronfa fideos cerddoriaeth PYST x S4C.
Elin a Carys – Hela’r Dryw
Hela’r Dryw – Traddodiadol, wedi ei drefnu gan Elin a Carys Bodhrán – Freddie Willets Cello – Awen Blandford Ffidil– Gwilym Bowen Rhys Cynhyrchu fideo– James Dougan & Elin Gittins Gyda diolch i PYST a Recordiau Sain
Tokomololo at Tŷ Tawe, Swansea
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Boneyard covers band promo
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Rhys Dafis at Tŷ Tawe, Swansea
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Griff Lynch at Llywelyn Hall, Swansea
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Małgola,NO at TŷTawe, Swansea
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Wigwam at Tŷ Tawe, Swansea
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
The Flames covers band promo
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Mared Williams at Tŷ Tawe, Swansea
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Los Blancos at Swansea’s Grand Theatre
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Coron Moron – Sesiynau Gŵyl Tawe 2026
Mae’r sesiwn Gŵyl Tawe 2026 nesaf gyda Coron Moron yn fyw o The Bunkhouse allan nawr! Cyfarwyddwr + Camera – Sarah Williams Sain – Kalebh Speakman
Eleven Sound Hire

Busnes peirianneg sain a llogi PA bach, cyfeillgar ac ymatebol wedi’i leoli yn Abertawe. Rydym hefyd yn cynnig recordio a chymysgu sain amldrac ddigidol byw. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Cyngor Abertawe, Cyngor Tref Rhydaman, Swansea Fringe, Swansea Arena, Menter Iaith Abertawe, Menter Cwm Gwendraeth Elli, Nawr, The Rock Project, a nifer mwy o ganolfannau, […]
Griff Lynch – Sesiynau Gŵyl Tawe 2026

Mae Menter Iaith Abertawe yn gyffrous i rannu’r cyntaf o’u sesiynau Gŵyl Tawe 2026 gyda Griff Lynch yn fyw o theatr hanesyddol Llewelyn yn yr adeilad YMCA Swansea. Cyfarwyddwr – Ka Long Tung Camera – Adwitiya Pal Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire
Tŷ Cerdd | Tapestri | 1: Cymdeithas y Delyn Deires
Cymdeithas y Delyn Deires: O delynor proffesiynol sydd wedi chwarae’r delyn ar deithiau rhyngwladol am dros ddeugain mlynedd, i’r rheiny sy’n newydd i’r offeryn traddodiadol hwn. Darganfyddwch fwy am y criw o ffrindiau sy’n cyfarfod i chwarae a rhannu alawon ar y delyn draddodiadol Gymreig, yn eu canolfan arbennig yn Nhalyllyn. Am fwy o […]
Ayan Cymru

Mae Ayan Cymru yn dathlu croestoriad diwylliannau Indiaidd a Chymreig drwy brosiectau celf, addysg a lles o’r safon uchaf. Mae’r sefydliad, a arweinir gan Amruta Garud, lleisydd Indiaidd traddodiadol ac addysgwr o gefndir ethnig, yn ymrwymedig i hybu dysgu byd-oes a gwytnwch emosiynol. Trwy’r fenter meddylgarwch arloesol InterConnect a phrosiectau asiol, dwyieithog, mae Ayan Cymru […]
Tŷ Cerdd | Tapestri | 2: Wales One World Choir
Wales One World Choir: Wedi’i sylfaenu degawd yn ôl, dyma brosiect celfyddydau cymunedol sy’n dathlu lleisiau pobl o bob cwr o’r byd – pobl sy’n aml wedi’u dadleoli o’u gwledydd genedigol. Gyda 75% o’r côr yn bobl o liw ac ieithoedd y côr yn cynnwys Cymraeg, Saesneg, Arabeg, Punjabi, i enwi ond ambell un, dyma […]
Lafant ‘O! Mor Las’
Fideo swyddogol i sengl Lafant ‘O! Mor Las’. Wedi ei ariannu gan Fideo Cerddorol (Prifysgol Aberystwyth). Cyfarwyddwr: Nico Dafydd Animeiddio: Lleucu Elisa
DWY – Artist Preswyl 2025

