Mae Tŷ Cerdd yn cyflwyno Tapestri, o ffilmiau byrion sy’n dal ysbryd grwpiau cerddorol ar hyd a lled Cymru, sydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar Am.
Crëwyd y ffilmiau yn ystod mis Ionawr 2026 gan y gwneuthurwr ffilmiau arobryn Meinir Siencyn. Mae’r ffilmiau’n cynnig golwg fanwl ar y gerddoriaeth sy’n cael ei chreu heddiw a phwysigrwydd grwpiau o’r fath i gymunedau ledled y wlad. O gôr a ffurfiwyd gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ensembles gwerin traddodiadol, ac o fand pres i gymdeithas y delyn deires, mae Tapestri yn profi bod sain Cymru yn fwy amrywiol nag erioed o’r blaen.
Gan adlewyrchu cymunedau Cymru heddiw, mae’r rhan fwyaf o’r grwpiau dan sylw yn gweithredu’n ddwyieithog, gan berfformio yn Gymraeg a Saesneg ac mae sawl iaith arall yn cael eu a’u cynnwys yn perfformiadau hefyd – Arabeg, Hindi, Marathi, Yoruba, Twrceg, Ido, Medumba, Pwnjabeg, Creole a Tigrinya.
Mae’r prosiect hwn yn mynd y tu hwnt i berfformio cerddoriaeth, mae’n tynnu sylw at yr effaith gymdeithasol hollbwysig a geir o gymryd rhan yn y celfyddydau ar lawr gwlad. Mae Tapestri yn dangos sut mae dod ynghyd i greu cerddoriaeth gydag eraill yn dda i iechyd meddwl a lles, ac yn gwella cydlyniant cymunedol.
Dywedodd Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd:
“Cerddorion ar hyd a lled y wlad yw enaid Tŷ Cerdd, ac mae’n fraint o’r mwyaf gennym gydweithio â nhw a’u dathlu. Mae’r ffilmiau byrion sy’n ffurfio Tapestri yn deyrnged addas iawn i nawddsant Cymru; mae “gwneud y pethau bychain” – neges Dewi Sant yn cael ei chynrychioli’n hyfryd gan y 15 grŵp rhyfeddol yma o gerddorion,sy’n dod â hud a charedigrwydd creu cerddoriaeth i’w cymunedau –yn union fel cannoedd o grwpiau eraill ym mhob cwr o’r wlad. Rydyn ni’n gwybod y bydd pawb sy’n gwylio ffilmiau Tapestri yn teimlo’n ysbrydoledig ac yn falch, yn union fel yr ydym ni.”
Mae Tapestri yn bosib diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026 Llywodraeth Cymru. Gwyliwch y 15 ffilm ar Am ar Ddydd Gŵyl Dewi.