Enlli a Lleucu yw Dwy – deuawd ffliwt deinamig o Gaerdydd. Maent yn gerddorion sy’n cyfuno eu diddordebau mewn alawon gwerin, dawns traddodiadol, cerddoriaeth glasurol a diwylliant Cymreig i gynhyrchu gwaith sy’n ymgorffori effeithiau electroneg a thechnegau estynedig mewn cyflwyniadau sy’n creu sain unigryw, egnïol a chofiadwy. Yn 2023 enillodd Dwy gomisiwn gan yr Eisteddfod […]
Tŷ Cerdd | Tapestri | 3: Seindorf Beaumaris Band
Seindorf Beaumaris: Ffurfiwyd lawer o fandiau pres wedi’i sefydlu mewn ymateb i ddiwydiant lleol – fel y pyllau glo a’r chwareli, ond a wyddoch chi y ffurfiwyd Seindorf Beaumaris mewn ymgais i hybu twristiaeth i gornel fach hyfryd o Ynys Môn? Dyma fand sydd wedi ei gwreiddio yn ei chymuned ac yn falch iawn o […]
Tŷ Cerdd | Tapestri | 4: Zebra Cactus
Zebra Cactus: Mwynhewch y ‘supergroup’ 10 aelod yma sydd ag ysbryd ‘DIY’ ac agwedd bync wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gig nesaf. Ffurfiwyd Zebra Cactus drwy Bwthyn Sonig, rhaglen Tŷ Cerdd sy’n hyrwyddo cerddoriaeth newydd sbon gan artistiaid sydd ag anableddau dysgu. Am fwy o wybodaeth ar brosiect Tapestri, ewch i https://www.tycerdd.org/tapestri-cym
Tŷ Cerdd | Tapestri | 5: Côr Meibion Llanymddyfri
Côr Meibion Llanymddyfri: Dewch i gael cipolwg ar ymarfer gan gôr cymunedol sydd â’i bryd ar hyrwyddo gwerthfawrogiad pobl o gerddoriaeth gorawl meibion yng Nghymru. Gyda theidiau, tadau a meibion yn canu ynghyd, dyma gôr sy’n pontio’r cenedlaethau ac yn cyfoethogi eu cymuned glos. Am fwy o wybodaeth ar brosiect Tapestri, ewch i https://www.tycerdd.org/tapestri-cym
Tŷ Cerdd | Tapestri | 6: Ayan Cymru
Ayan Cymru: Dewch i fwynhau detholiad bach o sioe ddiweddar gan Ayan Cymru sy’n wledd o gerddoriaeth amlddiwylliannol. Perfformir y cyfan gan grŵp amrywiol o berfformwyr a phobl greadigol sy’n cydweithio ar draws cerddoriaeth, dawns a theatr. Am fwy o wybodaeth ar brosiect Tapestri, ewch i https://www.tycerdd.org/tapestri-cym
Tŷ Cerdd | Tapestri | 7: Sesiwn Werin Chapter Folk Session
Sesiwn Werin Chapter: Eisteddwch ac ymunwch yn yr hwyl. Mae hon yn sesiwn werin agored wrth far Chapter, canolfan gelfyddydol yng Nghaerdydd sy’n rhoi cyfle i chwarae, canu, dawnsio, ac ymwneud â thraddodiadau Cymreig a thu hwnt. Am fwy o wybodaeth ar brosiect Tapestri, ewch i https://www.tycerdd.org/tapestri-cym
Tŷ Cerdd | Tapestri | 8: LLiFT
LLiFT: Mae’n braf chwarae cerddoriaeth er mwyn chwarae; darganfod synau newydd, ymateb i gerddorion eraill a bod yn gwbl greadigol heb ffiniau. Dyma yw nod LliFT, grŵp cymunedol cynhwysol sy’n rhoi cyfle i unigolion chwarae neu brofi cerddoriaeth ensemble byrfyfyr yn rheolaidd yng ngogledd Cymru. Mwynhewch ei sain unigryw. Am fwy o wybodaeth ar […]
Spotify Playlist
Tŷ Cerdd | Tapestri | 9: Forget-me-not Chorus, De Caerdydd a’r Fro
Forget-me-not Chorus De Caerdydd a’r Fro: Cymerwch gipolwg ar ymarfer diweddar a dewch i gwrdd â mam a merch sy’n aelodau selog o gangen De Caerdydd a’r Fro o Forget-me-not. Dyma grŵp sy’n cefnogi’r rheiny sy’n byw gyda dementia, a’i hanwyliaid, drwy bŵer cyd-ganu. Am fwy o wybodaeth ar brosiect Tapestri, ewch i https://www.tycerdd.org/tapestri-cym
Dathlu Menywod yng Nghymru ar Ddydd Gŵyl Dewi

Rydym yn falch o gyhoeddi ein poster olaf am ein digwyddiad Adlais ‘Dathlu Mewnywod Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi’ ar 1/3 yn YMa, Pontypridd. Cerddoriaeth byw, gweithdai, ffilmiau, sgyrisau + mwy trwy’r dydd. MYNEDIAD AM DDIM!
Tŷ Cerdd yn cyflwyno ‘Tapestri’

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2026, mae Tŷ Cerdd yn cyflwyno Tapestri, casgliad o ffilmiau byrion sy’n cyfleu ysbryd 15 o grwpiau cerddorol ym mhob cwr o Gymru. Mae Tapestri yn plethu stori fywiog cerddoriaeth Gymreig heddiw. Crëwyd y ffilmiau yn ystod mis Ionawr 2026 gan y gwneuthurwr ffilmiau arobryn Meinir Siencyn. Mae’r ffilmiau’n cynnig […]
Tŷ Cerdd | Tapestri | 10: Philomusica Aberystwyth
Philomusica Aberystwyth: Dewch am dro i lan y môr i gwrdd â Philomusica, cerddorfa symffoni gymunedol Aberystwyth a ffurfiwyd ym 1972. Mae ei haelodau – myfyrwyr a phobl leol – yn cwrdd yn wythnosol i rannu’r wefr o greu cerddoriaeth fawr, bwerus, gerddorfaol. Am fwy o wybodaeth ar brosiect Tapestri, ewch i https://www.tycerdd.org/tapestri-cym
Tŷ Cerdd | Tapestri | 11: Panedeni
Panedeni: Sut mae grŵp cerdd yn mynd ati i blethu Arabeg a’r Gymraeg? Sut mae caneuon gwerin Cymreig yn swnio gyda rhythmau Arabaidd? Mae Panedeni (cyfuniad o “paned” o de â “Adeni” te o Yemen) grŵp o Wrecsam, yma i ddatgelu’r cyfan. Dyma grŵp sy’n dathlu cerddoriaeth amlddiwylliannol ac yn ehangu gorwelion. Am fwy […]
Tŷ Cerdd | Tapestri | 12: Côr Meibion Hoyw De Cymru
Côr Meibion Hoyw De Cymru: Ydych chi weithiau’n teimlo’n flinedig ar ddiwedd diwrnod hir? Mae aelodau’r côr bywiog a chynhwysol yma o Gaerdydd yn deall yn iawn. Yr hyn maen nhw’n ei argymell? Dod ynghyd â phobl eraill sydd wrth eu bodd yn canu, a mwynhau cyd-ganu caneuon egnïol, byrlymus sy’n llawn hwyl. Am […]
Tŷ Cerdd | Tapestri | 13: Dawns ar gyfer Parkinson’s
Dawnsio ar gyfer Parkinson’s – Cyffordd Llandudno: Mae cerddoriaeth a symudiad yn bwysig i’r enaid, fel y mae’r grŵp yma’n deall yn iawn. Dewch i weld grŵp Dawnsio ar gyfer Parkinson’s – Cyffordd Llandudno, dan arweiniad Cywaith Dawns. Maent yn cyfarfod yn wythnosol i deimlo buddion symud creadigol, cerddoriaeth delyn fyw a sgwrs dda dros […]
Tŷ Cerdd | Tapestri | 14: Canfod y Gân
Canfod y Gân: Mae cerddoriaeth yn ffordd o gysylltu ag eraill a ffurfio cymuned, fel y gwelir gyda Canfod y Gân – prosiect arloesol Canolfan Gerdd William Mathias mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Mae Canfod y Gân yn canolbwyntio ar greu cerddoriaeth gydweithredol a chynhwysol, ac yn rhoi lle i unigolion fynegi eu hunain. […]
Angen (Feat. kts_had_enough & Sage Todz)
Fideo swyddogol ar gyfer sengl gyntaf DAGRAU (prosiect unigol newydd Llion Robertson), wedi’i chyd-ysgrifennu gyda kts_had_enough (Katie Hall o’r band Chroma) ac yn cynnwys y rapiwr, Sage Todz. Fideo wedi cael ei ariannu gan gronfa fideos PYST x S4C.
Cyflwyno SOSEJ

Mae SOSEJ yn brosiect newydd i bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru trwy grant Llais y Lle. Dyma flog gan Nico Dafydd, artist cymunedol ar y prosiect, yn esbonio’r syniad tu ôl i’r cynllun “Dwi wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am bwysigrwydd cerddoriaeth; i wrando arno, i’w chwarae, i’w gyfansoddi, a’i fwynhau gyda ffrindiau. I […]
Tŷ Cerdd | Tapestri | 15: Ffidil Fawr
Ffidil Fawr: Mae’r penwythnos hwn yn ddathliad o’r traddodiad ffidil yng Nghymru. O’r rheiny sy’n newydd iawn i gerddoriaeth ffidil, i arbenigwyr, mae Ffidil Fawr yn dod â dros 100 o bobol at ei gilydd i ddysgu, rhannu a dathlu’r ffidil yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth ar brosiect Tapestri, ewch i https://www.tycerdd.org/tapestri-cym
Mared – Bore Hir (Ffrinj Abertawe 2025)
Mae Menter Iaith Abertawe yn gyffrous i rannu’r sesiynau wedi eu recordio yn Tŷ Tawe yn ystod Gŵyl Ffrinj Abertawe. Mared – Bore Hir (Ffrinj Abertawe 2025) Gitarydd – Ed Allen Saethu a Golygu – Sam Stevens (sam.ffoto) a Siôn Teifi Rees(sion.ffoto) Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire
Tapestri – 01.03.26
Mae Tŷ Cerdd yn cyflwyno Tapestri, o ffilmiau byrion sy’n dal ysbryd grwpiau cerddorol ar hyd a lled Cymru, sydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar Am. Crëwyd y ffilmiau yn ystod mis Ionawr 2026 gan y gwneuthurwr ffilmiau arobryn Meinir Siencyn. Mae’r ffilmiau’n cynnig golwg fanwl ar y gerddoriaeth sy’n cael ei […]
Wigwam – Paid â Dod Nôl i Fi (Ffrinj Abertawe 2025)
Mae Menter Iaith Abertawe yn gyffrous i rannu’r sesiynau wedi eu recordio yn Tŷ Tawe yn ystod Gŵyl Ffrinj Abertawe. Wigwam – Paid â Dod Nôl i Fi (Ffrinj Abertawe 2025) Saethu a Golygu – Sam Stevens (sam.ffoto) a Siôn Teifi Rees(sion.ffoto) Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire
AD-DREFNU – Lleucu Elisa Jenkins
Ffilm yn olrhain hanes ymgyrch ad-drefnu Fflach Cymunedol a ffrwyth llafur eu gwaith caled o feithryn y sîn gerddorol lleol yn ardal Aberteifi blwyddyn wedi’r ymgyrch. Comisiynwyd yn rhan o rifyn arbennig o’r ŵyl ffilmiau digidol AmCam i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.
Sŵn Mach – Lowri Page
Ffilm ddogfen am don newydd o arbrofi cerddorol Cymreig yng Nghanolbarth Cymru, yn cynnwys Tai Haf Heb Drigolyn, Osgled a Cerys Hafana. Comisiynwyd yn rhan o rifyn arbennig o’r ŵyl ffilmiau digidol AmCam, i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.